eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 12 Gorffennaf 2018 (Rhifyn 191)

12 Gorffennaf 2018 • Rhifyn 191

 
 
 
 
 
 

DIWEDDARIADAU BLOG NEWYDD

Education DCF animation image CY

Animeiddiadau newydd a deunyddiau wedi'u diweddaru 

Education - Porthcawl - DCF 90 x 90

Ysgol Gyfun Porthcawl – ‘Gan bwyll y mae mynd ymhell’ wrth gyflwyno’r Cymhwysedd Digidol 

education - st martins - DCF 120 x 90

Ysgol Sant Martin, Caerffili: mynd ati ar eu pennau i gyflwyno cymhwysedd digidol

Education - st christophers - dcf 90 x 90

Ysgol Sant Christopher, Wrecsam: ‘cracio’r cod’ mewn ffordd arbennig

PROFION DARLLEN A RHIFEDD CENEDLAETHOL

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol

Dyddiadau Profion Cenedlaethol 2019

  • Ysgolion cynradd: Dydd Mawrth 7 Mai – Dydd Mawrth 14 Mai
  • Ysgolion uwchradd: Dydd Llun 29 Ebrill – Dydd Mawrth 14 Mai

 

    MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

    Cana Dros y Cymoedd

    Bydd dros 200 o blant o dros 20 o ysgolion ar draws Cymoedd De Cymru yn rhyddhau “Cana dros y Cymoedd” ar sbotify, can a sgrifennwyd gan ganwr - cyfansoddwr Kizzy Crawford, mewn partneriaeth gyda’r plant ysgolion lleol.

    I lawr lwytho’r gân chwiliwch Ein Cymoedd Our Valleys ar Spotify.

    I weld y fideo cerddoriaeth a’r fideo tu cefn y llenni dilynwch @talkvalleys ar Facebook, Twitter ac Instagram

    Grant Datblygu Disgyblion (PDG) – Mynediad

    Am £125 gallwch brynu gwisg ysgol, offer, pecyn chwaraeon a phecyn ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.

    Bydd plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gymwys ar gyfer y grant hwn os ydynt yn:

    • Mynd i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd
    • Mynd i flwyddyn 7 yn ysgol uwchradd
    • Oed 4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion

    Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!

    Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad  erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales

    DIOGELWCH AR-LEIN

    Cymerwch ran yn ein harolwg ar ddiogelwch ar-lein ar gyfer Cymru

    Nod Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, yw helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar y rhyngrwyd ac i hybu ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein.

    Mae'r arolwg pwysig hwn ar gael o 27 Mehefin hyd at 20 Gorffennaf i bob ymarferydd addysgol a gweithiwr proffesiynol ym maes addysg ei lenwi os dymunant.

    Pwysigrwydd cynnal ac ailedrych ar eich adolygiad 360 o ddiogelwch ar-lein

    Fframwaith hunanasesu ar gyfer gwella diogelwch ar-lein ysgolion yw adnodd 360 degree safe Cymru. Fe'i cynlluniwyd i helpu ysgolion i adolygu a gwella eu harferion a'u polisïau o ran diogelwch ar-lein. Mae'r adnodd yn creu camau gweithredu ac yn awgrymu'r camau nesaf, ac mae'n adrodd yn ôl ynghylch gwelliannau a wnaed. Mae'n galluogi ysgolion i adolygu eu harferion a'u polisïau o ran diogelwch ar-lein. 

    Canllaw i athrawon ar ffrydio byw ar-lein

    Mae'r canllaw hwn i athrawon a staff cynorthwyol yn edrych ar ffrydio byw a'i apêl i blant a phobl ifanc wedi'i gyhoeddi. Mae'r canllaw yn bwrw golwg dros y risgiau posibl a sut y gall athrawon fynd i'r afael â hyn.

    Canllaw i rieni a gofalwyr ynghylch manteision a risgiau chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein.

    Mae'r cyntaf mewn cyfres o bum canllaw newydd wedi cael ei gyhoeddi, yn cynnig syniadau defnyddiol i rieni a gofalwyr.

    Effaith insta: Delwedd o'r corff a hunan-barch mewn oes ddigidol - rhestrau chwarae newydd ar gael

    Mae pum rhestr chwarae newydd am effaith y we ar ddelwedd o'r corff a hunan-barch ar gael nawr ar gyfer plant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr, a llywodraethwyr.

    HWB AC ADNODDAU ERAILL

    Hwb: nodweddion newydd cyffrous

    Rydyn ni wedi cyflwyno nodwedd ‘hysbysiad llwyfan’ newydd ar gyfer cyhoeddiadau am y gwasanaeth, a fydd yn helpu i esbonio pan fydd unrhyw uwchraddio wedi’i drefnu neu broblemau’n codi. Rydyn ni’n gobeithio na fyddwch chi’n gweld hwn yn aml iawn!

    Cyflwyniad i EBSCO: eich offeryn ymchwil am ddim yn y PDP

    Fel cofrestrai gyda CGA, cewch fynediad am ddim i EBSCO - llyfrgell ar-lein o ymchwil, e-gyfnodolion, tanysgrifiadau cylchgrawn ac e-lyfrau ar-lein. Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod sut i gael mynediad at hyn trwy'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol

    Awyr dywyll a llygredd golau

    Mae’r adnodd Cyfnod Allweddol 2 hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio effeithiau llygredd golau gan ddefnyddio planetariwm a gaiff ei adeiladu ganddynt yn y dosbarth. Byddant hefyd yn arbrofi ag atebion posibl, a dysgu pam fod seryddwyr angen awyr dywyll.

    NEWYDDION ARALL

    Cystadleuaeth ffotograffiaeth Infertebratau Anhygoel Cymru!

    Yn galw ar bob ffotograffydd bywyd gwyllt ifanc! Dyma gyfle'r haf yma iti gymryd rhan yng nghystadleuaeth Buglife Cymru ble gelli ennill gwobrau anhygoel.  Dyddiad cau: Dydd Gwener 14eg Medi 2018 a chyhoeddir enw’r pedwar enillydd ar 5ed Hydref.

    Arweinwyr Mathemateg – Beth ydych chi eisiau? Beth ydych chi angen?

    Er mwyn rhoi gwybod i Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg am waith arweinyddiaeth fathemateg, rydym yn gofyn i bob arweinydd mathemateg lenwi holiadur byr

    Helpwch Into Film Cymru lunio ein DPP ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf - cwblhewch yr arolwg yma

    Athrawon mathemateg – rhowch eich barn

    Nod y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg yw ceisio deall y dirwedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg yng Nghymru. Er mwyn casglu barn, rydym yn gofyn i bob athro mathemateg, ym mhob cyfnod addysg ysgol a choleg i gwblhau holiadur byr erbyn 31 Gorffennaf 2018.

    Siarad yn Broffesiynol 2018

    Mae CGA wedi gwahodd y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams, a Sue Williams, Uwch Gynghorydd Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod rôl natur a'r awyr agored mewn addysg fodern Gymreig a'r buddion iechyd a lles cysylltiedig. 

    S4C - Cystadleuaeth Côr Cymru 2019

    Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2019 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000.  

     
     

    YNGHYLCH DYSG

    Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth ar y we:

    gov.wales/educationmissionwales

    Blog Cwricwlwm i Gymru

    Diwygio’r cwricwlwm

    Fframwaith Cymhwysedd Digidol

    HWB

    Dilynwch ni ar Facebook:

    Addysg Cymru

     

    Dilynwch ni ar Twitter:

    @LlC_Addysg

    @LlywodraethCym

    @HwbNews