Mae canlyniadau Profion Darllen a
Rhifedd Cenedlaethol 2018 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd
eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn
ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr.
Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio
canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau
Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar
wefan Dysgu Cymru.
Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer
wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion
Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar
daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
Dyddiadau Profion Cenedlaethol 2019
- Ysgolion
cynradd: Dydd Mawrth 7 Mai – Dydd Mawrth 14 Mai
- Ysgolion uwchradd: Dydd Llun 29 Ebrill – Dydd Mawrth 14 Mai
Bydd dros 200 o blant o dros 20 o
ysgolion ar draws Cymoedd De Cymru yn rhyddhau “Cana dros y Cymoedd” ar
sbotify, can a sgrifennwyd gan ganwr - cyfansoddwr Kizzy Crawford, mewn partneriaeth
gyda’r plant ysgolion lleol.
I lawr lwytho’r gân chwiliwch Ein Cymoedd Our
Valleys ar Spotify.
I weld y fideo cerddoriaeth a’r fideo tu cefn
y llenni dilynwch @talkvalleys ar Facebook, Twitter ac Instagram
Am
£125 gallwch brynu gwisg ysgol, offer, pecyn chwaraeon a phecyn ar gyfer
gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.
Bydd
plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn
gymwys ar gyfer y grant hwn os ydynt yn:
- Mynd
i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd
- Mynd
i flwyddyn 7 yn ysgol uwchradd
- Oed
4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion
arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion
Rhestr Anrhydeddau’r
Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r
Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr
Anrhydeddau’r Penblwydd 2019. Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n
gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth
eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn
cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales
Nod
Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, yw helpu i ddiogelu plant a phobl
ifanc rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar y rhyngrwyd ac i hybu
ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein.
Mae'r
arolwg pwysig hwn ar gael o 27 Mehefin hyd at 20
Gorffennaf i bob ymarferydd addysgol a gweithiwr proffesiynol ym maes addysg ei
lenwi os dymunant.
Fframwaith hunanasesu ar gyfer gwella
diogelwch ar-lein ysgolion yw adnodd 360 degree safe Cymru. Fe'i cynlluniwyd i
helpu ysgolion i adolygu a gwella eu harferion a'u polisïau o ran diogelwch
ar-lein. Mae'r adnodd yn creu camau gweithredu ac yn awgrymu'r camau nesaf, ac
mae'n adrodd yn ôl ynghylch gwelliannau a wnaed. Mae'n galluogi ysgolion i
adolygu eu harferion a'u polisïau o ran diogelwch ar-lein.
Mae'r canllaw hwn i athrawon a staff
cynorthwyol yn edrych ar ffrydio byw a'i apêl i blant a phobl ifanc wedi'i
gyhoeddi. Mae'r canllaw yn bwrw golwg dros y risgiau posibl a sut y gall
athrawon fynd i'r afael â hyn.
Mae'r cyntaf mewn cyfres o bum canllaw newydd wedi cael
ei gyhoeddi, yn cynnig syniadau defnyddiol i rieni a gofalwyr.
Mae pum rhestr chwarae newydd am effaith y we
ar ddelwedd o'r corff a hunan-barch ar gael nawr ar gyfer plant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni
a gofalwyr, a llywodraethwyr.
Rydyn
ni wedi cyflwyno nodwedd ‘hysbysiad llwyfan’ newydd ar gyfer cyhoeddiadau am y
gwasanaeth, a fydd yn helpu i esbonio pan fydd unrhyw uwchraddio wedi’i drefnu
neu broblemau’n codi. Rydyn ni’n gobeithio na fyddwch chi’n gweld hwn yn aml
iawn!
Fel cofrestrai gyda CGA, cewch fynediad am
ddim i EBSCO - llyfrgell ar-lein o ymchwil, e-gyfnodolion, tanysgrifiadau
cylchgrawn ac e-lyfrau ar-lein. Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod sut i gael
mynediad at hyn trwy'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol
Mae’r adnodd
Cyfnod Allweddol 2 hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio effeithiau llygredd
golau gan ddefnyddio planetariwm a gaiff ei
adeiladu ganddynt yn y dosbarth. Byddant hefyd yn
arbrofi ag atebion posibl, a dysgu pam fod seryddwyr angen
awyr dywyll.
Yn galw ar bob
ffotograffydd bywyd gwyllt ifanc! Dyma gyfle'r haf yma iti gymryd rhan yng
nghystadleuaeth Buglife Cymru ble gelli ennill gwobrau anhygoel. Dyddiad cau: Dydd Gwener 14eg Medi 2018 a chyhoeddir enw’r
pedwar enillydd ar 5ed Hydref.
Arweinwyr Mathemateg –
Beth ydych chi eisiau? Beth ydych chi angen?
Er
mwyn rhoi gwybod i Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg
am waith arweinyddiaeth fathemateg, rydym yn gofyn i bob arweinydd mathemateg
lenwi holiadur byr
Helpwch Into Film
Cymru lunio ein DPP ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf - cwblhewch yr arolwg yma
Athrawon mathemateg –
rhowch eich barn
Nod
y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg yw ceisio deall
y dirwedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg yng
Nghymru. Er mwyn casglu barn, rydym yn gofyn i bob athro mathemateg, ym
mhob cyfnod addysg ysgol a choleg i gwblhau holiadur byr erbyn 31 Gorffennaf 2018.
Mae CGA wedi gwahodd y cyflwynydd
teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams, a Sue Williams, Uwch Gynghorydd Addysg
Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod rôl natur a'r awyr agored mewn addysg fodern
Gymreig a'r buddion iechyd a lles cysylltiedig.
Mae S4C
yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2019 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000.
|