Am £125 gallwch brynu gwisg ysgol, offer, pecyn chwaraeon a phecyn ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.
Bydd plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gymwys ar gyfer y grant hwn os ydynt yn:
- Mynd i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd
- Mynd i flwyddyn 7 yn ysgol uwchradd
- Oed 4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion
Bydd dros 200 o blant o dros 20 o
ysgolion ar draws Cymoedd De Cymru yn rhyddhau “Cana dros y Cymoedd” ar
sbotify, can a sgrifennwyd gan ganwr - cyfansoddwr Kizzy Crawford, mewn
partneriaeth gyda’r plant ysgolion lleol.
I lawr lwytho’r gân chwiliwch Ein
Cymoedd Our Valleys ar Spotify.
I weld y
fideo cerddoriaeth a’r fideo tu cefn y llenni dilynwch @talkvalleys ar Facebook,
Twitter ac Instagram
Mae hyn yn
parhau â pholisi presennol Llywodraeth Cymru ac yn golygu y bydd myfyrwyr yn
gymwys i dderbyn cymorth hyd nes y byddant yn cwblhau eu cwrs.
Rhestr Anrhydeddau’r
Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r
Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr
Anrhydeddau’r Penblwydd 2019. Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n
gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth
eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn
cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales
Nod Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, yw helpu i
ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar y
rhyngrwyd ac i hybu ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein.
Mae'r arolwg
pwysig hwn ar gael o 27 Mehefin hyd at 20 Gorffennaf i bob ymarferydd addysgol
a gweithiwr proffesiynol ym maes addysg ei lenwi os dymunant.
Fframwaith hunanasesu ar gyfer gwella diogelwch ar-lein
ysgolion yw adnodd 360 degree safe Cymru. Fe'i cynlluniwyd i helpu ysgolion i
adolygu a gwella eu harferion a'u polisïau o ran diogelwch ar-lein. Mae'r
adnodd yn creu camau gweithredu ac yn awgrymu'r camau nesaf, ac mae'n adrodd yn
ôl ynghylch gwelliannau a wnaed. Mae'n galluogi ysgolion i adolygu eu harferion
a'u polisïau o ran diogelwch ar-lein.
Mae'r canllaw hwn i athrawon a staff cynorthwyol yn
edrych ar ffrydio byw a'i apêl i blant a phobl ifanc wedi'i gyhoeddi. Mae'r
canllaw yn bwrw golwg dros y risgiau posibl a sut y gall athrawon fynd i'r
afael â hyn.
Mae pum rhestr chwarae newydd am effaith y we ar ddelwedd
o'r corff a hunan-barch ar gael nawr ar gyfer plant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr, a
llywodraethwyr.
Mae’r
Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg
feddygol ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y Gogledd.
Bydd yr
ymgynghoriad yn amlinellu cynigion pellach ar gyfer sefydlu a dull gweithredu’r
Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru yn cau ar 17 Gorffennaf. Byddem yn
falch o gael eich sylwadau cyn i’r ymgynghoriad gau.
Rydyn ni wedi cyflwyno nodwedd ‘hysbysiad
llwyfan’ newydd ar gyfer cyhoeddiadau am y gwasanaeth, a fydd yn helpu i
esbonio pan fydd unrhyw uwchraddio wedi’i drefnu neu broblemau’n codi. Rydyn
ni’n gobeithio na fyddwch chi’n gweld hwn yn aml iawn!
Mae'r adnodd
cyfrwng Cymraeg yma, sy'n addas i ddysgwyr 14 i 19 oed, yn cynnwys fideos
canllawiau-defnyddiwr/tiwtorials ar gyfer meddalwedd cerddoriaeth Sibelius,
Logic Pro X a Garage Band.
Dyma fideo o astudiaeth achos gan Ysgol Gyfun
Treforys sy’n dangos egwyddorion gwyddonol yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus
drwy weithgareddau creadigol. Aeth disgyblion Cyfnod Allweddol 3 i ymweld â
llawfeddyg ac adran ar gyfer cymalau prosthetig o’r corff yn eu hysbyty lleol.
Fel cofrestrai gyda CGA, cewch fynediad am ddim i EBSCO -
llyfrgell ar-lein o ymchwil, e-gyfnodolion, tanysgrifiadau cylchgrawn ac
e-lyfrau ar-lein. Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod sut i gael mynediad at hyn
trwy'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol
Mae CGA wedi gwahodd y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams,
a Sue Williams, Uwch Gynghorydd Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod rôl
natur a'r awyr agored mewn addysg fodern Gymreig a'r buddion iechyd a lles
cysylltiedig.
Arweinwyr Mathemateg – Beth ydych chi eisiau?
Beth ydych chi angen?
Er mwyn rhoi gwybod i Rwydwaith Cenedlaethol ar
gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg am waith arweinyddiaeth fathemateg, rydym yn
gofyn i bob arweinydd mathemateg lenwi holiadur
byr
Athrawon
mathemateg – rhowch eich barn
Nod y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer
Rhagoriaeth mewn Mathemateg yw ceisio deall y dirwedd datblygiad proffesiynol
ar gyfer athrawon mathemateg yng Nghymru. Er mwyn casglu barn,
rydym yn gofyn i bob athro mathemateg, ym mhob cyfnod addysg ysgol a choleg i
gwblhau holiadur byr erbyn 31 Gorffennaf
2018.
Helpwch Into Film Cymru lunio ein DPP ar gyfer y
flwyddyn academaidd nesaf - cwblhewch yr arolwg yma
Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2019 –
cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000.
|