|
|
Gwyliwch fideo o'r prosiect buddugol ‘Keeping It Fresh - ap i leihau
gwastraff bwyd ' gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga.
|
|
|
Gallai TAR newydd rhan-amser sy'n cyfuno astudio
ar-lein â dosbarthiadau tiwtorial a seminarau olygu bod Cymru'n arwain y ffordd
cyn hir o ran Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).
|
|
|
Ar gael NAWR – Safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu
Canllaw defnyddiol i'ch helpu drwy'r
safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu yng Nghymru, a fydd ar
gael i'w defnyddio o fis Medi 2018 a bydd yn sail i ymgynghoriad yn y misoedd
canlynol.
|
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno casglu tystiolaeth a
dealltwriaeth bellach o ystod y tasgau y gofynnir i Gweithwyr Cymorth Dysgu yn
y dosbarth eu cyflawni yn rhan o'u rôl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cyntaf
mewn cyfres o ganllawiau ynghylch sut y bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol Addysg (Cymru) 2018 yn
cael ei wireddu. Mae'r
canllaw yn nodi amserlen orfodol arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff
llywodraethu ysgolion i symud plant ag AAA i’r system ADY newydd. Canllaw
Rhestr Anrhydeddau’r
Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r Grwp Addysg a
Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd
2019. Os ydych yn gwybod am unrhyw
berson sy’n gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant
neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 30 Gorffennaf 2018. Cysylltwch â ni trwy i dderbyn ffurflenni a
gwybodaeth bellach David.Gardiner@gov.wales
Cronfa o £200,000 i gefnogi Plant Milwyr yng Nghymru
Gwahoddir ysgolion i wneud cais am
gyllid o gronfa o £200,000 i helpu i liniaru ar effaith bosibl lefel uchel
iawn o fynd a dod ymhlith cymunedau’r Lluoedd Arfog ar ysgolion a’u
dysgwyr. Mae’r gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan y Prosiect Cynorthwyo
Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE). Cliciwch yma am ragor of
wybodaeth ac i wneud cais
Herio a meithrin disgyblion mwy abl a dawnus yng nghyfnodau
allweddol 2 i 4: ymateb y Llywodraeth
Beth ydym yn bwriadu ei wneud mewn
ymateb i argymhellion Estyn ynglŷn â sut i gefnogi disgyblion mwy abl a dawnus
Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3:
Ymateb y Llywodraeth
Ein hymateb i argymhellion Estyn i
wella safonau o fewn addysg grefyddol. Gallwch ddarllen adroddiad llawn
Estyn ar ei gwefan
Ar ôl cael adborth yn dweud bod y chwilio
byd-eang yn ffordd boblogaidd o ddod o hyd i gynnwys ar Hwb, rydyn ni wedi
gwella’r ffordd mae canlyniadau’n cael eu dychwelyd. Hefyd rydyn ni wedi
ychwanegu gallu i ddidol yn ôl tagiau fel ei bod yn haws i chi ddod o hyd i’r
hyn rydych chi’n chwilio amdano.
Gallwch gael mynediad at y Porth Rheoli Defnyddwyr Hwb
drwy'r ddolen yn adran offer Hwb. Bydd angen i Weinyddwyr Hwb ddefnyddio'r
porth i ddatgan bod caniatâd
(gweler
yr erthygl newyddion ar GDPR) wedi dod i law ar gyfer cyfrifon dysgwyr er
mwyn cael mynediad at offer Hwb.
Darganfod taith
rithwir danddaearol yn Big Pit fel rhan o fyd cyffrous Google Expeditions.
Mae’r adnodd Cyfnod Allweddol 2 hwn yn esbonio cymaint yn fwy pwerus yw
telesgopau roboteg na’r llygad dynol.
Wedi’ch ysbrydoli gan PROCESSIONS, mae
adnodd addysgu wedi’i ddatblygu a fydd yn annog disgyblion i ddatblygu
ymwybyddiaeth o bleidlais i fenywod, yn ogystal â gwybodaeth hanesyddol yn
cynnig cyfle i drafod cydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn cyd-destun heddiw
drwy symudiad, dadl, cerddoriaeth a chelf weledol.
|