eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 2 Gorffennaf 2018 (Rhifyn 529)

2 Gorffennaf 2018 • Rhifyn 529

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Education - teacher and pupil 90 x 90

"Gall TAR newydd ar-lein olygu bod Cymru'n arwain y ffordd" – Kirsty Williams

Gallai TAR newydd rhan-amser sy'n cyfuno astudio ar-lein â dosbarthiadau tiwtorial a seminarau olygu bod Cymru'n arwain y ffordd cyn hir o ran Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).

Seren 90 x 90

Seren yn agor y drws ar raglen haf Prifysgol Yale sef Yale Young Global Scholars

Mae'r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr Cymru diolch i’r ysgoloriaeth a ariennir ar y cyd rhwng Ysgolheigion Ifanc Byd-eang Iâl (YYGS) a Llywodraeth Cymru.

Education NDLE 90 x 90

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018

Cyhoeddwyd enillydd Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ar 20 Mehefin. Llongyfarchiadau i Usk Church in Wales Primary School a oedd yn fuddugol gyda'u prosiect 'Keeping It Fresh - an app to reduce food waste'.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cyrraedd carreg filltir bwysig – 100 o brosiectau wedi'u cwblhau drwy'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21fed ganrif

Mae dysgwyr ac athrawon ym mhob rhan o Gymru bellach yn mwynhau adeiladau ysgol a choleg newydd a modern, diolch i Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21fed ganrif Llywodraeth Cymru.

Ar gael NAWR – Safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu

Canllaw defnyddiol i'ch helpu drwy'r safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu yng Nghymru, a fydd ar gael i'w defnyddio o fis Medi 2018 a bydd yn sail i ymgynghoriad yn y misoedd canlynol.

Oes diddordeb gennych yn dylunio darpariaeth dysgu Proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd?

Mae gwahoddiad i dendro ar gyfer cytundeb Datblygu a Dylunio Dysgu Proffesiynol i gefnogi gwaith ymchwil â’r rhwydwaith ysgolion ehangach yn fyw ar Gwerthwchigymru

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyflenwyr

Fframwaith ar gyfer adnoddau Cymraeg a dwyieithog ynghyd â gwasanaethau arbenigedd cwricwlwm ac awduro.

Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ynglŷn a sut i ymgeisio bydd angen cofrestru fel cyflenwr ar wefan Gwerthwch i Gymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3.00pm 6 Gorffennaf 2018

Canllawiau newydd i helpu lleoliadau gofal plant Cymru i ddarparu bwyd a diod iach

Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad  erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales

Herio a meithrin disgyblion mwy abl a dawnus yng nghyfnodau allweddol 2 i 4: ymateb y Llywodraeth

Beth ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i argymhellion Estyn ynglŷn â sut i gefnogi disgyblion mwy abl a dawnus
Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan

Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3: Ymateb y Llywodraeth

Ein hymateb i argymhellion Estyn i wella safonau o fewn addysg grefyddol.  Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan

Ymateb i adroddiad thematig Estyn ar gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog – Sut orau i herio a meithrin disgyblion mwy abl a thalentog: Cyfnodau Allweddol 2 i 4

Cronfa o £200,000 i gefnogi Plant Milwyr yng Nghymru

Gwahoddir ysgolion i wneud cais am gyllid o gronfa o £200,000 i helpu i liniaru ar effaith bosibl lefel uchel iawn o fynd a dod ymhlith cymunedau’r Lluoedd Arfog ar ysgolion a’u dysgwyr. Mae’r gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan y Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE).  Cliciwch yma am ragor of wybodaeth ac i wneud cais

Pecyn i ysgolion ar roi organau

Mae’r pecyn hwn yn darparu gweithgareddau ar roi organau i’w defnyddio mewn gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac mae wedi ei anelu at Gyfnodau Allweddol 3 a 4. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a bydd yn addysgu’r disgyblion ac yn eu galluogi i drafod rhoi organau yn y dosbarth ac yn eu cartrefi.

HWB AC ADNODDAU ERAILL

Hwb: nodweddion newydd cyffrous

Mae Hwb wedi cael ei ddiweddaru gyda nodweddion newydd yn cynnwys:

  • nodwedd ‘hysbysiad llwyfan’ newydd
  • gwell hysbysiadau
  • dolenni newydd i'r adran gymorth.

100 mlynedd - Ymchwilio a dysgu am hanes y bleidlais i fenywod, democratiaeth a chydraddoldeb rhwng y rhywiau

Wedi’ch ysbrydoli gan PROCESSIONS, mae adnodd addysgu wedi’i ddatblygu a fydd yn annog disgyblion i ddatblygu ymwybyddiaeth o bleidlais i fenywod, yn ogystal â gwybodaeth hanesyddol yn cynnig cyfle i drafod cydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn cyd-destun heddiw drwy symudiad, dadl, cerddoriaeth a chelf weledol.

Dysgu Byd-eang ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus: 9fed o Orffennaf, Casnewydd

Hyfforddiant sy'n addas ar gyfer athrawon ysgol gynradd ac uwchradd, gan ganolbwyntio ar offer ar gyfer meddwl, dysgu, a mynd i'r afael â materion dadleuol. Neilltuwch le nawr drwy ebostio ksims@educationdevelopmenttrust.com a derbyn £100 tuag at gostau cyflenwi ar ôl mynychu’r hyfforddiant - y cyntaf i’r felin gaiff falu!

Y Cliciadur – 3ydd Rhifyn

Mae Trydydd rhifyn yr E-bapur newydd cyffrous i ddisgyblion CA2, sy’n cynnwys nifer o erthyglau amrywiol. Mae’r rhifyn yma yn edrych ar Cwpan Pêl Droed y Byd, yn ogystal a enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2018.

NEWYDDION ARALL

Ymarfer myfyriol a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol

Dysgwch sut gall y Pasbort Dysgu Proffesiynol eich helpu fel ymarferydd myfyriol – o gofnodi eich profiadau’n gyflym ac yn rhwydd, i ddefnyddio templedi strwythuredig i fyfyrio ar y profiadau hyn, i offer ymchwil i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau newydd.

Sut i ... sefydlu clwb cyfnodolion

Dysgwch am hanfodion sefydlu clwb cyfnodolion a sut i wneud y mwyaf o adnodd ESBCO y mae gennych fynediad iddo fel cofretrai gyda CGA.  Mae ‘sut i greu clwb cylchgrawn’ ar gael mewn ffurf PDF  yma.  Mae’r daflen werthuso clwb cyfnodolion hefyd ar gael mewn ffurf PDF.

17eg Cynhadledd Blynyddol Athrawon Ffiseg Cymru

Diwrnod am ddim o gyflwyniadau a gweithdai ar gyfer athrawon a

thechnegwyr 3ydd Hydref 2018 Aberhonddu

Mae Cynhadledd Blynyddol Athrawon Ffiseg Cymru yn gyfle gwych i athrawon a thechnegwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau DPP ffiseg. Mae'r diwrnod hwn o weithdai am ddim yn agored i bob athro, technegydd, athro newydd gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant.  Am wybodaeth bellach ac i archebu ewch

Hyfforddiant Estyn ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid

Mae Estyn yn chwilio am benaethiaid neu uwch arweinwyr ysgolion uwchradd i hyfforddi fel Arolygwyr Cymheiriaid. Ymgeisiwch erbyn 10 Gorffennaf am 2pm

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales/educationmissionwales

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

HWB

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews