eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 19 Mehefin 2018 (Rhifyn 528)

19 Mehefin 2018 • Rhifyn 528

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Gwerthwch i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyflenwyr

Fframwaith ar gyfer adnoddau Cymraeg a dwyieithog ynghyd â gwasanaethau arbenigedd cwricwlwm ac awduro.

 

Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ynglŷn a sut i ymgeisio bydd angen cofrestru fel cyflenwr ar wefan Gwerthwch i Gymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3.00pm 6 Gorffennaf 2018

TeachingTomorrow130130

Lansio arolwg ar-lein i gasglu barn athrawon am ba mor ddeniadol yw addysgu a chadw athrawon yng Nghymru

Os ydych yn athro cymwysedig yng Nghymru a bod gennych 6 munud i'w sbario, llenwch #YmchwilAthrawon

Gwerthwch i Gymru

Newydd: Oes diddordeb gennych yn dylunio darpariaeth dysgu Professional ar gyfer y cwricwlwm newydd?

Mae gwahoddiad i dendro ar gyfer cytundeb Datblygu a Dylunio Dysgu Proffesiynol i gefnogi gwaith ymchwil â’r rhwydwaith ysgolion ehangach yn fyw ar Gwerthwchigymru

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni

Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad thematig Estyn ynghylch pa mor dda y mae ysgolion yn cyfathrebu â rhieni

Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn yma

Pecyn i ysgolion ar roi organau

Mae’r pecyn hwn yn darparu gweithgareddau ar roi organau i’w defnyddio mewn gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac mae wedi ei anelu at Gyfnodau Allweddol 3 a 4. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a bydd yn addysgu’r disgyblion ac yn eu galluogi i drafod rhoi organau yn y dosbarth ac yn eu cartrefi.

Cyflogi a cefnogi athrawon cyflenwi

Mae cyngor ar pwy sy’n gallu addysgu mewn ysgol a gynhelir; Athrawon cymwysedig a gwaith addysgu; Gofynion diogelu; Rheoliadau gweithwyr asiantaeth ac athrawon cyflenwi ac Cefnogi athrawon cyflenwi yn yr ysgol o'r cyfnod ymsefydlu i'w hymadawiad ar gael yma.

Asesiad cyflym o’r dystiolaeth: Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith effeithiol

Bwriedir i’r adroddiad hwn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru.

Cynnig Gofal Plant Cymru: ‘Trafodaeth Fwrdd’– Sesiynau Trafod 

Mae Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i sesiynau #TrafodGofalPlant rhanbarthol. Cofrestrwch nawr.   

Ȏl-16

Mae’n Wythnos Addysg Oedolion!

18-24 Mehefin 2018 

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru er mwyn dathlu’r holl gyrsiau amrywiol sydd ar gael i oedolion sy’n dymuno dysgu. Ymunwch â’r ymgyrch i ddathlu dysgu a llwyddiannau’r unigolion yr ydych wedi cydweithio â hwy. Dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion diweddaraf.    

hwb ac adnoddau eraill

Hwb: nodweddion newydd cyffrous

Mae Hwb yn cael ei ddiweddaru gyda nodweddion newydd yn cynnwys:

·       nodwedd ‘hysbysiad llwyfan’ newydd

·       gwell hysbysiadau

dolenni newydd i'ch cynorthwyo.

Anturiaethau Ada mewn Gwyddoniaeth

Cyfres o lyfrau comig y gellir eu defnyddio fel adnodd addysgol yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 yw Anturiaethau Ada mewn Gwyddoniaeth, er mwyn cyflwyno a chyffroi plant am wyddoniaeth.

Gwasanaeth Bwyd a Diod - Lefelau 1 a 2

Cyfieithiad Cymraeg o lyfr sy'n cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer astudio Tystysgrif Lefel 1 a Diploma Lefel 2 yn y Gwasanaeth Bwyd a Diod proffesiynol.

Economeg - Creu Diagramau

Nod yr adnodd hwn yw addysgu cysyniadau allweddol Economeg TAG UG/U i ddysgwyr trwy gyfrwng creu diagramau.

Arbrofion ar Ffilm

Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar yr ymarferion ymarferol craidd a ymddengys ym manyleb newydd CBAC ar gyfer UG a Safon Uwch, Cemeg. Bydd Bioleg a Ffiseg yn dilyn yn fuan.

The Great Get Together

O’r 22-24 Mehefin, bydd The Great Get Together yn cael ei gynnal ledled y wlad, ac rydym yn gofyn i ysgolion gymryd rhan gyda gwasanaeth arbennig ar ddydd Gwener 22 Mehefin

Mae adnoddau ar gael yn awr i'w lawrlwytho ar dudalen ysgolion gwefan Great get Together.

newyddion arall

Defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol yn unrhyw le

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol yn cael ei ategu gan ap penodol, rhad ac am ddim, sy’n eich galluogi i gofnodi yn unrhyw le. Archwiliwch nodweddion yr ap, a chael gwybod ble y gallwch ei lawrlwytho, trwy glicio ar y ddolen uchod.

Hyfforddiant Estyn ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid

Mae Estyn yn chwilio am benaethiaid neu uwch arweinwyr ysgolion uwchradd i hyfforddi fel Arolygwyr Cymheiriaid. Ymgeisiwch erbyn 10 Gorffennaf am 2pm

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales/educationmissionwales

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

HWB

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews