|
|
Fframwaith ar gyfer adnoddau Cymraeg a dwyieithog ynghyd
â gwasanaethau arbenigedd cwricwlwm ac awduro.
Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ynglŷn a sut i
ymgeisio bydd angen cofrestru fel cyflenwr ar wefan Gwerthwch i Gymru. Y
dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3.00pm
6 Gorffennaf 2018
|
|
|
Os ydych yn athro cymwysedig yng Nghymru a
bod gennych 6 munud i'w sbario, llenwch #YmchwilAthrawon
|
Eleni bydd Digwyddiad
Dysgu Digidol Cenedlaethol ar 20 Mehefin
yn gyfle i ddangos yr arferion digidol arloesol sy’n cael eu datblygu mewn
ysgolion ledled Cymru.
Bydd ymarferwyr yn cynnig sylwadau ymarferol am sut
aethant i roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith yn rhan o’r gwaith
ehangach ar ddiwygio’r cwricwlwm.
Gallwch diweddaru’ch gwybodaeth o'r
diweddariadau i'r cwricwlwm drwy wrando ar bodlediad Addysg Cymru ar Spreaker neu iTunes.
Pan fydd y cylch profion wedi’i
weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid
llofnodi'r datganiad a’i gyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15
Mehefin.
Cyflogi a
cefnogi athrawon cyflenwi
Mae cyngor ar pwy sy’n gallu
addysgu mewn ysgol a gynhelir; Athrawon cymwysedig a gwaith addysgu; Gofynion
diogelu; Rheoliadau gweithwyr asiantaeth ac athrawon cyflenwi ac Cefnogi
athrawon cyflenwi yn yr ysgol o'r cyfnod ymsefydlu i'w hymadawiad ar gael yma.
Bwriedir i’r adroddiad hwn ychwanegu at y sylfaen
dystiolaeth ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i sesiynau #TrafodGofalPlant rhanbarthol. Cofrestrwch nawr.
#EinCymunedEinCyngor
Rydym yn awyddus i
glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch eich
sylwadau drwy lenwi’r
arolwg byr hwn (dolen allanol)
Nod
ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' yw dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n profi
neu wedi profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth
pwerus iawn.
Bydd yr
ymgyrch yn un amlgyfrwng ac yn cynnwys ffilm, hysbyseb radio, a chyfryngau
digidol a chymdeithasol.
Porthol rheoli
defnyddwyr Hwb
Mae Porthol Rheoli Defnyddwyr newydd Hwb ar gael nawr i
ddefnyddwyr fersiwn beta. Mae dolen i'r porthol ar gael yn adran offer Hwb.
Mae canllawiau i ddefnyddwyr ar y porth ar gael yma.
Mae Cyw wedi
gweithio gyda Chanolfan Peniarth i greu cynllun gwaith bydd yn cynorthwyo
athrawon i ddathlu pen-blwydd Cyw. Mae'r cynllun yn cynnwys gwledd o syniadau
a'r cyfan wedi ei glymu yn briodol i'r Proffil Cyfnod Sylfaen er mwyn i ddisgyblion
chwarae, chwerthin a dysgu.
Mae’r adnodd hwn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn esbonio
cysyniadau pwysig y Cyhydedd a’r Hemisfferau, gan ddefnyddio arddangosiad
ymarferol syml.
Beth fyddai eich disgyblion yn wneud
gyda pump punt mewn dim ond 4 wythnos?. Mae’r her Pump Punt yn fenter ledled y
DU ar gyfer pob plentyn ysgol 5-11 oed. Yng Nghymru, mae’r her yn rhedeg yn
ystod mis Mehefin gyda enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo.
O’r 22-24 Mehefin, bydd The Great Get Together yn cael ei gynnal ledled y wlad, ac rydym yn gofyn i
ysgolion gymryd rhan gyda gwasanaeth arbennig ar ddydd Gwener 22 Mehefin.
Mae adnoddau ar gael yn awr i'w
lawrlwytho ar dudalen ysgolion gwefan Great get Together.
Mae’r Pasbort
Dysgu Proffesiynol yn cael ei ategu gan ap penodol, rhad ac am ddim, sy’n eich
galluogi i gofnodi yn unrhyw le. Archwiliwch nodweddion yr ap, a chael gwybod
ble y gallwch ei lawrlwytho, trwy glicio ar y ddolen uchod.
Pori Drwy Stori
Fy Llyfr, adnodd tymor yr Haf:
Helpwch y plant yn eich
dosbarth Derbyn i ddod yn awduron yn ystod y tymor hwn drwy greu’u llyfr nhw’u
hunain gan ddefnyddio Fy Llyfr Pori Drwy Stori. Dysgwch am syniadau newydd ac
ysbrydoliaeth ar lein yn ein pecynnau
offer a chanllawiau i Athrawon. Cofrestrwch i dderbyn ein
e-newyddion tymhorol i gael rhagor o wybodaeth yn
syth i’ch mewnflwch.
Derbyn adnoddau:
Peidiwch ag anghofio y dylai’r cyflenwad nesaf
o’ch adnodd gyrraedd eich ysgol o’r wythnos sy’n dechrau ar 18 Mehefin ymlaen.
Bydd y cyflenwad hwn yn cynnwys Canllawiau Teulu, y gallwch chi eu rhannu â
rhieni / gofalwyr
Bydd y digwyddiad a gynhelir yn y Cynulliad Cenedlaethol yn arddangos y
gwaith o hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc. Bydd y digwyddiad ar ffurf 'marchnadle'
a bydd croeso i westeion ymweld â'r stondinau i gymryd rhan mewn trafodaethau
a gweithgareddau anffurfiol.
Mae'r rhaglen Canolfan
Ragoriaeth yn cydnabod ac yn gwobrwyo ysgolion sy'n ymrwymo i addysg ariannol,
yn ei datblygu ac yn parhau i ragori arni, yn eu hysgol eu hunain a thu hwnt.
Mae Cynhadledd Flynyddol Genedlaethol Canolfannau
Rhagoriaeth eleni yn cael ei chynnal ar 14 Tachwedd 2018.
Bydd y cofrestru'n
cau ar 1 Awst 2018.
Mae Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwahodd ysgolion uwchradd yng Nghymru i wneud
cais i gael hwyluswyr i wirfoddoli i ddysgu'r CPR yn eu hysgolion
|