Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

  15 Mehefin 2018 • Rhifyn 005

 
 

Newyddion

0

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Caffael’

Ar ôl ystyried amrywiaeth o opsiynau gwasanaeth, mae rhanddeiliaid Gwerth Cymru wedi cytuno bod angen iddo ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau. Ni chafwyd unrhyw gonsensws o'r fath ar fodel gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC), ac mae hwn wrthi'n cael ei ddatblygu. Darllen mwy

Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd (ESPD)

Wybodaeth Ddiweddaraf

Mae'r Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd newydd bellach yn fyw ar wefan GwerthwchiGymru, ac mae ar gael i'w defnyddio ar unwaith. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r ddogfen a sut y bydd yn newid trefniadau caffael, darllenwch fwy.

Keyboard
1

Y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael

Mae'r trefniadau cytundebol presennol ar gyfer eFasnachuCymru ar waith tan fis Ionawr 2019. I gael gwybodaeth am y trefniadau newydd ar ôl mis Ionawr 2019 a'r diweddaraf ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mewn perthynas ag eGaffael, darllenwch fwy.

Uwchraddio eDendroCymru

Rydym wedi trefnu i eDendroCymru gael ei uwchraddio i'r fersiwn ddiweddaraf o 17 Mehefin 2018. Darllenwch fwy i gael gwybodaeth am y porth cymorth i gwsmeriaid a'r grwpiau defnyddwyr a drefnwyd.

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr i gael eich hysbysu ymlaen llaw am ddigwyddiadau gan y GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr yn y maes caffael yng Nghymru.

Cofiwch gadw llygad hefyd ar Twitter a thudalennau LinkedIn y GCC, ac ar GwerthwchiGymru ar gyfer cyhoeddiadau am ddigwyddiadau'r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori.

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybodaeth am y fframwaith deunyddiau adeiladu newydd; a gwybodaeth am ymestyn y fframwaith dodrefn a'r fframwaith gwasanaethau glanhau.

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Construction

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybodaeth am y rheolwr cyfrifon newydd; gwybodaeth am y rhestr brisiau graidd a chyfle i roi adborth ar wasanaethau post, gwasanaethau cludo a chyfarpar ystafell bost Cymru gyfan.

Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y diweddaraf ar yr estyniad i'r fframwaith tanwydd hylif a'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn Grwpiau Fforwm Categori sydd i ddod; gwybodaeth am yr estyniad i'r fframwaith llogi cerbydau – fframwaith lot 3; y diweddaraf ar y tendr telemateg; y fframwaith gwirio trwyddedau gyrwyr; yr adolygiad o brisiau teiars a'r cytundeb yn ôl gofyn presennol ar gyfer cardiau tanwydd.

 

CyswlltNPSFleet@llyw.cymru

cars

Digidol, Data a TGCh

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybodaeth am y Cytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth sydd i ddod; y rheolwyr cyfrifon newydd a'r rhestr brisiau graidd ac i gael cyfle i roi adborth ar wasanaethau post, gwasanaethau cludo a chyfarpar ystafell bost Cymru gyfan.

CyswlltNPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

food

Bwyd a Diod

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y diweddaraf ar y cyfarfod ar ddiogelwch bwyd; gwybodaeth am y ffordd y mae eitemau tafladwy ym maes arlwyo yn helpu i gefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol; y cyfleoedd ar hyn o bryd i gyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig; a'r cyfleoedd o ran mini-gystadlaethau


CyswlltNPSFood@llyw.cymru

Gwasanaethau Pobl

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael manylion cyswllt diweddaraf staff a rheolwyr deunydd ysgrifennu ac i glywed am lwyddiant iCOM yn seremoni Go Awards ym Manceinion. 

CyswlltNPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

1

Gwasanaethau Proffesiynol

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y diweddaraf ar y fframwaith ymgynghoriaeth eiddo; a'r diweddaraf ar y fframwaith gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg a'r canlyniadau y cytunodd y Grŵp Fforwm Categori arnynt; i gael gwybodaeth am y ffordd y caiff cynllun tlodi tanwydd Cymru gyfan seiliedig ar ardaloedd (Arbed 3) ei reoli a'i gyflawni; a gwybodaeth am yr hysbysiad ar gyfer ymgynghoriaeth TAW a gwasanaethau ariannol y GCC.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link