|
|
18-24 Mehefin 2018
Gall
dysgu agor pob mathau o ddrysau, o ieithoedd i gyfrifiaduron, gofal plant i
gyllid. Os ydych yn darparu cyfleoedd dysgu a sesiynau sgiliau ar gyfer
oedolion ymunwch â’r ymgyrch er mwyn dathlu a hyrwyddo’r hyn yr ydych yn ei
gynnig. Dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion diweddaraf.
|
|
|
Eleni bydd Digwyddiad
Dysgu Digidol Cenedlaethol ar 20 Mehefin
yn gyfle i ddangos yr arferion digidol arloesol sy’n cael eu datblygu mewn
ysgolion ledled Cymru.
Bydd ymarferwyr yn cynnig sylwadau ymarferol am sut
aethant i roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith yn rhan o’r gwaith
ehangach ar ddiwygio’r cwricwlwm.
|
|
|
Gallwch diweddaru’ch gwybodaeth o'r diweddariadau i'r cwricwlwm drwy wrando ar bodlediad Addysg Cymru ar Spreaker neu iTunes.
|
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnig datblygiad blaenllaw ym maes addysg gychwynnol i athrawon, sef TAR ran-amser newydd mewn partneriaeth â phrifysgolion a astudir wrth weithio mewn ysgol, sy'n cynnwys nifer o leoedd sy'n seiliedig ar gyflogaeth.
Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018 - Datganiad y Pennaeth
Pan fydd y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi'r datganiad a’i gyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15 Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil sy’n ystyried tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn lleoliadau addysg, yn benodol Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD).
Os ydych chi’n athro cymwysedig yng Nghymru efo 6 munud sbâr,
cwblhewch os gwelwch chi’n dda #YmchwilAthrawon
#EinCymunedEinCyngor
Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch eich sylwadau drwy lenwi’r arolwg byr hwn (dolen allanol)
Nod
ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' yw dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n profi
neu wedi profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth
pwerus iawn.
Bydd yr ymgyrch yn un amlgyfrwng ac yn cynnwys ffilm, hysbyseb radio, a
chyfryngau digidol a chymdeithasol.
Mae’r bwletin diweddaraf yn
ymwneud â’r canlynol:
- mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 - cyhoeddiad ar newidiadau yn y dyfodol a threfniadau
2018
- cyfraniad y cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG) wrth fesur
perfformiad,
- datblygu mesurau perfformiad cyson ar gyfer y sector ôl-16, a’r
- cohort Cyfnod Allweddol 4 - disgyblion sy’n ailsefyll blwyddyn
11.
Yn
rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi,
sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yng Nghaerdydd a Llandudno ar
10 & 11 ac 17 & 18 Hydref, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn
cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.
Cysylltwch â Natasha
Creighton i gael gwybod mwy drwy ffonio 01823
362800 neu drwy e-bostio Visitors@prospects.co.uk
Peidiwch â cholli’r cyfle! Archebwch eich lle ar gyfer y
Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol. Y dyddiad cau yw 15 Mehefin.
Porthol rheoli
defnyddwyr Hwb
Mae Porthol Rheoli Defnyddwyr newydd Hwb ar gael nawr i
ddefnyddwyr fersiwn beta. Mae dolen i'r porthol ar gael yn adran offer Hwb. Mae
canllawiau i ddefnyddwyr ar y porth ar gael yma.
Sylwch mai fersiwn beta o Borthol Rheoli Defnyddwyr Hwb yw
hwn. Rydyn ni’n dal yn y cyfnod trosglwyddo felly ni fydd rhai nodweddion, fel
newid manylion defnyddwyr, ar gael i gyd. MaeHwb ardal cymorth a
chefnogaeth Hwb yn cynnwys gwybodaeth allweddol i ddefnyddwyr, ac
amserlenni ar gyfer galluogi’r nodweddion.
O’r 22-24 Mehefin, bydd The Great Get Together yn cael ei gynnal ledled y
wlad, ac rydym yn gofyn i ysgolion gymryd rhan gyda gwasanaeth arbennig ar
ddydd Gwener 22 Mehefin.
Mae adnoddau ar gael yn awr i'w
lawrlwytho ar dudalen ysgolion gwefan Great get Together.
Mae holl adnoddau a deunyddiau My Money Week 2018 bellach yn
fyw ac ar gael i ysgolion I’w lawrlwytho. Bydd myfyrwyr uwchradd yn ystyried
ffonau symudol, yswiriant a risg gan wneud penderfyniadau ar ran y bobl ifanc yn
y fideos.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys
cyflwyniad i’r Fframwaith Asesu Ansawdd a’r newidiadau posib mae’r sector yn eu
hwynebu wrth weithredu’r Fframwaith.
Mae Canolfannau Rhagoriaeth yn cydnabod ac yn gwobrwyo ysgolion sy'n ymrwymo i addysg ariannol,
yn ei datblygu ac yn parhau i ragori arni, yn eu hysgol eu hunain a thu hwnt.
Ar gael ar-lein - gwybodaeth am sut i gofrestru i
bleidleisio a canllawiau ar gyfer darpar ymgeiswyr ar sut i sefyll ar gyfer
etholiad.
Yn 2020, bydd
Canolfan Addysg Ôl-16 newydd Coleg Gwent yn gartref i addysg Safon Uwch yn
Nhorfaen, gan gynnig y cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ystod o gymwysterau
lefel 2 a 3. Rydym yn chwilio am awgrymiadau am enw newydd i’r ganolfan gennych
chi.
|