eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 24 Mai 2018 (Rhifyn 526)

24 Mai 2018 • Rhifyn 526

 
 
 
 
 
 
podcast 9090

Podlediad Addysg Cymru – ffordd newydd o gael y newyddion diweddaraf

Gallwch diweddaru’ch gwybodaeth o'r diweddariadau i'r cwricwlwm drwy wrando ar bodlediad Addysg Cymru ar Spreaker neu iTunes

PTAC9090

Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru

I weld y rhestr gyflawn o’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar fideo:

llyw.cymru/gwobrauaddysgu

 

Mae cyfle hefyd i chi weld y seremoni yma, drwy Facebook!

NDLE9090 Welsh

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018

Cofrestrwch heddiw ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn Neuadd Arddangos Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Mercher 20 Mehefin 2018. Thema digwyddiad eleni ydy: ‘Rhannu ymarfer digidol i gefnogi cwricwlwm sy’n esblygu’.

Profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Adnodd Cymorth Diagnostig 

Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol nawr ar gael. Meincnodwch y dudalen os gwelwch chi'n dda.

Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru

Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydy 6 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.

Datganiad y Pennaeth 

Pan fydd y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi'r datganiad a’i gyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15 Mehefin.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Canllawiau i rieni a gofalwyr: Sut roedd yr ysgol heddiw? Uwchradd

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6 mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.

Os hoffai eich ysgol derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni,  a/neu fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen gais erbyn dydd Iau 8 Mehefin 2018 fan bellaf.

Datblygu a chaffael Llwybrau Amgen i Addysgu

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnig datblygiad blaenllaw ym maes addysg gychwynnol i athrawon, sef TAR ran-amser newydd mewn partneriaeth â phrifysgolion a astudir wrth weithio mewn ysgol, sy'n cynnwys nifer o leoedd sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Darganfyddwch fwy.

Adrodd ar Berfformiad Ysgolion – cyhoeddi Bwletin 5

Mae’r bwletin diweddaraf yn ymwneud â’r canlynol:

  • mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 - cyhoeddiad ar newidiadau yn y dyfodol a threfniadau 2018
  • cyfraniad y cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG) wrth fesur perfformiad,
  • datblygu mesurau perfformiad cyson ar gyfer y sector ôl-16, a’r
  • cohort Cyfnod Allweddol 4 - disgyblion sy’n ailsefyll blwyddyn 11.

Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a 3 mewn ysgolion cyfrwng-Cymraeg neu ddwyieithog: ymateb y Llywodraeth

Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i argymhellion Estyn i wella safonau a darpariaeth y Gymraeg.

Helpu pobl anabl i gael gwaith yn allweddol er mwyn mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd – Eluned Morgan

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, â Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful yr wythnos hon i weld y gwaith y maent yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd gwaith i bobl anabl.

Beth mae pobl ifanc yn meddwl o Brexit? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i blant yng Nghymru i gasglu barn plant a phobl ifanc ar Brexit. Os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc dros 11 oed a ydych yn credu byddai'n hoffi trafod eu safbwyntiau ar Brexit a mwynhau bod yn rhan o'r gweithdy, cysylltwch â ni.

Arweinwyr mathemateg – rhannwch eich barn nawr

Mae’r holiadur ar gael tan 25 Mai 2018.

Cynhadledd rhanbarthol Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol – Llandudno 7 Mehefin 2018

Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru - defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle AM DDIM yn Llandudno.

Cyflwyniad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol

I ymuno â’r 12,500 o’ch cymheiriaid sydd eisoes yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, ac i gael gwybod mwy, cliciwch ar y ddolen uchod.

diweddariadau ôl-16

Digwyddiadau SkillsCymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yng Nghaerdydd a Llandudno ar 10 & 11 ac 17 & 18 Hydref, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.  

Cysylltwch â Natasha Creighton i gael gwybod mwy drwy ffonio 01823 362800 neu drwy e-bostio Visitors@prospects.co.uk

hwb

Newidiadau mawr ar y gweill yn Hwb

Er mwyn parhau i wella'r llwyfan, ac o ganlyniad i'r adborth parhaus gan athrawon, byddwn yn gwneud rhai newidiadau mawr dros y misoedd nesaf.

Mae Hwb+ yn cael ei dynnu o offer Hwb

Bydd angen symud data o Hwb+ erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. Cysylltwch â hwb@gov.wales os oes angen cymorth arnoch chi.

Pecynnau Rhannu Data - Templedi i ysgolion

Rydym wedi llunio adnodd newydd am Gytundebau Rhannu Data yn cynnwys templedi addasadwy am geisio Caniatâd a Defnydd Derbyniol o Hwb. Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn cytuno ar y ffurflen ar-lein cyn gosod offeryn newydd y Cleient Darparu ar gyfer cydamseru data (gweler yr erthygl newyddion am AWE IdP). Ni fydd ysgolion sydd heb lofnodi'r cytundeb newydd yn gallu cydamseru data a chreu neu gynnal cyfrifon defnyddwyr.

Adnoddau

The Great Get Together

O’r 22-24 Mehefin, bydd The Great Get Together yn cael ei gynnal ledled y wlad, ac rydym yn gofyn i ysgolion gymryd rhan gyda gwasanaeth arbennig ar ddydd Gwener 22 Mehefin. 

Mae adnoddau ar gael yn awr i'w lawrlwytho ar dudalen ysgolion gwefan Great get Together.

newyddion arall

Processions - 10 Mehefin 2018

Bydd PROCESSIONS yn bortread byw o ferched Prydain yn yr unfed ganrif ar hugain.  Darganfyddwch fwy a dewch a'ch ysgol yn rhan o rywbeth anhygoel yr haf yma.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews