eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 18 Mai 2018 (Rhifyn 188)

18 Mai 2018 • Rhifyn 188

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

DYSG9090

Eich cyfle olaf i roi'ch caniatâd i barhau i dderbyn DYSG

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, dylai chi fod wedi derbyn ebyst yn gofyn i chi am eich caniatâd i anfon cylchlythyrau DYSG atoch yn y dyfodol.

Dyma eich cyfle olaf i ddewis parhau i dderbyn newyddion gennym. Fel rhan o’r cyfreithiau preifatrwydd newydd sy’n dod i rym ar 25 Mai 2018, bydd angen i chi gadarnhau eich tanysgrifiad.

 

Edrychwch allan am ebyst gan Llywodraeth Cymru sy’n eich atgoffa. Diolch.

estyninnovationreport9090

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd- Adroddiad Estyn

Mae’r adroddiad wedi’i anelu at Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad a’r astudiaethau gofal cysylltiedig hefyd o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn ysgolion cynradd pan fyddant yn myfyrio ar eu darpariaeth bresennol o ran y cwricwlwm ac yn cynllunio ar gyfer newidiadau i’r cwricwlwm. Bydd pedwar cam datblygu’r cwricwlwm o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn sectorau ysgol eraill.

podcast9090

Newyddion Cwricwlwm i Gymru - drwy Podcast!

Gallwch diweddaru’ch gwybodaeth o'r diweddariadau i'r cwricwlwm drwy wrando ar podlediad Addysg Cymru ar Spreaker neu iTunes

fwst9090

Canllawiau i rieni a gofalwyr:
Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen?
Sut roedd yr ysgol heddiw? – cynradd ac uwchradd

Bob blwyddyn, mae’r Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6 mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.

Os hoffai eich ysgol derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni,  a/neu fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen gais erbyn dydd Iau 8 Mehefin 2018 fan bellaf.

profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Adnodd Cymorth Diagnostig 

Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar gael o’r 10 Mai. Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru

Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 6 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.

Datganiad y Pennaeth 

Pan fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2018 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15 Mehefin.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cefnogaeth newydd i arweinwyr addysg

Lansio’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Canllawiau i rieni a gofalwyr:
Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen?
Sut roedd yr ysgol heddiw? – cynradd ac uwchradd

Bob blwyddyn, mae’r Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6 mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.

Os hoffai eich ysgol derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni,  a/neu fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen gais erbyn dydd Iau 8 Mehefin 2018 fan bellaf.

Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a 3 mewn ysgolion cyfrwng-Cymraeg neu ddwyieithog: ymateb y Llywodraeth

Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i argymhellion Estyn i wella safonau a darpariaeth y Gymraeg

Pontio'r bwlch: Uwchgynhadledd ar Symudedd Cymdeithasol ar gyfer Cymru

Dydd Iau 24 Mai, 2018 – 9:00-16:30, Caerdydd

Bydd ‘Pontio'r Bwlch’ yn eich gweld mewn ystafell gyda’r Llywodraeth, melinau trafod, ymchwilwyr, gwleidyddion ac arweinwyr busnes wrth i ni gychwyn ymgyrch ar gyfer gweithredu ar y her fwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas.  Gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC a Chadeirydd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol Alan Milburn.

#EinCymunedEinCyngor

Mae dros 700 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am nifer o bethau lleol fel caeau chwarae, tai bach cyhoeddus a chodi goleuadau Nadolig. Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch eich sylwadau drwy lenwi’r arolwg byr hwn (dolen allanol).

Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen ysgolion

Mae Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen ysgolion ar gyfer CA3 & 2 ddydd Iau 24 Mai a CA 4 ar ddydd Gwener 25 Mai. Mae yna 12 digwyddiad i ddewis o bob dydd.

Hwb

Newidiadau mawr ar y gweill yn Hwb

Er mwyn parhau i wella'r llwyfan, ac o ganlyniad i'r adborth parhaus gan athrawon, byddwn yn gwneud rhai newidiadau mawr dros y misoedd nesaf.

Mae Hwb+ yn cael ei dynnu o offer Hwb

Bydd angen symud data o Hwb+ erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. Cysylltwch â hwb@gov.wales os oes angen cymorth arnoch chi.

Pecynnau Rhannu Data

Rydym wedi llunio adnodd newydd ar dempledi a Chytundebau Rhannu Data am geisio Cydsyniad a Defnydd Derbyniol o Hwb. Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn cytuno ar y ffurflen ar-lein cyn gosod offeryn newydd y Cleient Darparu ar gyfer cydamseru data (gweler yr erthygl newyddion am AWE IdP). Ni fydd ysgolion sydd heb lofnodi'r cytundeb newydd yn gallu cydamseru data a chreu neu gynnal cyfrifon defnyddwyr.

adnoddau

Lliwiau

Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 yn darparu arbrawf sampl sydd yn  dangos beth sy’n digwydd pan fo golau’n cael ei blygu. Yn y gweithgaredd hwn, bydd dysgwyr yn dyblygu arbrawf Newton ac yn dysgu am liwiau drwy greu prism dŵr i dorri golau yn saith o liwiau’r enfys.

Pecyn Addysg – Plant sy'n Ffoaduriaid

Pecyn addysg arfer gorau ar gyfer cefnogi'r broses o integreiddio plant sy'n ffoaduriaid i fywyd ysgol a'r cwricwlwm.

Newyddion arall

Cyflwyniad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol yn offeryn ar-lein, rhad ac am ddim i gofnodi eich dysgu a’ch datblygiad proffesiynol. I ymuno â’r 12,500 o’ch cymheiriaid sydd eisoes yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, ac i gael gwybod mwy, cliciwch ar y ddolen uchod.

Cronfa o £200,000 i gefnogi Plant Milwyr yng Nghymru 

Gwahoddir ysgolion i wneud cais am gyllid o gronfa o £200,000 i helpu i liniaru ar effaith bosibl lefel uchel iawn o fynd a dod ymhlith cymunedau’r Lluoedd Arfog ar ysgolion a’u dysgwyr. Mae’r gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan y Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE).

Mae’r GIG yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 ar y 5 Gorffennaf 2018

Fydd llawer o weithgareddau yn cael ei gynnal i ddathlu’r achlysur arbennig hwn, gan gynnwys Cystadleuaeth Arlunio GIG70  ar gyfer plant oedran cynradd ledled Cymru.

Byw Heb Ofn - Paid Cadw'n Dawel

Nod ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' yw dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n profi neu wedi profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth pwerus iawn. 

Hyfforddiant Hafanau Diogel am ddim – cadwch le nawr!

Mae Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru ar y cyd â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnal dwy seiwn arall o Hafanau Diogel: 6 Mehefin ym Mangor a 20 Mehefin yng Nghasnewydd. Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i gynllunio i helpu mynd i'r afael â hiliaeth ac islamoffobia mewn ysgolion a gwella dealltwriaeth o faterion mudo cyfredol.

Cysylltwch â ksims@educationdevelopmenttrust.com erbyn 18 Mai er mwyn neilltuo lle. 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews