|
|
Eich cyfle olaf i roi'ch caniatâd i
barhau i dderbyn DYSG
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, dylai chi fod wedi derbyn ebyst yn
gofyn i chi am eich caniatâd i anfon cylchlythyrau DYSG atoch yn y dyfodol.
Dyma eich cyfle olaf i ddewis parhau i dderbyn newyddion gennym. Fel rhan o’r cyfreithiau preifatrwydd newydd sy’n dod i rym ar 25 Mai 2018, bydd angen i chi gadarnhau eich tanysgrifiad.
Edrychwch allan am ebyst gan Llywodraeth Cymru sy’n eich atgoffa. Diolch.
|
|
|
Mae’r adroddiad wedi’i anelu at Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad a’r astudiaethau gofal cysylltiedig hefyd o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn ysgolion cynradd pan fyddant yn myfyrio ar eu darpariaeth bresennol o ran y cwricwlwm ac yn cynllunio ar gyfer newidiadau i’r cwricwlwm. Bydd pedwar cam datblygu’r cwricwlwm o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn sectorau ysgol eraill.
|
|
|
Newyddion Cwricwlwm i Gymru - drwy Podcast!
Gallwch diweddaru’ch gwybodaeth o'r diweddariadau i'r cwricwlwm drwy wrando ar podlediad Addysg Cymru ar Spreaker neu iTunes.
|
|
|
Bob blwyddyn, mae’r
Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd
eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6
mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.
Os hoffai eich ysgol
derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni, a/neu
fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen
gais erbyn dydd Iau 8 Mehefin 2018 fan bellaf.
|
Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y
profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar gael o’r 10 Mai. Bydd yr
adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu
disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a
Rhifedd Cenedlaethol.
Casglu
Data Profion Cenedlaethol Cymru
Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi
6 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod
Lleol/Consortiwm.
Pan fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i
weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid
llofnodi datganiad ar gyfer 2018 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15
Mehefin.
Lansio’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i
argymhellion Estyn i wella safonau a darpariaeth y Gymraeg
Dydd
Iau 24 Mai, 2018 – 9:00-16:30, Caerdydd
Bydd ‘Pontio'r
Bwlch’ yn eich gweld mewn ystafell gyda’r Llywodraeth, melinau trafod,
ymchwilwyr, gwleidyddion ac arweinwyr busnes wrth i ni gychwyn ymgyrch ar gyfer
gweithredu ar y her fwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas. Gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg,
Kirsty Williams AC a Chadeirydd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol Alan Milburn.
Mae dros 700 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am nifer o bethau lleol fel caeau chwarae, tai bach cyhoeddus a chodi goleuadau Nadolig. Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch eich sylwadau drwy lenwi’r arolwg byr hwn (dolen allanol).
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Plant
yng Nghymru i gasglu barn plant a phobl ifanc ar Brexit. Os ydych yn gweithio
gyda phobl ifanc dros 11 oed a ydych yn credu byddai'n hoffi trafod eu
safbwyntiau ar Brexit a mwynhau bod yn rhan o'r gweithdy, cysylltwch â ni.
Mae’r holiadur ar gael tan 25 Mai 2018.
Yn
rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi,
sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yng Nghaerdydd a Llandudno ar
10 & 11 ac 17 & 18 Hydref, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn
cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.
Cysylltwch â Natasha
Creighton i gael gwybod mwy drwy ffonio 01823
362800 neu drwy e-bostio Visitors@prospects.co.uk
Er mwyn parhau i wella'r llwyfan, ac o ganlyniad i'r adborth parhaus gan athrawon, byddwn yn gwneud rhai newidiadau mawr dros y misoedd nesaf.
Bydd angen symud data o Hwb+ erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. Cysylltwch â hwb@gov.wales os oes angen cymorth arnoch chi.
Pecynnau Rhannu Data
Rydym wedi llunio adnodd newydd ar dempledi a Chytundebau Rhannu Data am geisio Cydsyniad a Defnydd Derbyniol o Hwb. Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn cytuno ar y ffurflen ar-lein cyn gosod offeryn newydd y Cleient Darparu ar gyfer cydamseru data (gweler yr erthygl newyddion am AWE IdP). Ni fydd ysgolion sydd heb lofnodi'r cytundeb newydd yn gallu cydamseru data a chreu neu gynnal cyfrifon defnyddwyr.
Pecyn Addysg – Plant sy'n Ffoaduriaid
Dyma adnodd rhyngweithiol i gynorthwyo dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn pynciau Gwyddoniaeth ac i symbylu eu diddordeb mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg).
Here is a new interactive resource to help Key
Stage 3 learners develop their knowledge and understanding within the Science
subjects and to stimulate their interest in STEM subjects (Science, Technology,
Engineering, Mathematics).
Cyfle i ddweud eich dweud am arholiadau’r haf!
Dylid cymryd pum munud yn unig i’w lenwi, a bydd ar gael tan 6 Gorffennaf. I lenwi’r holiadur, cliciwch yma.
Mae’r Pasbort
Dysgu Proffesiynol yn offeryn ar-lein, rhad ac am ddim i gofnodi eich dysgu
a’ch datblygiad proffesiynol. I ymuno â’r 12,500 o’ch cymheiriaid sydd eisoes
yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, ac i gael gwybod mwy, cliciwch ar y ddolen
uchod.
Gwynebwn cyfnod
o newid mawr ym myd Addysg Bellach, ac felly mae’n hanfodol bwysig i sicrhau
bod ein haddysg yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr. Nod y
gynhadledd hon yw hysbysu, ysbrydoli a thrafod fu’n arwain at well
dealltwriaeth a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Gwahoddir ysgolion i wneud cais am gyllid o gronfa o
£200,000 i helpu i liniaru ar
effaith bosibl lefel uchel iawn o fynd a dod ymhlith cymunedau’r Lluoedd Arfog
ar ysgolion a’u dysgwyr. Mae’r
gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan y Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn
Ysgolion Cymru (SSCE).
Nod
ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' yw dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n profi
neu wedi profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth
pwerus iawn.
Bydd y cofrestru'n
cau ar 1 Awst 2018
Mae
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwahodd ysgolion uwchradd
yng Nghymru i wneud cais i gael hwyluswyr i wirfoddoli i ddysgu'r CPR yn
eu hysgolion.
Mae Rhaglen Dysgu Byd-eang
Cymru ar y cyd â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnal dwy seiwn arall o
Hafanau Diogel: 6 Mehefin ym Mangor a 20 Mehefin yng Nghasnewydd. Mae'r hyfforddiant
hwn wedi'i gynllunio i helpu mynd i'r afael â hiliaeth ac islamoffobia mewn
ysgolion a gwella dealltwriaeth o faterion mudo cyfredol.
Cysylltwch â ksims@educationdevelopmenttrust.com
erbyn 18 Mai er mwyn neilltuo lle.
|