|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr
Adolygiad Caffael’
Mae Tîm yr Adolygiad
Caffael yn gweithio ar adroddiad sylfaenol, gan ddarparu'r ffeithiau a'r ffigurau
y tu ôl i'r model gwasanaeth cyfredol, ynghyd â rhai opsiynau lefel uchel ar
gyfer modelau gwasanaeth yn y dyfodol. Darllen mwy.
|
Y wybodaeth ddiweddaraf
am y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Er mwyn helpu cwsmeriaid
i baratoi ar gyfer y GDPR pan ddaw i rym ar 25 Mai eleni, rydym wedi anfon
hysbysiadau rheoli newid at gontractwyr presennol ac yn ymgorffori cymalau GDPR
mewn tendrau i ddod. Darllen mwy.
|
|
|
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael
Mae aelodau'r Grŵp Fforwm Categorïau eGaffael wedi gwerthuso rhestr hir
o opsiynau busnes gan ddefnyddio system raddio. Darllen mwy.
|
Rhaglen mapio /uwchraddio eDendrCymru (BravoSolution)
Rydym wedi trefnu i eDendrCymru gael ei uwchraddio i'r fersiwn
ddiweddaraf o 17 Mehefin 2018. Bydd hyn yn cynnwys nodweddion a swyddogaethau
newydd. Darllen
mwy.
Edrychwch
ar ein calendr i gael eich hysbysu
ymlaen llaw am ddigwyddiadau gan y GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a
chydweithwyr yn y maes caffael yng Nghymru.
Cofiwch gadw llygad
hefyd ar Twitter a thudalennau LinkedIn y GCC, ac ar GwerthwchiGymru ar gyfer
cyhoeddiadau am ddigwyddiadau'r GCC.
Adeiladu, Rheoli
Cyfleusterau a Chyfleustodau
I gael manylion am sut i
fod yn rhan o'r Grŵp Fforwm Categorïau ar gyfer y fframwaith deunyddiau
adeiladu newydd; estyniad i'r fframwaith dodrefn; a manylion cyswllt cyflenwyr
diwygiedig ar fframweithiau presennol darllenwch y
newyddion cryno am y categorïau.
Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru
|
|
|
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i weld
sut i roi adborth ar fframwaith gwasanaethau argraffu Cymru gyfan; a mewnbwn
i'r adolygiad o'r fframwaith gwasanaethau post, gwasanaethau cludo a chyfarpar
ystafell bost Cymru gyfan. Rydym wir am glywed eich safbwyntiau a'ch profiadau
fel y gallwn ymateb i'ch gofynion.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i gael
y wybodaeth ddiweddaraf am yr estyniad i'r fframwaith tanwydd hylif; prisiau
diwygiedig ar y fframweithiau llogi cerbydau II a theiars; estyniad i'r
fframwaith llogi cerbydau lot 3; y tendr telemateg; opsiynau ar gyfer
fframwaith gwirio trwyddedau gyrwyr; ac amserlenni ar gyfer y fframwaith
cardiau tanwydd.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
|
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r
fframwaith adnoddau hyblyg a elwir bellach yn gytundeb adnoddau digidol a TGCh
ystwyth (ADIRA); ac am y wybodaeth ddiweddaraf am GDPR.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
|
Bwyd a Diod
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i gael
y wybodaeth ddiweddaraf am atgyfnerthu diogelwch bwyd; cefnogi proses gaffael
genedlaethol o eitemau tafladwy ym maes arlwyo; tendro ar gyfer cyflenwi a
dosbarthu diodydd alcoholig; cefnogi mini-gystadlaethau; catalogio Basware; a
chyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
|
Gwasanaethau Pobl
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i gael yr adroddiad canlyniadau ar gyfer y gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu
grŵp fforwm categorïau gweithwyr asiantaeth; a gwybodaeth am arolwg cwmpasu'r
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig sy'n cau yn
fuan. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud.
Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru
|
|
|
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch
y newyddion cryno am y categorïau i gael yr
adroddiad canlyniadau diweddaraf ar gyfarfod grŵp fforwm categorïau'r
ymgynghoriaeth adeiladu. a'r wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith gwasanaethau
cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg; a sut i gael gafael ar ystod eang
o ddigwyddiadau hyfforddi cyfreithiol am ddim.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|