|
|
Cyhoeddir
yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar gynigion pellach ar gyfer sefydlu a
gweithredu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru.
|
|
|
Newyddion pwysig – tanysgrifio i Dysg!
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, dylech dderbyn e-bost bydd yn gofyn i chi os ydych am barhau i dderbyn cylchlythyr addysg yng Nghymru, Dysg.
Fel rhan o’r cyfreithiau preifatrwydd newydd sy’n dod i rym ar 25 Mai 2018, bydd angen i chi gadarnhau eich tanysgrifiad.
|
|
|
Er mwyn parhau i wella'r llwyfan, ac o ganlyniad i'r adborth parhaus gan athrawon, byddwn yn gwneud rhai newidiadau mawr dros y misoedd nesaf:
|
Bydd y canllaw yn rhoi gwybodaeth i rieni/gofalwyr yn egluro beth yn union yw'r profion a sut yr adroddir ar y canlyniadau.
Y trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd yn newid cyn hir er mwyn gweddu i’r cwricwlwm newydd
Rhestr Fer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2018
Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyngor i'ch helpu i ddeall sut i wneud y defnydd gorau o'ch buddsoddiad digidol, gan gynnwys band eang, seilwaith y rhwydwaith ardal leol a dyfeisiau cyfrifiadura, er mwyn hwyluso dysgu
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw dydd Mawrth, 8 Mai.
Kirsty
Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen
ysgolion
Mae Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen ysgolion ar gyfer CA3 & 2 ddydd Iau 24 Mai
a CA 4 ar ddydd Gwener 25 Mai. Mae yna 12 digwyddiad i ddewis o bob dydd.
Mae dros 700 o gynghorau cymuned a
thref yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am nifer o bethau lleol fel caeau
chwarae, tai bach cyhoeddus a chodi goleuadau Nadolig. Rydym
yn awyddus i glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch
eich sylwadau drwy lenwi’r arolwg byr hwn (dolen allanol)
Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd ar ddydd Gwener 4 Mai 2018.
Mae’r
Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu
hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym
maes Cyflogadwyedd a Brentisiaethau. Rhowch eich cais i mewn nawr.
Y dyddiad terfynol i sicrhau bod israddedigion amser llawn yn cael eu harian mewn da bryd cyn dechrau ar eu cwrs yw 11 Mai 2018. Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno’n hwyr mae’n bosib y bydd yr arian yn cyrraedd yn hwyr hefyd.
Yn canolbwyntio ar fater iechyd meddwl yng nghyd-destun ymddygiad
a rhyngweithio ar-lein, bwriad y digwyddiadau hyfforddi am ddim hwn ym mis Mai
yw helpu aelodau staff ysgolion i ddeall y mater cymhleth hwn, sy’n effeithio
ar lawer, yn well.
Rhaglen o ddigwyddiadau a gyflwynir ar ran Canolfan Rhyngrwyd
Ddiogelach y DU sy'n cwmpasu'r diogelwch ar-lein diweddaraf, gan gynnwys y materion
diweddaraf, y tueddiadau mwyaf a'r adnoddau gorau ar gyfer gweithwyr
proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dyma ddetholiad o adnoddau sy'n addas ar
gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 i gofio sut oedd hi adeg yr Ail Ryfel Byd.
Cynadleddau UCAS ar gyfer athrawon
a chynghorwyr yng Nghymru
Mae’n
bleser gan Cymwysterau Cymru noddi dwy gynhadledd ar gyfer athrawon a
chynghorwyr yng Nghymru, wedi’u trefnu gan UCAS.
Cynhelir y
digwyddiadau, sy’n rhad ac am ddim, yng Nghonwy
(9 Mai) a Chaerdydd (17 Mai),
a'u bwriad yw helpu i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt feddwl am eu dewisiadau a’u
ceisiadau, a byddant yn rhoi sylw i faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl
sy’n symund ymlaen i addysg uwch.
Mae Arloesi Bwyd Cymru yn gwahodd
disgyblion 11-16 oed i greu cynnyrch bwyd a diod newydd yng Nghymru i gael y
cyfle i ennill iPad.
Anogir
myfyrwyr Cymru i fanteisio ar gyfle i wella
eu sgiliau seiber drwy fynychu’r cyrsiau preswyl 5 diwrnod at fyfyrwyr 14 – 17
oed.
Rhoddir
blaenioraeth i fyfyrwyr ysgolion neu golegau Cymru dim ond iddynt neilltuo’u
lle ar gwrs cyn dydd Mawrth 22 Mai. Darganfyddwch fwy
am y cwrs a’i amcanion.
|