|
|
Mae ffilmiau o areithiau a chyflwyniadau yn awr ar gael ar gyfer eich sylw.
#cenhadaethaddysgucymru
|
Dyddiadau ar
gyfer y cyfnod profi 2018
- Ysgolion
cynradd: 2–9 Mai
- Ysgolion uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai
Disgwylir y bydd Ysgolion Uwchradd yn derbyn eu deunyddiau prawf yr wythnos hon.
Os nad yw'r pecynnau wedi derbyn dydd Iau neu fod dosbarthiad yn anghyflawn dylai ysgolion gysylltu â Llinell Gymorth y Profion ar 02920 265327.
Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf.
Mae’r
Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi fod ysgolion drwy Gymru i
rannu dros £90 miliwn yn 2018-19 er mwyn helpu eu disgyblion mwyaf
difreintiedig.
Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
Edrychwch allan am y poster diweddaraf a fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru. Lawrlwythwch gyflwyniad i'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i weld beth fydd yn ei olygu i chi.
Rydym yn gwahodd yr holl Benaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl o Flwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad gwaith unigryw yn Llundain yn ystod mis Gorffennaf 2018. Bydd yr wyth myfyriwr llwyddiannus yn cael y cyfle i brofi amrywiaeth o brofiadau yn y ddinas. Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw dydd Mawrth, 8 Mai.
Diben y prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr
yn Ysgolion Cymru yw darparu cymorth addysgol gorau posibl i blant, drwy
sicrhau bod addysg gweithwyr proffesiynol yn deall y materion bydd plant milwyr
yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae'r prosiect yn brosiect Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru.
Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd ar ddydd Gwener 4 Mai 2018.
Mae’r
Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu
hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym
maes Cyflogadwyedd a Brentisiaethau. Rhowch eich cais i mewn nawr.
Y dyddiad terfynol i sicrhau bod israddedigion amser llawn yn cael eu harian mewn da bryd cyn dechrau ar eu cwrs yw 11 Mai 2018. Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno’n hwyr mae’n bosib y bydd yr arian yn cyrraedd yn hwyr hefyd.
Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw y GDPR, beth mae'n ei olygu ar gyfer ysgolion a nodi'r camau nesaf posibl i baratoi eich ysgol.
Os ydych chi'n defnyddio'r llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018.
Darllenwch fwy.
Mae pob ysgol yng Nghymru’n cael ei
hannog i gymryd rhan a rhoi llais i’w disgyblion ar faterion sy’n ymwneud â’u
hiechyd a’u lles yn y dyfodol.
Cymerwch olwg newydd ar y mater pwysig
hwn trwy ei archwilio o safbwyntiau byd-eang yn ogystal â safbwyntiau lleol
gyda'r adnodd dwyieithog newydd hwn o'r Rhaglen Ddysgu Byd-eang – Cymru ac
Oxfam sy'n gysylltiedig ag ymgyrch 2018 Anfonwch fy Ffrind i’r Ysgol 2018.
Mae Prifysgol
Metropolitan Caerdydd yn cynnal ysgol haf gwyddorau bwyd am ddim ar gyfer
myfyrwyr Blwyddyn 12 o 17-19 Gorffennaf.
Os
bydd eich ysgol yn un o'r 100 o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd 50 o
ledled Cymru sydd wedi'i ddewis a'i gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth,
bydd eich cyfranogiad yn hanfodol.
Diben
yr astudiaeth yw casglu tystiolaeth rhyngwladol cymharol ar les plant. Mae'n
gofyn plant am eu bywydau, gweithgareddau dyddiol a defnydd o’i amser.
Os
bydd eich ysgol yn un o'r 100 o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd 50 o
ledled Cymru sydd wedi'i ddewis a'i gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth,
bydd eich cyfranogiad yn hanfodol.
Diben
yr astudiaeth yw casglu tystiolaeth rhyngwladol cymharol ar les plant. Mae'n
gofyn plant am eu bywydau, gweithgareddau dyddiol a defnydd o’i amser.
|