|
|
Kirsty Williams i
amlinellu ei Gweledigaeth a Gwerthoedd ar gyfer Addysg mewn Seminar
Bydd Kirsty Williams, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer safonau ysgolion a gwerthoedd mewn addysg
fel rhan o gyfres seminarau yr Athrofa yn y Tramshed, Caerdydd, am 18:00, dydd
Llun, 23 Ebrill.
I fynychu, cofrestrwch yma
Os na allech chi fynychu’r digwyddiad, fydd yn bosib i chi ei weld ar ffrwd fyw
Periscope ar @LlC_Addysg
|
|
|
Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
Edrychwch allan am y poster diweddaraf a fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru. Lawrlwythwch gyflwyniad i'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i weld beth fydd yn ei olygu i chi.
|
Dyddiadau ar gyfer y cyfnod profi ysgolion cynradd yn 2018
2-9 Mai 2018.
Bydd Ysgolion Cynradd yn derbyn eu deunyddiau profion cenedlaethol wythnos sy’n dechrau 23 Ebrill
Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod
sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn
gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf.
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, ebostiwch trials@nationaltests.cymru
Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi
cyhoeddi fod ysgolion drwy Gymru i rannu dros £90 miliwn yn 2018-19 er mwyn
helpu eu disgyblion mwyaf difreintiedig.
Canllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion – rydym yn gofyn am eich barn
Byddwn yn adnewyddu ein Canllawiau Rheoli Asbestos mewn ysgolion i gynorthwyo deiliaid dyletswydd a'u cyfrifoldebau yn y maes hwn. Rydym yn annog pawb sydd â chyfrifoldeb dros reoli asbestos mewn ysgolion a cholegau i adolygu’r canllawiau diwygiedig arfaethedig, ac adborth ar eu defnyddioldeb, perthnasedd a hefyd i wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella at 21stcenturyschools@gov.wales.
Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant? Rydym wedi creu canllaw i addysg Gymraeg i helpu rhieni ddechrau'r daith at ddwy iaith:
I'r rhai sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg gartref, mae Cymraeg i Blant hefyd wedi creu llyfr caneuon a rhestr chwarae fideos ddefnyddiol:
Dydd Gwener, 20 Ebrill 2018 | 10:30 - 14:00 Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod
Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) yn gwahodd holl ddarparwyr i fynychu'r diwrnod a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo gan gynnwys canllawiau llawn a gwybodaeth ar sut y bydd yn gweithio yn y cyfnod cychwynnol hwn.
Y Rhaglen
Athrawon Graddedig (RhAG): yn galluogi athrawon dan hyfforddiant ennill Statws
Athro Cymwysedig wrth weithio yn yr ysgol
Mae Polisi RhAG a datganiad ar
flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 ar gael. Gellir cael
ffurflenni cais ar gyfer RhAG 2018/19 drwy wefan Darganfod Addysgu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch gwneud
cais am le ar y Rhag at y ganolfan ranbarthol Addysg Athrawon Cychwynnol
perthnasol.
Mae manteision cofrestru eich Clwb
Gofal Plant tu allan i'r Ysgol yn bell gyrhaeddol, ond a ydych yn gwybod pa
fanteision sydd i'ch ysgol a’u deuluoedd? Dysgwch fwy yma.
Diben y prosiect
Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru yw darparu cymorth addysgol
gorau posibl i blant, drwy sicrhau bod addysg gweithwyr proffesiynol yn deall y materion bydd plant milwyr yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae'r
prosiect yn brosiect Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Os ydych chi'n defnyddio'r llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018
Drwy Hwb, gall pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddefnyddio'r Pecyn Offer Just2easy. Mae hyn yn cynnwys J2bloggy, llwyfan creu gwefan WordPress sy'n gweithredu'n llawn.
Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw y GDPR, beth mae'n ei olygu ar gyfer ysgolion a nodi'r camau nesaf posibl i baratoi eich ysgol.
Fydd llawer o weithgareddau yn cael ei gynnal i ddathlu’r
achlysur arbennig hwn, gan gynnwys Cystadleuaeth Arlunio GIG70
ar gyfer plant oedran cynradd ledled Cymru.
Set o 21 llyfr stori i blant 3-5 oed. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn
ffordd hwyliog a chyffrous. Mae’r adnodd yma ar gael fel pecyn neu fel llyfrau
unigol.
Adnodd i gynnig cyfleoedd i blant 3-7 oed ymateb yn gorfforol i ystod o
ysgogiadau boed yn gerddoriaeth, stori neu gerdd er mwyn meithrin a datblygu eu
sgiliau corfforol, llythrennedd, hyrwyddo'u creadigrwydd a chymell hunan hyder. Mae’r adnodd hefyd ar gael ar Hwb.
Caneuon Cŵl
Llyfr cerddoriaeth sy'n cynnwys 30 o ganeuon a rhigymau gwreiddiol mewn
gwahanol arddulliau i blant 3-5 oed. Cafodd y caneuon eu cyfansoddi yn arbennig
er mwyn gallu cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd (mewnol ac allanol) o
fewn dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.
Mae
pob ysgol yng Nghymru’n cael ei hannog i gymryd rhan a rhoi llais i’w
disgyblion ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd a’u lles yn y dyfodol.
Cymerwch olwg
newydd ar y mater pwysig hwn trwy ei archwilio o safbwyntiau byd-eang yn
ogystal â safbwyntiau lleol gyda'r adnodd dwyieithog newydd hwn o'r Rhaglen
Ddysgu Byd-eang – Cymru ac Oxfam sy'n gysylltiedig ag ymgyrch 2018 Anfonwch fy
Ffrind i’r Ysgol 2018.
Os bydd eich
ysgol yn un o'r 100 o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd 50 o ledled Cymru
sydd wedi'i ddewis a'i gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, bydd eich
cyfranogiad yn hanfodol.
Diben yr astudiaeth yw casglu tystiolaeth rhyngwladol
cymharol ar les plant. Mae'n gofyn plant am eu bywydau, gweithgareddau
dyddiol a defnydd o’i amser.
Ydy’ch
ysgol wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth
y Criw Mentrus eto i hawlio’ch Gwobr Menter? Dwedwch wrthym ni beth rydych chi wedi’i
wneud erbyn 11 Mai a
gallai’ch disgyblion gael eu dethol hefyd i gynrychioli’ch ysgol mewn un o’r
Digwyddiadau Rhanbarthol mae’n bleser
gennym ni eu cyhoeddi nawr!!
- 12 Mehefin 2018 * Llandudno, Venue Cymru
- 19 Mehefin 2018 * Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
- 21 Mehefin 2018 * Sir Benfro, Fferm Folly
- 22 Mehefin 2018 * Y Drenewydd, Theatr Hafren
- 3 Gorffennaf 2018 * ROWND DERFYNOL
|