eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 19 Ebrill 2018 (Rhifyn 186)

19 Ebrill 2018 • Rhifyn 186

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

yrathrofa9090

Kirsty Williams i amlinellu ei Gweledigaeth a Gwerthoedd ar gyfer Addysg mewn Seminar

Bydd Kirsty Williams, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer safonau ysgolion a gwerthoedd mewn addysg fel rhan o gyfres seminarau yr Athrofa yn y Tramshed, Caerdydd, am 18:00, dydd Llun, 23 Ebrill.

I fynychu, cofrestrwch yma

Os na allech chi fynychu’r digwyddiad, fydd yn bosib i chi ei weld ar ffrwd fyw Periscope ar @LlC_Addysg

professionalstandards9090

Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth  

Edrychwch allan am y poster diweddaraf a fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru. Lawrlwythwch gyflwyniad i'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i weld beth fydd yn ei olygu i chi. 

fpenhand9090

Ydych chi wedi gweld y parth ar gyfer Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen ar Hwb? Cymrwch olwg nawr!

fphase9090

Cyfnod Sylfaen meithrin: Canllaw ar gyfer rhieni a gofalwyr

profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018

Dyddiadau ar gyfer y cyfnod profi ysgolion cynradd yn 2018 

2-9 Mai 2018.

Bydd Ysgolion Cynradd yn derbyn eu deunyddiau profion cenedlaethol wythnos sy’n dechrau 23 Ebrill

Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf.

Gwirfoddolwch eich Ysgol ar gyfer Treialu’r Asesiadau Personol Ar-lein

Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, ebostiwch trials@nationaltests.cymru

Rhifedd Rhesymu: Gwasanaeth Cefnogi Marcio 2018

Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ysgolion i rannu dros £90m i helpu dysgwyr difreintiedig

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi fod ysgolion drwy Gymru i rannu dros £90 miliwn yn 2018-19 er mwyn helpu eu disgyblion mwyaf difreintiedig.

Canllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion – rydym yn gofyn am eich barn 

Byddwn yn adnewyddu ein Canllawiau Rheoli Asbestos mewn ysgolion i gynorthwyo deiliaid dyletswydd a'u cyfrifoldebau yn y maes hwn.  Rydym yn annog pawb sydd â chyfrifoldeb dros reoli asbestos mewn ysgolion a cholegau i adolygu’r canllawiau diwygiedig arfaethedig, ac adborth ar eu defnyddioldeb, perthnasedd a hefyd i wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella at 21stcenturyschools@gov.wales

Canllaw i addysg Gymraeg a defnyddio'r iaith gartref

Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant? Rydym wedi creu canllaw i addysg Gymraeg i helpu rhieni ddechrau'r daith at ddwy iaith:

I'r rhai sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg gartref, mae Cymraeg i Blant hefyd wedi creu llyfr caneuon a rhestr chwarae fideos ddefnyddiol

Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol – Diwrnod Gwybodaeth am y Broses Gadarnhau

Dydd Gwener, 20 Ebrill 2018 | 10:30 - 14:00 Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod

Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) yn gwahodd holl ddarparwyr i fynychu'r diwrnod a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo gan gynnwys canllawiau llawn a gwybodaeth ar sut y bydd yn gweithio yn y cyfnod cychwynnol hwn.

Y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG): yn galluogi athrawon dan hyfforddiant ennill Statws Athro Cymwysedig wrth weithio yn yr ysgol

Mae Polisi RhAG a datganiad ar flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 ar gael. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer RhAG 2018/19 drwy wefan Darganfod Addysgu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch gwneud cais am le ar y Rhag at y ganolfan ranbarthol Addysg Athrawon Cychwynnol perthnasol.

Pam dylech chi gofrestru eich Clwb Gofal Plant tu allan i'r Ysgol gyda'r Eglwys yng Nghymru?

Mae manteision cofrestru eich Clwb Gofal Plant tu allan i'r Ysgol yn bell gyrhaeddol, ond a ydych yn gwybod pa fanteision sydd i'ch ysgol a’u deuluoedd? Dysgwch fwy yma.

Cefnogi Cylchlythyr Gwasanaeth Cefnogi  Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (Saesneg yn unig)

Diben y prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru yw darparu cymorth addysgol gorau posibl i blant, drwy sicrhau bod addysg gweithwyr proffesiynol yn deall y materion bydd plant milwyr yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae'r prosiect yn brosiect Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Hwb

Mae Hwb+ yn cael ei dynnu o offer Hwb  

Os ydych chi'n defnyddio'r llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018

Defnyddiwch J2bloggy ar gyfer gwefan gyhoeddus eich ysgol 

Drwy Hwb, gall pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddefnyddio'r Pecyn Offer Just2easy. Mae hyn yn cynnwys J2bloggy, llwyfan creu gwefan WordPress sy'n gweithredu'n llawn. 

Canllaw i athrawon ar y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)  

Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw y GDPR, beth mae'n ei olygu ar gyfer ysgolion a nodi'r camau nesaf posibl i baratoi eich ysgol. 

Adnoddau a chystadlaethau

Mae’r GIG yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 ar y 5 Gorffennaf 2018

Fydd llawer o weithgareddau yn cael ei gynnal i ddathlu’r achlysur arbennig hwn, gan gynnwys Cystadleuaeth Arlunio GIG70  ar gyfer plant oedran cynradd ledled Cymru.

Cymeriadau Difyr

Set o 21 llyfr stori i blant 3-5 oed. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Mae’r adnodd yma ar gael fel pecyn neu fel llyfrau unigol.

Dawns a Chreu

Adnodd i gynnig cyfleoedd i blant 3-7 oed ymateb yn gorfforol i ystod o ysgogiadau boed yn gerddoriaeth, stori neu gerdd er mwyn meithrin a datblygu eu sgiliau corfforol, llythrennedd, hyrwyddo'u creadigrwydd a chymell hunan hyder.  Mae’r adnodd hefyd ar gael ar Hwb.

Caneuon Cŵl

Llyfr cerddoriaeth sy'n cynnwys 30 o ganeuon a rhigymau gwreiddiol mewn gwahanol arddulliau i blant 3-5 oed. Cafodd y caneuon eu cyfansoddi yn arbennig er mwyn gallu cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd (mewnol ac allanol) o fewn dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Newyddion arall

Mae Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn cael ei gynnal eto yn 2018

Mae pob ysgol yng Nghymru’n cael ei hannog i gymryd rhan a rhoi llais i’w disgyblion ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd a’u lles yn y dyfodol.

Persbectif newydd ar ddiogelwch yn yr ysgol

Cymerwch olwg newydd ar y mater pwysig hwn trwy ei archwilio o safbwyntiau byd-eang yn ogystal â safbwyntiau lleol gyda'r adnodd dwyieithog newydd hwn o'r Rhaglen Ddysgu Byd-eang – Cymru ac Oxfam sy'n gysylltiedig ag ymgyrch 2018 Anfonwch fy Ffrind i’r Ysgol 2018.

Byd y Plant: Arolwg rhyngwladol o les plant (Saesneg yn unig)

Os bydd eich ysgol yn un o'r 100 o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd 50 o ledled Cymru sydd wedi'i ddewis a'i gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, bydd eich cyfranogiad yn hanfodol.

Diben yr astudiaeth yw casglu tystiolaeth rhyngwladol cymharol ar les plant. Mae'n gofyn plant am eu bywydau, gweithgareddau dyddiol a defnydd o’i amser. 

Yn galw pob Ysgol Gynradd MENTRUS!

Ydy’ch ysgol wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus eto i hawlio’ch Gwobr Menter?  Dwedwch wrthym ni beth rydych chi wedi’i wneud erbyn 11 Mai a gallai’ch disgyblion gael eu dethol hefyd i gynrychioli’ch ysgol mewn un o’r Digwyddiadau Rhanbarthol mae’n bleser gennym ni eu cyhoeddi nawr!!

  • 12 Mehefin 2018  *   Llandudno, Venue Cymru
  • 19 Mehefin 2018  *   Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
  • 21 Mehefin 2018  *   Sir Benfro, Fferm Folly
  • 22 Mehefin 2018  *   Y Drenewydd, Theatr Hafren
  • 3 Gorffennaf 2018  *   ROWND DERFYNOL
 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews