eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 16 Ebrill 2018 (Rhifyn 521)

16 Ebrill 2018 • Rhifyn 521

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

KWNEC18

Wedi methu’r Cynhadledd Penaethiaid Uwchradd Cenedlaethol yn ddiweddar? 

Mae ffilmiau o areithiau a chyflwyniadau yn awr ar gael ar gyfer eich sylw.

    #cenhadaethaddysgucymru 

    ProfStandards9090

    Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth  

    Edrychwch allan am y poster diweddaraf a fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru. Lawrlwythwch gyflwyniad i'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i weld beth fydd yn ei olygu i chi. 

    blog9090

    Blog cwricwlwm i Gymru 

    Y wybodaeth ddiweddaraf am Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl

    Gwybodaeth am ddiwygio addysg yng Nghymru .

    Profion darllen a rhifedd cenedlaethol

    Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018

    Dyddiadau ar gyfer y cyfnod profi 2018

    • Ysgolion cynradd: 2–9 Mai
    • Ysgolion uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai

    Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018 

    Disgwylir y bydd Ysgolion Uwchradd yn derbyn eu deunyddiau prawf yr wythnos hon. Os nad yw'r pecynnau wedi derbyn dydd Iau neu fod dosbarthiad yn anghyflawn dylai ysgolion gysylltu â Llinell Gymorth y Profion ar 02920  265327. 

    Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf. 

    Gwirfoddolwch eich Ysgol ar gyfer Treialu’r Asesiadau Personol Ar-lein

    Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru

    Rhifedd Rhesymu: Gwasanaeth Cefnogi Marcio 2018

    Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9. 

    MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

    Canllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion – rydym yn gofyn am eich barn 

    Byddwn yn adnewyddu ein Canllawiau Rheoli Asbestos mewn ysgolion i gynorthwyo deiliaid dyletswydd a'u cyfrifoldebau yn y maes hwn.  Rydym yn annog pawb sydd â chyfrifoldeb dros reoli asbestos mewn ysgolion a cholegau i adolygu’r canllawiau diwygiedig arfaethedig, ac adborth ar eu defnyddioldeb, perthnasedd a hefyd i wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella at 21stcenturyschools@gov.wales

    Newidiadau i’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru 

    Er mwyn cynyddu hyblygrwydd dysgu gydol oes, mae’r Fframwaith bellach yn cydnabod Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (ochr yn ochr â Chyrff Dyfarnu’r Deyrnas Unedig a Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru) fel cyrff sy’n gymwys i ddatblygu unedau dysgu wedi’u hachredu. 

    Cynhadledd rhanbarthol Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol – Llandudno 7 Mehefin 2018 

    Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru - defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle AM DDIM yn Llandudno. 

    Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol – Diwrnod Gwybodaeth am y Broses Gadarnhau 

    Dydd Gwener, 20 Ebrill 2018 | 10:30 - 14:00 Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod  

    Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol (NAEL) yn gwahodd holl ddarparwyr i fynychu'r diwrnod a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo gan gynnwys canllawiau llawn a gwybodaeth ar sut y bydd yn gweithio yn y cyfnod cychwynnol hwn. 

    Y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG): yn galluogi athrawon dan hyfforddiant ennill Statws Athro Cymwysedig wrth weithio yn yr ysgol 

    Mae Polisi RhAG a datganiad ar flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 ar gael. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer RhAG 2018/19 drwy wefan Darganfod Addysgu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch gwneud cais am le ar y Rhag at y ganolfan ranbarthol Addysg Athrawon Cychwynnol perthnasol. 

    Pam dylech chi gofrestru eich Clwb Gofal Plant tu allan i'r Ysgol gyda'r Eglwys yng Nghymru? 

    Mae manteision cofrestru eich Clwb Gofal Plant tu allan i'r Ysgol yn bell gyrhaeddol, ond a ydych yn gwybod pa fanteision sydd i'ch ysgol a’u deuluoedd? Dysgwch fwy. 

    Enwebwch fyfyriwr ar gyfer cystadleuaeth Wythnos Llundain 2018 

    Rydym yn gwahodd yr holl Benaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl o Flwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad gwaith unigryw yn Llundain yn ystod mis Gorffennaf 2018. Bydd yr wyth myfyriwr llwyddiannus yn cael y cyfle i brofi amrywiaeth o brofiadau yn y ddinas. Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw dydd Mawrth, 8 Mai. 

    diweddariadau ôl-16

    Rhowch gais i mewn nawr am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2018

    Rhowch wybod i ni am eich dysgwyr, aseswyr, tiwtoriaid a chyflogwyr gorau fel y gallwn rannu eich storïau o lwyddiant, helpu i godi proffil eich sefydliad a dangos gwerth Prentisiaethau a raglenni Cyflogadwyedd gyda’r nod o gyrraedd y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.  Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd ar ddydd Gwener 4 Mai 2018.

    Diweddariad Trefniadau Cynllunio ac Adrodd Lleol Ôl-16 2018/19

    Cyhoeddwyd Trefniadau Cynllunio Terfynol Ôl-16 i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Cyflawni Terfynol ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gyfer 2018/19. Am gopi o'r Trefniadau Cynllunio a Chyllido diweddaraf, cysylltwch â post16planningandfunding@gov.wales.

    Dyddiad cau am gyllid i fyfyrwyr yn nesáu 

    Y dyddiad terfynol i sicrhau bod israddedigion amser llawn yn cael eu harian mewn da bryd cyn dechrau ar eu cwrs yw 11 Mai 2018. Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno’n hwyr mae’n bosib y bydd yr arian yn cyrraedd yn hwyr hefyd.

    hwb

    Mae Hwb+ yn cael ei dynnu o offer Hwb  

    Os ydych chi'n defnyddio'r llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. 

    Defnyddiwch J2bloggy ar gyfer gwefan gyhoeddus eich ysgol 

    Drwy Hwb, gall pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddefnyddio'r Pecyn Offer Just2easy. Mae hyn yn cynnwys J2bloggy, llwyfan creu gwefan WordPress sy'n gweithredu'n llawn. 

    Canllaw i athrawon ar y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)  

    Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw y GDPR, beth mae'n ei olygu ar gyfer ysgolion a nodi'r camau nesaf posibl i baratoi eich ysgol. 

     
     

    YNGHYLCH DYSG

    Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth ar y we:

    Diwygio’r cwricwlwm

    Fframwaith Cymhwysedd Digidol

    Dilynwch ni ar Twitter:

    @LlC_Addysg

    @LlywodraethCym

    @HwbNews