|
|
Mae ffilmiau o areithiau a chyflwyniadau yn awr ar gael ar gyfer eich sylw.
#cenhadaethaddysgucymru
|
|
|
Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
Edrychwch allan am y poster diweddaraf a fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru. Lawrlwythwch gyflwyniad i'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i weld beth fydd yn ei olygu i chi.
|
Dyddiadau ar
gyfer y cyfnod profi 2018
- Ysgolion
cynradd: 2–9 Mai
- Ysgolion uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai
Disgwylir y bydd Ysgolion Uwchradd yn derbyn eu deunyddiau prawf yr wythnos hon. Os nad yw'r pecynnau wedi derbyn dydd Iau neu fod dosbarthiad yn anghyflawn dylai ysgolion gysylltu â Llinell Gymorth y Profion ar 02920 265327.
Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf.
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i
gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd
gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd
nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru
Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.
Canllawiau Rheoli Asbestos mewn Ysgolion – rydym yn gofyn am eich barn
Byddwn yn adnewyddu ein Canllawiau Rheoli Asbestos mewn ysgolion i gynorthwyo deiliaid dyletswydd a'u cyfrifoldebau yn y maes hwn. Rydym yn annog pawb sydd â chyfrifoldeb dros reoli asbestos mewn ysgolion a cholegau i adolygu’r canllawiau diwygiedig arfaethedig, ac adborth ar eu defnyddioldeb, perthnasedd a hefyd i wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella at 21stcenturyschools@gov.wales.
Newidiadau i’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
Er mwyn cynyddu hyblygrwydd dysgu gydol oes, mae’r Fframwaith bellach yn cydnabod Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (ochr yn ochr â Chyrff Dyfarnu’r Deyrnas Unedig a Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru) fel cyrff sy’n gymwys i ddatblygu unedau dysgu wedi’u hachredu.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru - defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle AM DDIM yn Llandudno.
Dydd Gwener, 20 Ebrill 2018 | 10:30 - 14:00 Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod
Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol (NAEL) yn gwahodd holl ddarparwyr i fynychu'r diwrnod a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo gan gynnwys canllawiau llawn a gwybodaeth ar sut y bydd yn gweithio yn y cyfnod cychwynnol hwn.
Y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG): yn galluogi athrawon dan hyfforddiant ennill Statws Athro Cymwysedig wrth weithio yn yr ysgol
Mae Polisi RhAG a datganiad ar flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 ar gael. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer RhAG 2018/19 drwy wefan Darganfod Addysgu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch gwneud cais am le ar y Rhag at y ganolfan ranbarthol Addysg Athrawon Cychwynnol perthnasol.
Mae manteision cofrestru eich Clwb Gofal Plant tu allan i'r Ysgol yn bell gyrhaeddol, ond a ydych yn gwybod pa fanteision sydd i'ch ysgol a’u deuluoedd? Dysgwch fwy.
Rydym yn gwahodd yr holl Benaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl o Flwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad gwaith unigryw yn Llundain yn ystod mis Gorffennaf 2018. Bydd yr wyth myfyriwr llwyddiannus yn cael y cyfle i brofi amrywiaeth o brofiadau yn y ddinas. Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw dydd Mawrth, 8 Mai.
Rhowch wybod i ni am eich dysgwyr, aseswyr, tiwtoriaid a chyflogwyr gorau fel y gallwn rannu eich storïau o lwyddiant, helpu i godi proffil eich sefydliad a dangos gwerth Prentisiaethau a raglenni Cyflogadwyedd gyda’r nod o gyrraedd y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd ar ddydd Gwener 4 Mai 2018.
Diweddariad Trefniadau Cynllunio ac Adrodd Lleol Ôl-16 2018/19
Cyhoeddwyd Trefniadau Cynllunio Terfynol Ôl-16 i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Cyflawni Terfynol ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gyfer 2018/19. Am gopi o'r Trefniadau Cynllunio a Chyllido diweddaraf, cysylltwch â post16planningandfunding@gov.wales.
Y dyddiad terfynol i sicrhau bod israddedigion amser llawn yn cael eu harian mewn da bryd cyn dechrau ar eu cwrs yw 11 Mai 2018. Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno’n hwyr mae’n bosib y bydd yr arian yn cyrraedd yn hwyr hefyd.
Os ydych chi'n defnyddio'r llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018.
Drwy Hwb, gall pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddefnyddio'r Pecyn Offer Just2easy. Mae hyn yn cynnwys J2bloggy, llwyfan creu gwefan WordPress sy'n gweithredu'n llawn.
Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw y GDPR, beth mae'n ei olygu ar gyfer ysgolion a nodi'r camau nesaf posibl i baratoi eich ysgol.
|