|
|
Peidiwch ag anghofio cyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 erbyn 17.00 ar dydd Gwener.
|
|
|
Mae datganoli pwerau i bennu cyflog ac amodau
athrawon ysgol yn gyfle i ni godi statws y proffesiwn yng Nghymru, yn ôl yr
Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
|
|
|
Mae pecynnau wedi cael ei dosbarthu i ysgolion cynradd a meithrinfeydd. Os hoffech chi fwy o becynnau e-bostiwch.
|
Dyddiadau ar gyfer y cyfnod profi ysgolion cynradd yn 2018
2-9 Mai 2018.
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru
Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.
Mae'r canllawiau ynghylch deilliannau asesu dilys ar gyfer diwedd y Cyfnod Sylfaen wedi eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau sydd ar waith o 2017-18 fel y nodir yn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.
O 2017/18 bydd dysgwyr ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn cael eu asesu yn erbyn datganiadau deilliannau diwygiedig ar gyser Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol. Mae'r rhain yn cynnwys y tri datganiad deilliant ychwanegol (Deilliant Efydd Cyfnod Sylfaen, Deilliant Arian Cyfnod Sylfaen, Deilliant Aur Cyfnod Sylfaen).
Hefyd, mae parth dysgu fel cymuned ar-lein wedi ei sefydlu hefyd i hwyluso rhannu gwybodaeth, adnoddau ac ymchwil rhwng ymarferwyr. Bydd diweddariadau a dolenni perthnasol yn cael eu cyhoeddi yma.
Beth yw'r Cynnig Gofal Plant? Bydd y cynnig yn cynnwys 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed, hynny yw rhieni sy'n gymwys ac yn gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol
Metropolitan Caerdydd i ymgymryd ag ymchwil i ddefnyddio Gweithwyr Cymorth
Dysgu (GCDau) yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Ddarganfod mwy am nodau'r ymchwil a sut y gallech chi (neu eich ysgol) gymryd
rhan yn yr ymchwil.
O
hyn hyd at ddiwedd Mai, bydd Beaufort yn cysylltu â nifer o ysgolion cynradd ac
uwchradd, Canolfannau Addysg Gychwynnol Athrawon, prifysgolion a rhanddeiliaid
yng Nghymru i ofyn am eu mewnbwn i’r prosiect. Os bydd Beaufort yn cysylltu â
chi, rydym wir yn gobeithio y byddwch yn gallu cymryd y cyfle i gymryd rhan yn
yr astudiaeth bwysig hon.
Ydych chi’n defnyddio gwefan gyhoeddus Hwb+? Rhagor o wybodaeth yma am symud eich gwefan i J2bloggy.
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu
tanysgrifio i gael hysbysiadau e-bost gan y rhwydweithiau a’r dosbarthiadau?
Rydyn ni wedi newid y ffordd mae aelodau’n cael hysbysiadau o’r gosodiad diofyn
‘Byth’ i ‘Unwaith yr wythnos’.
E-bapur newydd cyffrous i ddisgyblion CA2, sy’n cynnwys
nifer o erthyglau amrywiol. Bydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi bob hanner
tymor.
Gweithgareddau rhyngweithiol ar Atgyfodiad Iesu
a sut mae Cristnogion yn dathlu Pasg heddiw yn addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.
Adnoddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru i gyflwyno hanes boddi Cwm Tryweryn i ddysgwyr o bob oedran.
Mae’r
arolwg yn cau ar ddydd Sul 25 Mawrth 2018.
Hoffai’r
NSPCC eich gwahodd chi i lenwi ei harolwg ar brofiadau gweithwyr proffesiynol o
wrando ar blant a derbyn datgeliadau o gamdriniaeth ac esgeulustod. www.nspcc.org.uk
12fed Mehefin 2018 yn Stadiwm Dinas
Caerdydd
Mae’r
gynhadledd hon ar gyfer ysgolion, gweithwyr proffesiynol addysg, awdurdodau
lleol a mudiadau cymorth ledled Cymru sy’n ymwneud â phlant milwyr a’u
teuluoedd neu a hoffai ddeall rhagor am y pwnc.
Os oes gennych blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol, llenwch yr holiadur byr yma erbyn 3 Ebrill i lywio gwaith Ymchwil Cynghrair Cynnydd Plant y Lluoedd Arfog.
Mae pob ysgol yng Nghymru’n
cael ei hannog i gymryd rhan a rhoi llais i’w disgyblion ar faterion sy’n
ymwneud â’u hiechyd a’u lles yn y dyfodol.
Digwyddiadau AM DDIM ar y 24 a 25 Mai ar gyfer
disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, 3 & 4
Gŵyl yw hon i
ysbrydoli dysgwyr o bob oedran, ac mae’n rhad ac am ddim i bob ysgol a
gynhelir lle bydd gan ddisgyblion ac athrawon gyfle i gyfarfod awduron anhygoel
o amrywiaeth eang o feysydd.
Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor tan ddydd Gwener 30 Mawrth
Mae’r elusen Aloud yn gwahodd ceisiadau gan ddisgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlynyddoedd 5 a 6, ar gyfer clyweliad i fod yn rhan o fenter gorawl Cymru gyfan, Only Kids Aloud.
Ydy’ch
ysgol wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth
y Criw Mentrus eto i hawlio’ch Gwobr Menter? Dwedwch wrthym ni beth rydych chi wedi’i
wneud erbyn 11 Mai a
gallai’ch disgyblion gael eu dethol hefyd i gynrychioli’ch ysgol mewn un o’r
Digwyddiadau Rhanbarthol mae’n bleser
gennym ni eu cyhoeddi nawr!!
- 12 Mehefin 2018 * Llandudno, Venue Cymru
- 19 Mehefin 2018 * Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
- 21 Mehefin 2018 * Sir Benfro, Fferm Folly
- 22 Mehefin 2018 * Y Drenewydd, Theatr Hafren
- 3 Gorffennaf 2018 * ROWND DERFYNOL
|