|
|
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at bob ysgol i roi gwybod i chi am welliannau pellach i Grant datblygu disgyblion ac i gadarnhau eich dyraniadau.
|
|
|
Peidiwch ag anghofio cyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 erbyn 17.00.
|
Dyddiadau ar
gyfer y cyfnod profi 2018
- Ysgolion
cynradd: 2–9 Mai
- Ysgolion uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i
gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd
gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd
nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru
Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.
Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi
cyhoeddi y bydd OECD ac Estyn yn gweithio ar fframwaith hunanwerthuso newydd i
athrawon.
Mae'r canllawiau ynghylch deilliannau asesu dilys ar gyfer diwedd y Cyfnod Sylfaen wedi eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau sydd ar waith o 2017-18 fel y nodir yn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.
O 2017/18 bydd dysgwyr ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn cael eu asesu yn erbyn datganiadau deilliannau diwygiedig ar gyser Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol. Mae'r rhain yn cynnwys y tri datganiad deilliant ychwanegol (Deilliant Efydd Cyfnod Sylfaen, Deilliant Arian Cyfnod Sylfaen, Deilliant Aur Cyfnod Sylfaen).
Mae'r adnodd cyntaf ar gyfer trafod rhoi organau gyda disgyblion ysgol wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe.
Mae’r Gwobrau’n gyfle i
unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu
gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes
Cyflogadwyedd a Brentisiaethau.
Rydyn
ni wedi paratoi’r fideo defnyddiol
hwn i
egluro’r pecyn cymorth ariannol newydd i israddedigion am y tro cyntaf cymwys.
Ydych chi’n defnyddio gwefan gyhoeddus Hwb+?
Rhagor o wybodaeth yma am symud eich gwefan i J2bloggy.
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu
tanysgrifio i gael hysbysiadau e-bost gan y rhwydweithiau a’r dosbarthiadau?
Rydyn ni wedi newid y ffordd mae aelodau’n cael hysbysiadau o’r gosodiad diofyn
‘Byth’ i ‘Unwaith yr wythnos’.
Adnoddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru i gyflwyno hanes boddi Cwm Tryweryn i ddysgwyr o bob oedran.
Mae pob ysgol yng Nghymru’n cael ei hannog i
gymryd rhan a rhoi llais i’w disgyblion ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd
a’u lles yn y dyfodol.
Caerdydd, 28 Mawrth.
Archebwch eich lle heddiw!
Digwyddiadau AM DDIM ar y 24 a 25 Mai ar gyfer
disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, 3 & 4
Gŵyl yw hon i
ysbrydoli dysgwyr o bob oedran, ac mae’n rhad ac am ddim i bob ysgol a
gynhelir lle bydd gan ddisgyblion ac athrawon gyfle i gyfarfod awduron anhygoel
o amrywiaeth eang o feysydd.
12 Mehefin - Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae’r gynhadledd hon ar gyfer ysgolion, gweithwyr proffesiynol addysg, awdurdodau lleol a mudiadau cymorth ledled Cymru sy’n ymwneud â phlant milwyr a’u teuluoedd neu a hoffai ddeall rhagor am y pwnc.
Os oes gennych blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol, llenwch yr holiadur byr yma erbyn 3 Ebrill i lywio gwaith Ymchwil Cynghrair Cynnydd Plant y Lluoedd Arfog.
|