We only use cookies that are necessary for this site to function to provide you with the best experience. The controller of this site may choose to place supplementary cookies to support additional functionality such as support analytics, and has an obligation to disclose these cookies. Learn more in our Cookie Statement.
Bydd strategaeth sgiliau newydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach yr wythnos yma wrth i aelodau blaenllaw o’r diwydiant bwyd a diod geisio hybu sgiliau a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi statws enw bwyd gwarchodedig i Gaws Traddodiadol Caerffili sy’n golygu ei fod bellach yn mwynhau’r un statws â Champagne, Ham Parma a Pheis Porc Melton Mowbray.
Mae trosiant y Sector Bwyd a Diod wedi cynyddu yn sylweddol i £6.9bn, sy’n golygu bod y diwydiant bron iawn â chyrraedd y targedau uchelgeisiol a osodwyd iddynt.
O fis Mai bydd Maes Awyr Caerdydd yn hedfan yn ddyddiol i Qatar. Drwy'r gwasanaeth newydd hwn bydd fwy o gyfleoedd allforio yn codi yn Qatar a'r Dwyrain Canol.
Rydym yn cydnabod fod yr angen i gael deunydd gwerthu a marchnata, pecynnu i gynnyrch, gwefan, ac ati ar gael yn iaith marchnad y cyrchfan allforio yn gallu bod yn ddrud ac felly’n rhwystr i sicrhau archebion allforio.
Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn dathlu talent a
chyflawniadau'r sectorau electronig, meddalwedd a thechnoleg yng Nghymru.Dyma gyfle Cymru
i ddangos i'r byd fod gennym unigolion a chwmnïau sy'n gallu cystadlu ac yn ffynnu
ar raddfa fyd-eang.Cynhelir Gwobrau
Technoleg Cymru, gyda'r prif bartner GoCompare, yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar
3 Mai 2018. Archebwch eich lle nawr.