eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 5 Mawrth 2018 (Rhifyn 184)

5 Mawrth 2018 • Rhifyn 184

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

£14mtoschools9090

Kirsty Williams yn cyhoeddi £14 miliwn ar gyfer atgyweirio ysgolion

Mae ysgolion ar fin derbyn £14 miliwn ar gyfer mân atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw o dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

TempNRNT9090

Eich cyfle olaf i gofrestru:

Asesiadau Personol Ar-lein – Digwyddiad Panel Arbenigwyr (Darllen – Saesneg)

Stadiwm Swalec, Caerdydd 7 ac 8 Mawrth

Rydyn ni’n chwilio am athrawon Saesneg a llythrennedd i fynychu panel arbenigwyr i olygu a dewis y testunau ar gyfer yr Asesiadau Personol Ar-lein newydd a fydd ar gael o 2019/20. Os oes diddordeb gennych i fynychu’r panel, cwblhewch y ddolen ar y tudalen Eventbrite.

Ipad with images 130 x 130

Gwirfoddolwch eich Ysgol ar gyfer Treialu’r Asesiadau Personol Ar-lein

Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

#EinCymru / #OurWales 

Dylai #EinCymru fod yn rhywle lle mae gan bawb hawl i fyw bywyd llawn, heb ystyried oed, rhywedd, rhywioldeb na hil. 

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg 

Dyma rhwydwaith sy'n creu cyfleoedd i arweinwyr mathemateg o bob lleoliad gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi cyfoedion. Am ragor o fanylion ac i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, cliciwch yma

Adrodd ar berfformiad ysgolion – cyhoeddi bwletin 4 a cwestiynau cyffredin ynghylch arholiadau a sefir yn gynnar

Rydym wedi cyhoeddi bwletin adrodd perfformiad ysgolion yn diweddaru rhanddeiliaid ar newidiadau i bolisïau adrodd perfformiad ysgolion.  Mae dogfen cwestiynau cyffredin hefyd ar gael sy’n rhoi rhagor o fanylion am y newidiadau i fynediad cynnar a'r effaith ar fesurau perfformiad.

Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018

Gallwch bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2018

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddatblygu cynnig deddfwriaethol i ddileu'r amddiffyniad hwn. Ni fyddai hyn yn creu trosedd newydd, ond byddai'n dileu amddiffyniad i'r drosedd bresennol, sef ymosod cyffredin neu guro.

Hwb

Adnoddau Rheoli Ffeiliau mewn Rhwydweithiau a Dosbarthiadau Hwb

Rydyn ni wedi ystyried eich adborth ac rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi gwella’r modd mae ffeiliau’n cael eu rheoli yn Rhwydweithiau a Dosbarthiadau Hwb.

Cymru ar Ffilm - Chwedlau

Dylai'r adnodd yma gael ei ddefnyddio gyda phobl ifanc o saith oed ac hŷn, er mwyn cefnogi dathliadau Blwyddyn y Chwedlau Llywodraeth Cymru.

Cwrdd a'r Cnafon Cyfrifiadurol

Mae'r adnodd hwn yn helpu gydag addysgu am gadw'n ddiogel ar-lein ar draws yr ystod oedran 7 i 14 oed. Mae'r adnodd yn datblygu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y dysgwyr am faleiswedd o bob math a'r peryglon cysylltiedig â maleiswedd.

adnoddau

Datrys Problemau – Dechrau Da! Pecyn 1 a 2

Nod Datrys Problemau... dechrau da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma Pecyn 1 a 2 sy'n gosod y plentyn yn y canol gan osod pwyslais ar gynnig fframweithiau pwrpasol i'r addysgu ac i'r dysgu.

Pythefnos Masnach Deg 2018

26 Chwefror i 11 Mawrth, 2018

Mae'r Rhaglen Dysgu Byd-Eang wedi wedi creu rhestr cynhwysfawr o adnoddau dysgu ac addysgu i gefnogi ysgolion.

Newyddion arall

Eisiau 'Gwobr Menter' i annog eich disgyblion?

Dyddiad cau 11/05/18

O redeg siop ysgol bwyta'n iach i ailgylchu esgidiau glaw i wneud cynwysyddion planhigion, mae ond angen dweud wrth Syniadau Mawr Cymru am eich gweithgarwch menter, derbyn Gwobr ddigidol am fod yn Ysgol Fentrus a bydd gennych chi gyfle iâch disgyblion arddangos eu syniadau!!

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn recriwtio aelodau ar gyfer ein paneli Priodoldeb i Ymarfer 

Darperir hyfforddiant - dyddiad cau 12 Mawrth

Mae CGA yn recriwtio ymarferwyr ychwanegol o'n holl grwpiau cofrestredig i eistedd fel aelodau'r panel a gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â phriodoldeb eu cyfoedion i ymarfer. Mae hyn yn golygu clywed achosion am gamymddygiad, anghymhwysedd neu droseddau proffesiynol, a phenderfynu ar addasrwydd y rhai sy'n gwneud cais am gofrestru â CGA.

Eisiau dod yn ysgol wybodus ACE?

Bydd hyfforddiant Ymwybyddiaeth Profiadau Plentyndod Camdriniaeth yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Diwrnod Barddoniaeth y Byd – 21 Mawrth (dolen Saesneg yn unig)

Cyfle i ddod â mwy o farddoniaeth i mewn i’r dosbarth.  

Ceir wybodaeth bellach ar Ddydd Barddoniaeth y Byd Unesco.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews