|
|
Stadiwm Swalec, Caerdydd ar y 7 ac 8 Mawrth
Rydyn ni’n chwilio am athrawon Saesneg a llythrennedd i fynychu panel arbenigwyr i olygu a dewis y testunau ar gyfer yr Asesiadau Personol Ar-lein newydd a fydd ar gael o 2019/20. Os oes diddordeb gennych i fynychu’r panel, cwblhewch y ddolen ar y tudalen Eventbrite.
|
Dylai #EinCymru fod yn rhywle lle mae gan bawb hawl i fyw bywyd llawn, heb ystyried oed, rhywedd, rhywioldeb na hil.
Dyma rhwydwaith sy'n creu cyfleoedd i arweinwyr mathemateg o bob lleoliad gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi cyfoedion. Am ragor o fanylion ac i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, cliciwch yma
Gallwch
bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol
Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru - defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle am ddim yng Nghaerdydd neu Llandudno.
Cynhelir Wythnos Prentisiaethau yn dathlu'r effaith gadarnhaol mae Prentisiaethau yn ei chael ar unigolion, busnesau a'r economi. Drwy gydol Wythnos Prentisiaethau, ein nod yw hyrwyddo manteision a ddaw yn sgil cyflogi a chefnogi prentisiaid yn y gweithle. Os hoffech ymuno â ni i ddathlu cyfraniad gwych prentisiaid i fusnesau ledled Cymru, cysylltwch i gael mwy o wybodaeth a chymorth.
Rydyn ni wedi ystyried eich adborth ac rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi gwella’r modd mae ffeiliau’n cael eu rheoli yn Rhwydweithiau a Dosbarthiadau Hwb.
Mae'r adnodd Hawliau Plant hwn wedi ei ddylunio ar gyfer ysgolion uwchradd, i’w helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Islamoffobia, i daclo cysyniadau negyddol, ac i gyflwyno profiadau go iawn Mwslimiaid ifanc yng Nghymru.
Chwedlau Dylai'r adnodd yma gael ei ddefnyddio gyda phobl ifanc o saith oed i fyny, er mwyn cefnogi dathliadau Blwyddyn y Chwedlau Llywodraeth Cymru.
Mae'r adnodd hwn yn helpu gydag addysgu am gadw'n ddiogel ar-lein ar draws yr ystod oedran 7 i 14 oed. Mae'r adnodd yn datblygu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y dysgwyr am faleiswedd o bob math a'r peryglon cysylltiedig â maleiswedd.
Cymwysterau Cymru’n cyhoeddi adroddiad ac ymgymghoriad am y sector adeiladu
Mae cyfres o argymhellion wedi'u cyhoeddi yn dilyn adolygiad pwysig o ystod ac ansawdd y cymwysterau sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Un agwedd a amlygwyd yn yr adroddiad – sy’n dwyn y teitl Adeiladu’r Dyfodol – yw’r posibilrwydd o gyflwyno cymwysterau newydd yn y sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (AAA).
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben am 18:00 ar 13 Ebrill. I weld rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i ymateb, cliciwch yma.
Ceisiadau agored ar gyfer cyfle Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn y Ffindir i athrawon
Ceisiadau'n cau ar 5 Mawrth
Mae ceisiadau bellach yn agored i uwch-athrawon cymwys yng Nghymru i ymgeisio am gyfle Datblygiad Proffesiynol Parhaus pythefnos yn y Ffindir ym mis Tachwedd 2018.
Cysylltwch â clare.jeffries@portaltraining.co.uk am fwy o wybodaeth.
Bydd hyfforddiant Ymwybyddiaeth Profiadau Plentyndod Camdriniaeth yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru o fis Ebrill 2018.
Cyfle i ddod â mwy o farddoniaeth i mewn i’r dosbarth.
Ceir wybodaeth bellach ar Ddydd Barddoniaeth y Byd Unesco.
Gŵyl y Gelli
Digwyddiad diwrnod Cyfnod Allweddol rhad-ac-am-ddim ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
Dydd Gwener 23 Mawrth 2018 ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wedi'i chyflwyno'n y Gymraeg gydag ysgrifenwyr a pherfformwyr yn cynnwys Aneirin Karadog, Rufus Mufasa a Jon Gower. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â aine@hayfestival.org
|