eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 16 Chwefror 2018 (Rhifyn 517)

16 Chwefror 2018 • Rhifyn 517

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

21st Century 9090

£100m i sicrhau ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif

£100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i gyflymu’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

blog

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Asesiadau Personol Ar-lein – Digwyddiad Panel Arbenigwyr (Darllen – Saesneg)

Stadiwm Swalec, Caerdydd ar y 7 ac 8 Mawrth

Rydyn ni’n chwilio am athrawon Saesneg a llythrennedd i fynychu panel arbenigwyr i olygu a dewis y testunau ar gyfer yr Asesiadau Personol Ar-lein newydd a fydd ar gael o 2019/20. Os oes diddordeb gennych i fynychu’r panel, cwblhewch y ddolen ar y tudalen Eventbrite.

A ydych yn cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)?

Mae arolwg wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn casglu barn gan weithwyr proffesiynol sydd yn ymwneud â chefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac Anawsterau ac Anableddau Dysgu (AAD).

Cynllun cymhelliant iaith athrawon yfory 2018 (2018 Rhif 42)

Mae’r cynllun cymhelliant Cymraeg newydd Iaith Athrawon Yfory, a fydd yn targedu cymorth ar gyfer athrawon-fyfyrwyr TAR sydd wrthi’n hyfforddi i addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn cychwyn Medi 2018 ar gael. Bydd canllawiau llawn y cynllun ar gael yn yr haf.

Adrodd ar Berfformiad Ysgolion – cyhoeddi cwestiynau cyffredin ynghylch arholiadau a sefir yn gynnar a Bwletin 4

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fwletin ar adrodd ar berfformiad ysgolion er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ynghylch newidiadau i bolisïau adrodd ar berfformiad ysgolion. Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin hefyd ar gael sy’n rhoi rhagor o fanylder ynghylch y newidiadau i gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau yn gynnar a’r effaith ar fesurau perfformiad.

Yr ydym angen eich barn am gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mawrth 2018

Mae cyfnod ymgeisio am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 wedi dechrau!

Gallwch bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.

diweddariadau ôl-16

Llwybrau Dysgu 14-19: gofynion adrodd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) – 2018/19

Mae angen cynnwys gwybodaeth am y cynnig cwricwlwm lleol ar gyfer 2018/19 (Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16) ar wefan Gyrfa Cymru Ar-lein erbyn 31 Mawrth 2018.  Mae dogfennau canllaw ar gael yma. Gellir gweld cyfarwyddiadau desg, sy'n cynnwys gwybodaeth am ymholiadau cymorth yma.

Gwobrau VQ 2018: gwahodd enwebiadau

Y Gwobrau VQ yn cydnabod ac yn dathlu rhai sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i sicrhau llwyddiant. Edrychwch ar straeon enillwyr VQ blaenorol. Ydych chi'n gwybod hyfforddwr, dysgwr neu gyflogwr VQ sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn 2018? Enwebwch nawr.

hwb

Bydd Hwb+ yn ymddeol o offer Hwb ym mis Awst 2018

Os ydych chi'n defnyddio Llwyfan Dysgu Rhithiol Hwb+ ar gyfer gweithgareddau ar wahân i reoli defnyddwyr (enwau defnyddwyr a chyfrineiriau), cyfeiriwch at y canllawiau isod i gael gwybodaeth am allforio data o Hwb+.

Os oes gan eich ysgol wefan gyhoeddus ar Hwb+ ac mae angen cyngor arnoch, anfonwch e-bost at hwb@llyw.cymru gan gynnwys enw eich ysgol, enw cyswllt a rhif ffôn.

Yn addysgu addysg ariannol i ddisgyblion ysgol uwchradd? Rhowch gip ar yr adnodd hwn ar Hwb

Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo’r we yn ysgolion Cymru

Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal adolygiad o'r safonau a argymhellwyd yn 2015 ar gyfer hidlo'r we yn ysgolion Cymru. Mae hyn yn ategu ein safbwynt ar ddiogelu dysgwyr ar-lein. 

adnoddau

William Jones PI

Cyfres o achosion i'w datrys gyda'r ditectif William Jones. Gweithgareddau sy'n datblygu sgiliau rhesymu a datrys problemau ar gyfer plant 11-14 mlwydd oed.

Prosesau Afon

Ffeil PowerPoint sy'n esbonio sut mae afon yn erydu ac yn cludo ei llwyth.

newyddion arall

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn recriwtio aelodau ar gyfer ein paneli Priodoldeb i Ymarfer 

Darperir hyfforddiant - dyddiad cau 12 Mawrth

Mae CGA yn recriwtio ymarferwyr ychwanegol o'n holl grwpiau cofrestredig i eistedd fel aelodau'r panel a gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â phriodoldeb eu cyfoedion i ymarfer. Mae hyn yn golygu clywed achosion am gamymddygiad, anghymhwysedd neu droseddau proffesiynol, a phenderfynu ar addasrwydd y rhai sy'n gwneud cais am gofrestru â CGA.

Taclo Islamoffobia yn eich Ysgol 

Mae Comisynydd Plant Cymru wedi gweithio gyda Mwslimiaid ifanc i greu fideos ac adnoddau gwers i daclo Islamoffobia yn eich ysgol. 

Her Deg Punt 

Bydd yr her yn digwydd o: 12 Chwefror i 16 Mawrth 2018

Addewir £10 i fyfyrwyr ac mae ganddynt fis i sefydlu

busnes - gan esgor ar syniad am gynnyrch neu wasanaeth y
gallant ei werthu ac ennill profiad uniongyrchol o sut beth ydy bod yn entrepreneur.

Paratowch at Bythefnos Masnach Deg – 26 Chwefror i 11 Mawrth, 2018

Thema eleni yw “Dewch i Mewn i Fasnach Deg!” Mae’r thema ‘n canolbwyntio ar gefnogi’r ffermwyr a’r gweithwyr sy’n tyfu ein bwyd ac yn gofyn  sut gallwn gynhyrchu a defnyddio nwyddau mewn ffordd decach, yn fwy moesegol a chynaliadwy.  Mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang - Cymru wedi rhoi rhestr gynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu at ei gilydd i gynorthwyo ysgolion.  

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews