eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 6 Chwefror 2018 (Rhifyn 516)

6 Chwefror 2018 • Rhifyn 516

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog

Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

PupilAward9090

Mae cyfnod ymgeisio am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 wedi dechrau!

Gallwch bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.

ALNACT9090

Dysgwch mwy am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru 

#ADYCymru #DeddfADY

www.llyw.cymru/ADY

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Dydd Miwsig Cymru - 9 Chwefror 2018

Cofiwch rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru.

Yr ydym angen eich barn am gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mawrth 2018

Lansio ymgyrch DYMA FI i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac atal camdriniaeth

Yn ddiweddar, lansiwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cymru’n gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed

Mae cyfraith newydd wedi  dod i rym yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu drefnu a/neu roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

Dyddiad can: 2 Ebrill 2018

Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol. 

Y Rhaglen Ehangu Cadetiaid mewn Ysgolion (nifer cyfyngedig o lefydd ar gael)

Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i lwyddo i gael cymeradwyaeth ar gyfer uned cadetiaid drwy'r Rhaglen Ehangu Cadetiaid. Mae yna rai llefydd ar gael os ydych chi'n teimlo y gallai eich ysgol chi elwa ar chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol cliciwch isod

www.wales-rfca.org;

www.gov.uk/guidance/cadet-forces-units-information-for-state-funded-schools

diweddariadau ôl-16

Bydd myfyrwyr Cymru sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol yn elwa ar y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU

Bydd pob myfyriwr israddedig cymwys yng Nghymru sy’n dechrau yn y brifysgol eleni yn gallu gwneud cais am becyn cymorth ariannol newydd a fydd yn eu helpu i dalu costau byw. Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/arianmyfyrwyr

Gwyliwch fideo Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol.

Gwobrau VQ 2018: gwahodd enwebiadau

Os ydych chi'n adnabod unigolion sydd wedi defnyddio eu cymwysterau galwedigaethol i lwyddo a rhagori a/neu gyflogwr lleol sydd wedi hyrwyddo dysgu galwedigaethol yn y gweithle, rydym yn eich annog i'w henwebu am un o’r pedwar gwobr fel rhan o Wobrau VQ 2018.

hwb

Mae'n Ddiwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel 2018

Am fwy o wybodaeth.

Dyfrffyrdd a Bywyd Gwyllt: Rheoli ein hamgylchedd naturiol

Adnodd ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.

Cynnal a chadw Afonydd a Chamlesi 

Mae’r gweithgaredd ymarferol Cyfnod Allweddol 3 hwn yn egluro’r grymoedd sy’n achosi glannau i erydu ac effaith erydu a gweithgareddau pobl ar ansawdd dŵr.

Treth incwm

Adnodd sy’n dangos i ddysgwyr sut i gyfrifo treth incwm, gan ddefnyddio enghreifftiau gweithredol a chysylltiadau i cyn-bapurau TGAU.

adnoddau

Coginio Ymarferol

Llawlyfr Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs Diploma Lefel 1 - Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol.

Gwasanaeth Cynghori Ariannol - Fframwaith Canlyniadau Athrawon (dolen Saesneg yn unig).

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Llawer mwy i weld yma.

A oes angen cymorth arnoch i ddarparu addysg ariannol yn eich ysgol? 

Mae’r adnoddau hyn yn adnabod ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr.

Blwyddyn Newydd Tsieineaidd: Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru (dolen Saesneg yn unig)

Mae’r pecyn addysgol hwn wedi’i ddylunio i helpu dysgwyr a myfyrwyr i ddeall yn well a dathlu Blwyddyn Newydd Tseinieaidd. Trwy'r prosiect hwn gellir cyflawni cydlyniant a hyder pellach rhwng y dau gymuned

newyddion arall

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio gwefan ar ei newydd wedd sydd wedi'i hailddylunio i fod yn haws i'w defnyddio

Mae'r nodweddion newydd sy'n ymddangos ar ein gwefan yn cynnwys swyddogaeth chwilio well, tudalen Cysylltu â ni wedi'i diweddaru a llawer mwy. Gwiriwch eich tudalennau sydd â nod tudalen arnynt oherwydd mae'n bosibl bod peth cynnwys wedi symud. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan

Athrawon a thiwtoriaid TGCh yng Nghymru – mae eich angen chi arnom!

Mae angen eich help chi ar Cymwysterau Cymru er mwyn nodi p'un a yw'r cymwysterau TGCh presennol ar gyfer dysgwyr rhwng 16 a 19 oed yng Nghymru, yn addas at y diben – ac ar ba ffurf y dylai'r cymwysterau hyn fod yn y dyfodol. Gwahoddir athrawon a thiwtoriaid y cymwysterau hyn i gymryd rhan mewn gweithdy a gynhelir yn y Drenewydd, Powys ar 27 Chwefror 2018 rhwng 10am a 2:30pm.

Grwpiau Ysgolion a Ieuenctid - Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2018 (dolen Saesneg yn unig)

Thema’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni (5-11 Chwefror) yw unigrywiaeth. Ewch i’r gwe-dudalen am amrywiaeth o syniadau i helpu’ch ysgol neu grŵp.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews