|
|
Gallwch bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.
|
Cofiwch rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru.
Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mawrth 2018
Yn ddiweddar, lansiwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae cyfraith newydd wedi dod i rym yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu drefnu a/neu roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.
Dyddiad can: 2 Ebrill 2018
Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol.
Y Rhaglen Ehangu Cadetiaid mewn Ysgolion (nifer cyfyngedig o lefydd ar
gael)
Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd yw'r ysgol gyntaf yng
Nghymru i lwyddo i gael cymeradwyaeth ar gyfer uned cadetiaid drwy'r Rhaglen
Ehangu Cadetiaid. Mae yna rai llefydd ar gael os ydych chi'n teimlo y gallai
eich ysgol chi elwa ar chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol cliciwch isod
www.wales-rfca.org;
www.gov.uk/guidance/cadet-forces-units-information-for-state-funded-schools
Bydd pob myfyriwr israddedig cymwys yng Nghymru sy’n dechrau yn y brifysgol eleni yn gallu gwneud cais am becyn cymorth ariannol newydd a fydd yn eu helpu i dalu costau byw. Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/arianmyfyrwyr
Gwyliwch fideo Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol.
Os
ydych chi'n adnabod unigolion sydd wedi defnyddio eu cymwysterau
galwedigaethol i lwyddo a rhagori a/neu gyflogwr lleol sydd wedi hyrwyddo dysgu
galwedigaethol yn y gweithle, rydym yn eich annog i'w henwebu am un o’r pedwar
gwobr fel rhan o Wobrau VQ 2018.
Am fwy o wybodaeth.
Adnodd ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn
rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth
allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i
gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.
Mae’r gweithgaredd ymarferol Cyfnod Allweddol 3 hwn yn egluro’r grymoedd
sy’n achosi glannau i erydu ac effaith erydu a gweithgareddau pobl ar ansawdd
dŵr.
Adnodd sy’n dangos i
ddysgwyr sut i gyfrifo treth incwm, gan ddefnyddio enghreifftiau gweithredol a
chysylltiadau i cyn-bapurau TGAU.
Llawlyfr
Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs Diploma Lefel 1 - Cyflwyniad i
Goginio Proffesiynol.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Llawer mwy i weld yma.
Mae’r adnoddau hyn yn adnabod
ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr.
Mae’r pecyn addysgol
hwn wedi’i ddylunio i helpu dysgwyr a myfyrwyr i ddeall yn well a dathlu
Blwyddyn Newydd Tseinieaidd. Trwy'r prosiect hwn gellir cyflawni cydlyniant a
hyder pellach rhwng y dau gymuned
Mae'r nodweddion newydd sy'n ymddangos ar ein gwefan yn cynnwys swyddogaeth
chwilio well, tudalen Cysylltu â ni wedi'i diweddaru a llawer mwy. Gwiriwch
eich tudalennau sydd â nod tudalen arnynt oherwydd mae'n bosibl bod peth
cynnwys wedi symud. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan.
Mae angen eich help
chi ar Cymwysterau Cymru er mwyn nodi p'un a yw'r cymwysterau TGCh presennol ar
gyfer dysgwyr rhwng 16 a 19 oed yng Nghymru, yn addas at y diben – ac ar ba
ffurf y dylai'r cymwysterau hyn fod yn y dyfodol. Gwahoddir athrawon a
thiwtoriaid y cymwysterau hyn i gymryd rhan mewn gweithdy a gynhelir yn y Drenewydd, Powys ar 27 Chwefror 2018 rhwng
10am a 2:30pm.
Thema’r
Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni (5-11 Chwefror) yw unigrywiaeth. Ewch i’r gwe-dudalen
am amrywiaeth o syniadau i helpu’ch ysgol neu grŵp.
|