Blwyddyn Newydd, Golwg Newydd
Er mwyn eich helpu i gael gafael ar wybodaeth caffael
mewn un lle, croeso i gylchlythyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth
Cymru ar ei newydd wedd! Byddwn yn dod â'r newyddion diweddaraf i chi am waith
caffael yng Nghymru, gan gynnwys diweddariadau polisi pwysig, a newyddion a
digwyddiadau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Byddem yn croesawu eich adborth
ar y newidiadau a wnaed. Anfonwch neges atom yn NPSCommunications@llyw.cymru os
oes gennych unrhyw sylwadau.
|
|
Polisi Cyfrifon Banc Prosiectau
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio polisi Cyfrifon Banc
Prosiectau newydd, yn weithredol o 1 Ionawr 2018. Darllen mwy
|
Adolygiad y GCC a
Gwerth Cymru
Ym mis Medi, cyhoeddoedd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid, y byddai'n cyflwyno adolygiad annibynnol o'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru.
Mae grŵp rhanddeiliad wedi
ei sefydlu bellach er mwyn llywio’r adolygiad a fydd yn cyfarfod am y tro
cyntaf ddiwedd mis Chwefror. Penodwyd Andrew Falvey, Cyfarwyddwr Masnachol yr
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, yn Gadeirydd annibynnol y grŵp. Byddwn
yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch
NPSCommunications@llyw.cymru
|
A ydych yn barod
ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol newydd?
Mae Rheoliadau Diogelu
Data Cyffredinol yr UE yn dod i rym ar 25 Mai 2018, drwy roi amrywiaeth o
rwymedigaethau newydd ar sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod yn fwy atebol am
ddiogelu data. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno dirwyon
llymach am beidio â chydymffurfio ac am fynediad diawdurdod at ddata. Darllen mwy
|
Yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi cynllun i gefnogi
diwydiant dur Cymru
Mae
Nodyn Cyngor Caffael newydd wedi’i gyhoeddi, a fydd yn parhau â chefnogaeth
Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Darllen mwy
|
|
|
Croesawu aelodau newydd
Hoffem roi croeso cynnes iawn i'n haelodau newydd o’r
trydydd sector a’r sector tai. Darllen mwy
|
|
Newidiadau i drothwyon Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd
(OJEU)
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno trothwyon diwygiedig a
ddefnyddir i hysbysebu contractau yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb
Ewropeaidd. Darllen mwy
|
A yw eich sefydliad wedi cofrestru i'r Cod Ymarfer ar
Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi?
Nod y Cod yw sicrhau bod gweithwyr mewn
cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi'n gyfreithlon ac yn
deg, ac na chaiff caethwasiaeth ac arferion cyflogaeth anfoesegol eu goddef. Darllen mwy
|
Ymgynghori ar amserlen 5 mlynedd y GCC
Diolch i'r holl gwsmeriaid a gymerodd yr amser i roi eu
safbwyntiau a'u sylwadau ar amserlen caffael ddrafft 5 mlynedd y GCC. Lluniwyd
yr amserlen er mwyn ein galluogi i ymgynghori â sector cyhoeddus Cymru ar
ddarpariaeth caffael yn y dyfodol ar gyfer ein cwsmeriaid. Derbyniwyd adborth
gan fwy na 30 o sefydliadau.
Caiff y cynllun ei
gyflwyno i Grŵp Cyflenwi’r GCC ym mis Chwefror i'w gwblhau. Byddwn yn rhoi
rhagor o wybodaeth i chi drwy'r cylchlythyr, ond os oes gennych unrhyw
ymholiadau, cysylltwch â: Paul.Griffiths1@llyw.cymru
Rhestr o Fframweithiau Byw
Mae'r rhestr o fframweithiau byw sydd ar gael i'w
defnyddio wedi'i diweddaru ar ein gwefan. Darllen mwy
Pwy yw Pwy yn y GCC
Mae
'Pwy yw Pwy yn y GCC' (Cyfeiriadur Cysylltiadau blaenorol) wedi'i ddiweddaru'n
ddiweddar ac mae bellach ar gael ar GwerthwchiGymru.
|
|
Marwolaeth sydyn Paul Broadbent
Rydym yn drist iawn o glywed am
farwolaeth Paul Broadbent, Prif Swyddog Gweithredol yr Awdurdod Meistri Gangiau
a Cham-drin Llafur (GLAA), yn 54 oed ym mis Rhagfyr. Darllen mwy
|
Cyflenwr Llogi Cerbydau yn
ehangu i'r gogledd
Mae Day's Rental, cyflenwr ar Fframwaith Llogi Cerbydau’r GCC, wedi agor
cangen newydd yn Wrecsam, a leolir ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Yn
y llun mae Dave Roberts, Rheolwr Fflyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Kay
Russell, Rheolwr Llogi Day’s Rental.
Darllen mwy
|
|
|
Lansio adnodd 'Sgrinio ar gyfer Cartelau' yr Awdurdod
Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi
lansio adnodd digidol er mwyn helpu i drechu rigio ceisiadau. Darllen mwy
|
|
Hanfodion Seiber
Mae gwefan newydd wedi'i lansio ar gyfer Hanfodion
Seiber: cynllun ardystio wedi'i gefnogi gan y llywodraeth, sydd wedi'i anelu at
annog pob sefydliad yn y DU i ddiogelu ei hunain rhag y mathau mwyaf cyffredin
o ymosodiadau seiber. Darllen mwy
|
Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr Cyngor Rhondda Cynon Taf
Byddwn yn mynd i ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr Cyngor
Rhondda Cynon Taf a gynhelir ddydd Gwener 9 Mawrth 2018 yng Nghanolfan Hamdden
Llantrisant. Darllen mwy
Digwyddiad
Is-gontractwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf
Mae Cyngor
Rhondda Cynon Taf yn cynnal digwyddiad i is-gontractwyr yng Nghanolfan Hamdden
Llantrisant, ddydd Mercher 28 Chwefror 2018. Darllen mwy
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl
ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a
chyd-weithwyr caffael ledled Cymru, rydym wedi creu’r Calendr Digwyddiadau
isod.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a
gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y
newyddion diweddaraf am wybodaeth pwysig ynghylch estyniad y fframwaith Papur
Copïo, Digidol ac Offset Swyddfa; prisiau’r fframwaith Deunydd Ysgrifennu a
Phapur Copïo; a chanlyniad mini-gystadleuaeth ar y fframwaith Cyflenwi
Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) Llachar, Lifreion, Gwisg Gwaith a Gwisg Hamdden
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
Digidol, Data a TGCh
Cynhyrchion a Gwasanaethau TG – darllenwch
yma am ddiweddariad pwysig ar y fframwaith i gwsmeriaid..
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a TGCh
– darllenwch yma i gael gwybod am ein gwaith gyda chyflenwyr i roi nifer o
fenrau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.
Adnoddau eGaffael – darllenwch yma i
gael gwybod am ymarfer caffael ar gyfer adnoddau eGaffael Cymru gyfan.
Darllenwch y
newyddion diweddaraf ar gaffaeliad BravoSolutions; diweddariadau ar
fframweithiau Cynhyrchion a Gwasanaethau TG, Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth,
Gwasanaethau Digidol Cymru Gyfan, a’r fframwaith Gwasanaethau Ceblau
Strwythuredig.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd
Darllenwch y
newyddion diweddaraf ar Fframweithiau ar gyfer Darparu Telemateg Cerbydau,
Llogi Cerbydau II, a Gwirio Trwyddedau Gyrwyr; manylion ar estyniadau i’r
fframweithiau Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig a Thanwyddau Hylif; a sut i
fod yn rhan o feysydd datblygu yn y dyfodol.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd
Darllenwch y
newyddion diweddaraf am arweiniad ar ddefnyddio ein fframweithiau Cyflenwi a
Dosbarthu Bwyd a Diodydd Ffres, a Chyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd wedi’u
Pecynnu; a chyfle i roi adborth ar ein fframweithiau Bwyd cyfredol.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
Gwasanaethau
Pobl
Darllenwch y
newyddion diweddaraf er mwyn cael gwybod manylion digwyddiad Adnoddau Dynol ym
mis Mawrth; a diweddariad ar y fframwaith Teithio a Llety Busnes.
Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch y
newyddion diweddaraf i gael gwybod am gontract newydd; camau pwysig i
gwsmeriaid eu dilyn ynglŷn â Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd;
canlyniadau cyfarfod Grŵp Fforwm Categori Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau
Ariannol; cyfleoedd hyfforddi Gwasanaethau Cyfreithiol; diwygiadau i brisiau’r
fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo); ac Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar:
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|