|
|
Wedi methu’r cynadleddau Cwricwlwm i Gymru: Troi’r Gornel ddiweddar?
Peidiwch â phoeni gallwch wylio eto areithiau’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, Yr Athro Mark Priestley, Dr Dylan Jones a’r Athro a’r Fonesig Alison Peacock.
|
|
|
Wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf ein bwrdd ymgynghori. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar ei waith drwy glicio ar ddolen y pennawd.
|
Mae grŵp sy'n adolygu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn ceisio barn y cyhoedd. Mae'r grŵp yn gwneud hynny gan fod Llywodraeth Cymru wrthi'n paratoi i roi system newydd ar waith o fis Medi 2019 a fydd yn ateb gofynion penodol Cymru.
Swyddi gwag yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
Penodi Cadeirydd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol - dyddiad cau 11/2/18
Penodi Aelodau i'r Bwrdd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol - dyddiad cau 11/2/18
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi treialu’r canllaw yn llwyddiannus mewn wyth ysgol. Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i wella’r dull o nodi’r dysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu a darparu’r cymorth priodol.
Canllawiau
ar y grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau addysg
gychwynnol TAR llawn amser i athrawon cyn iddynt ddechrau addysgu 2018/19.
Dyddiad can: 2 Ebrill 2018
Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol.
Darganfyddwch sut bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn bwriadu rhoi'r system newydd ar waith yng Nghymru.
Nawr wedi’i diweddaru mae’r canllaw’n darparu trosolwg o rolau a chyfrifoldebau, yn ymwneud â rheoli presenoldeb, o bawb sy’n rhan o’r gwaith o addysgu plant a phobl ifanc.
Nod y canllaw hwn yw helpu a chynorthwyo pob athro i ganolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf i ddysgwyr, a lleihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.
Mewngofnodwch i ymweld a'r adnodd.
Cynadleddau rhanbarthol 2018 Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol (dolen Saesneg yn unig)
Cynlluniwyd y digwyddiad hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru a bydd anerchiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg.
Defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle am ddim a cliciwch y dolenni perthnasol isod am wybod mwy.
Dyma
gystadleuaeth i blant cynradd ac uwchradd ar draws Cymru gyfan gyda Coleg
Meirion-Dwyfor, mewn partneriaeth â BT Cymru a Chanolfan Ehangu Mynediad
Prifysgol Bangor. Dyddiad cau 31 Ionawr!
Bydd eich ymatebion yn helpu Chwarae Teg i ddeall a meincnodi cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth yng Nghymru.
Pa mor dda y mae eich ysgol yn deall arfer dda yn y cyfnod sylfaen? Mae adroddiad a ffilm newydd Estyn yn disgrifio arfer effeithiol o ran cyflwyno llythrennedd a rhifedd, sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y cyfnod sylfaen.
|