eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 21 Rhagfyr 2017 (Rhifyn 181)

21 Rhagfyr 2017 • Rhifyn 181

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

welsh in education 130 x 130

Cynllun i roi lle canolog i addysg yn y broses o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Cyhoeddodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gynllun newydd yr wythnos yma sy'n rhoi lle canolog i addysg o fewn uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Y Gymraeg mewn addysg Cynllun gweithredu 2017–21

KW9090

Neges diwedd y flwyddyn yr Ysgrifennydd Cabinet

NRNT1 130130

Gwerthuso'r Grant Datblygu Disgyblion

Ar 13 Rhagfyr cyhoeddwyd  adroddiad sy'n gwerthuso trydedd flwyddyn y Grant Datblygu Disgyblion, (neu'r Grant Amddifadedd Disgyblion fel y'i  gelwid).  Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig amdano.  Gallwch ei weld yma

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Siartiau wal ar gyfer diwygio addysg a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae dau siart wal wedi'i yrru i'ch ysgol wythnos yma,  felly cadw'ch lygaid allan amdanynt os gwelwch chi'n dda. Cyflwynwch nhw yn eich ystafelloedd staff neu ar hysbysfyrddau os gwelwch chi'n dda.

Canfod ‘Drws ffrynt’ ein cwricwlwm newydd – stori Ysgol Gyfun Porthcawl fel Arloeswyr y Cwricwlwm eleni

Cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion: Canllawiau cam–wrth-gam ar gyfer Arweinwyr, Athrawon a Staff sy ddim yn dysgu, Fersiwn Cymru  

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi treialu’r canllaw yn llwyddiannus mewn wyth ysgol. Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i wella’r dull o nodi’r dysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu a darparu’r cymorth priodol.

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi’i basio

Darganfyddwch sut bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn bwriadu rhoi'r system newydd ar waith yng Nghymru.

Cyhoeddi enw enillydd Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog

Bu’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanyrafon yng Nghwmbrân i gyhoeddi enw enillydd ei gystadleuaeth Cerdyn Nadolig.

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Genedlaethol

Y dyddiad cau yw 22 Rhagfyr.

Os gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr gan e-bost, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.

Dyfodol y Cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru

Argymhellion y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.

£500,000 ar gyfer Adnoddau Addysg Cymraeg

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod £500,000 wedi'i ddyfarnu i 22 o brosiectau newydd i ddarparu adnoddau addysgol Cymraeg newydd.

Cynadleddau Rhanbarthol Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes mewn Ysgol (ISBL)

Mae’r digwyddiadau yma’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth busnes yn yr ysgol yng Nghymru ac yn agored i weithwyr Proffesiynol Busnes mewn Ysgolion a Phenaethiaid.

  • Caerdydd – 22 Mawrth 2018
  • Llandudno – 7 Mehefin 2018

Caiff eich lle ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Defnyddiwch y cod canlynol: CM7m6Opn wrth wneud eich archeb. Darllenwch y telerau ac amodau.

hwb

Canllaw i rieni a gofalwyr ar nodweddion diogelwch setiau teledu clyfar a gwasanaethau ffrydio teledu ar gais.

Mae'r canllaw hwn yn rhoi amlinelliad o'r ystyriaethau diogelwch ar gyfer defnyddio setiau teledu clyfar a gwasanaethau ffrydio teledu ar gais, gan gynnwys ffyrdd o ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i ddiogelu plant rhag cynnwys anaddas.  Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i'w ystyried wrth brynu teledu clyfar a risgiau defnyddio teledu clyfar.

Cyfeillgarwch ar-lein - rhestrau chwarae newydd ar gael

Mae plant a phobl ifanc yn treulio mwy o amser ar-lein nag erioed o'r blaen. Mae'r pum rhestr chwarae hyn yn ystyried cymhlethdodau cyfeillgarwch ar-lein ac maent yn darparu canllawiau defnyddiol ar gyfer creu cysylltiadau ar-lein.  Mae'r rhestrau chwarae yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau, gwasanaethau cymorth ac asiantaethau a all fod yn ddefnyddiol i ysgolion, colegau a'u llywodraethwyr.

Dibyniaeth Ddigidol 2017

21 o gynlluniau gwers ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a CA2 i helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau i reoli eu defnydd o ddyfeisiadau digidol. 

Lleihau baich gwaith – Canllaw i athrawon a phenaethiaid

Nod y canllaw hwn yw helpu a chynorthwyo pob athro i ganolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf i ddysgwyr, a lleihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.

newyddion arall

Grantiau prosiect gwerth £2,000 i ddatblygu dysgu byd-eang

A fyddai gan eich ysgol ddiddordeb mewn cydweithio ag ysgolion eraill er mwyn helpu i ddyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang? Mae’r Rhaglen Dysgu Byd-eang - Cymru bellach yn rhoi’r cyfle i bob ysgol wneud cais am un o'n grantiau gwerth £ 2,000 i gyflawni prosiect penodol.

Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Pa mor dda y mae eich ysgol yn deall arfer dda yn y cyfnod sylfaen?  Mae adroddiad a ffilm newydd Estyn yn disgrifio arfer effeithiol o ran cyflwyno llythrennedd a rhifedd, sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y cyfnod sylfaen. Darganfyddwch fwy

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews