|
|
Cyhoeddodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gynllun newydd yr wythnos yma sy'n rhoi lle canolog i addysg o fewn uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Y
Gymraeg mewn addysg Cynllun
gweithredu 2017–21
|
|
|
Ar 13 Rhagfyr
cyhoeddwyd adroddiad sy'n gwerthuso
trydedd flwyddyn y Grant Datblygu Disgyblion, (neu'r Grant Amddifadedd
Disgyblion fel y'i gelwid). Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig amdano.
Gallwch
ei weld yma
|
Siartiau wal ar gyfer diwygio addysg a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Mae dau siart wal wedi'i yrru i'ch ysgol wythnos yma, felly cadw'ch lygaid allan amdanynt os gwelwch chi'n dda. Cyflwynwch nhw yn eich ystafelloedd staff neu ar hysbysfyrddau os gwelwch chi'n dda.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Cymru wedi treialu’r canllaw yn llwyddiannus
mewn wyth ysgol. Mae’r adnodd hwn yn dangos
sut i wella’r dull o nodi’r dysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu a
darparu’r cymorth priodol.
Darganfyddwch sut bydd yr Ysgrifennydd Addysg,
Kirsty Williams yn bwriadu rhoi'r system newydd ar waith yng Nghymru.
Ysgolion fel
Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Genedlaethol
Y
dyddiad cau yw 22 Rhagfyr.
Os
gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr gan e-bost, byddem yn croesawu
eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.
Argymhellion y
Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.
Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg, ac Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi
cyhoeddi bod £500,000 wedi'i ddyfarnu i 22 o brosiectau newydd i ddarparu
adnoddau addysgol Cymraeg newydd.
Rydym yn chwilio am y busnes, syniad busnes a gweithgaredd mentrus
orau ymhlith pobl ifanc 16-25 oed yng Nghymru. Dewch i arddangos y
gweithgareddau mentrus a ddatblygwyd yn eich ystafell ddosbarth! Ymwelwch â’r wefan i ymgeisio.
Mae’r digwyddiadau yma’n canolbwyntio ar ddatblygu
arweinyddiaeth busnes yn yr ysgol yng Nghymru ac yn agored i weithwyr
Proffesiynol Busnes mewn Ysgolion a Phenaethiaid.
- Caerdydd – 22 Mawrth 2018
- Llandudno – 7 Mehefin 2018
Caiff eich lle ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Defnyddiwch y cod canlynol: CM7m6Opn wrth wneud eich archeb. Darllenwch
y telerau ac amodau.
Mae Cymwysterau Cymru
wedi cyhoeddi adroddiad o gyflwyno’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol diwygiedig yn
dilyn adolygiad cynhwysfawr.
Roedd sawl un o
ganfyddiadau'r adolygiad yn gadarnhaol; fodd bynnag, canfuwyd heriau, hefyd,
sy'n effeithio ar y broses o gyflwyno'r cymwysterau yn llwyddiannus. O
ganlyniad, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i'r
afael â'r pryderon a nodwyd gan yr adolygiad.
Fel rhan o’i adolygiad o gymwysterau TGAU, Safon Uwch a
chymwysterau galwedigaethol mewn TGCh, mae Cymwysterau Cymru yn gofyn i
athrawon, dysgwyr a'r rhai sydd â diddordeb mewn cymwysterau TGCh yng Nghymru
gymryd rhan mewn arolwg byr.
Mae'r arolwg yn cau ddydd Gwener 22 Rhagfyr.
Eisiau:
arbenigwyr pwnc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (dyddiad cau: 8
Ionawr 2018)
Mae Cymwysterau Cymru’n awyddus i benodi arbenigwyr o
ystod o gefndiroedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant i weithio ar
gyfres newydd o gymwysterau Lefel 1/2 i Lefel 5.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr arbenigwyr pwnc ar gael yma ar wefan
Cymwysterau Cymru. I wneud cais, ewch i https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/ a
teipiwch ‘OCT219156’ i chwilio am y contract.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi amlinelliad o'r ystyriaethau
diogelwch ar gyfer defnyddio setiau teledu clyfar a gwasanaethau ffrydio teledu
ar gais, gan gynnwys ffyrdd o ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i ddiogelu
plant rhag cynnwys anaddas. Mae hefyd yn
darparu gwybodaeth i'w ystyried wrth brynu teledu clyfar a risgiau defnyddio
teledu clyfar.
Mae
plant a phobl ifanc yn treulio mwy o amser ar-lein nag erioed o'r blaen. Mae'r
pum rhestr chwarae hyn yn ystyried cymhlethdodau cyfeillgarwch ar-lein ac maent
yn darparu canllawiau defnyddiol ar gyfer creu cysylltiadau ar-lein. Mae'r rhestrau chwarae yn cynnwys amrywiaeth
o ddogfennau, gwasanaethau cymorth ac asiantaethau a all fod yn ddefnyddiol i
ysgolion, colegau a'u llywodraethwyr.
Nod y canllaw
hwn yw helpu a chynorthwyo pob athro i ganolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf
i ddysgwyr, a lleihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.
A fyddai gan
eich ysgol ddiddordeb mewn cydweithio ag ysgolion eraill er mwyn helpu i
ddyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang? Mae’r Rhaglen Dysgu
Byd-eang - Cymru bellach yn rhoi’r cyfle i bob ysgol wneud cais am un o'n
grantiau gwerth £ 2,000 i gyflawni prosiect penodol.
|