eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 12 Rhagfyr 2017 (Rhifyn 512)

12 Rhagfyr 2017 • Rhifyn 512

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Science130x130

Dechrau ymgyrch i wella gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion

Bu i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, lansio’n swyddogol rwydwaith newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

Issues with IT

Blog cwricwlwm i Gymru

Beth sy’n achosi problemau TG eich ysgol?

image of conference 130px

Gwyliwch yn fyw o’r gynhadledd Cwricwlwm i Gymru: troi'r gornel, areithiau

Dydd Iau 14 Rhagfyr

Yr Athro a’r Fonesig Alison Peacock (am 9:45)

Kirsty Williams, AC, Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg (11:35)

Dilynwch ein cyfrif trydar i wylio @LlC_Addysg

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Bydd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn sicrhau darpariaeth arweinyddiaeth o ansawdd uchel i bawb yn y sector addysg. Datganiad Ysgrifenedig - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Rôl Gyswllt o fewn yr Academi

Gwahoddiad i benaethiaid wneud cais i ymuno â'r garfan beilot gyntaf o Gymdeithion yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Adroddiad Blynyddol 'Dyfodol Byd-eang' 2017

Cafodd ail adroddiad blynyddol y cynllun Dyfodol Byd-eang ei gyhoeddi ddydd Mawrth 5 Rhagfyr. Mae Dyfodol Byd-eang, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015, yn gynllun pum mlynedd i wella'r niferoedd sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru a chyrhaeddiad yn y pynciau hyn.

Ymgynghoriad - Cymorth tuag at astudiaethau doethuriaeth

Rydym am sicrhau na fydd cyllid yn gymaint o rwystr, gan alluogi i fyfyrwyr barhau â’u hastudiaethau i’r lefel uchaf un.

Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr cymwys, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, gael benthyciad o hyd at £25,000 dros hyd y cwrs.

Nid yw’r canlyniadau arholiadau terfynol yn dangos y darlun cyflawn eto, medd yr Ysgrifennydd Addysg

Mae’r newidiadau i gymwysterau a mesurau perfformiad yn golygu nad yw’n briodol cymharu canlyniadau TGAU eleni a’r llynedd na chwaith bod y cymariaethau’n gywir, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Addysg.

Ychwanegu Google ar gyfer Addysg at Wasanaethau Hwb

Ychwanegir G Suite for Education i Hwb ond byddwn yn parhau i gynnig offer poblogaidd fel:

  • Office 365
  • Just2easy
  • Rhestrau Chwarae
  • Dosbarthiadau
  • Rhwydweithiau

Nodweddion newydd ar Hwb

Darllenwch am y nodweddion newydd sydd yn dod i Hwb yn fuan.

ADNODDAU

Lleihau baich gwaith – Canllaw i athrawon a phenaethiaid

Nod y canllaw hwn yw helpu a chynorthwyo pob athro i ganolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf i ddysgwyr, a lleihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.

Ap SABA

Ap a grëwyd er mwyn dysgu dysgwyr Cymraeg iaith gyntaf Cyfnod Allweddol 2 sut i sillafu a chael hwyl ar yr un pryd. Mae modd llawr lwytho’r Ap hwn oddi ar wefan Hwb, gweler dolen isod:

Ap codio sy’n addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2.

Adroddiad Blynyddol at Ysgolion: Blwyddyn Academaidd 2016 i 2017  

newyddion arall

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi lansio enwebiadau Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2018 yng Nghymru

Edrychwn am bobl, prosiectau a chyflogwyr y bydd eu llwyddiannau dysgu yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd neu fynd ati i ddysgu, pobl sydd wedi gwella eu bywydau a/neu fywydau pobl eraill a chael profiad cadarnhaol neu newid bywyd o addysg oedolion. 

Am ragor o wybodaeth am sut i enwebu cliciwch yma, i ymweld a'r wefan. Enwebwch erbyn: dydd Gwener 16 Mawrth 2018

4 Ionawr - Bydd Diwrnod Braille y Byd yn dathlu geni Louis Braille

dyfeisiwr y system darllen ac ysgrifennu sy’n cael ei defnyddio gan filiynau o bobl ddall a rhannol ddall ledled y byd. Gall plant ddysgu mwy amdano ac am sut, yn 15 mlwydd oed, ddaeth o hyd i 63 ffordd i ddefnyddio cell chwe-dot mewn ardal llai na blaen bys ar

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews