eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 5 Rhagfyr 2017 (Rhifyn 511)

5 Rhagfyr 2017 • Rhifyn 511

 
 
 
 
 
 

prif newyddion

blog9090

Post blog newydd Cwricwlwm i Gymru

Yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn, credwn fod datblygu ysgolion yng Nghymru i weithredu fel sefydliadau sy’n dysgu yn gwneud synnwyr perffaith …

EducationWalessmall9090

Adroddiad ar ysgolion arloesi yn dangos y daith tuag at wella’n barhaus

Mae adborth gan ysgolion arloesi sy’n cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud.

GoogleBrand9090

Cyflwyno Google for Education mewn ysgolion yng Nghymru y flwyddyn nesaf 

Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd athrawon yn cael mwy o ddewis yn fuan o ran y cyfarpar digidol y maent yn eu defnyddio, o ganlyniad i gyflwyno Google for Education. Datblygwyd y feddalwedd newydd yn dilyn adborth gan ysgolion, a bydd ar gael drwy Hwb

Newyddion addysg yng nghymru

Adolygiad annibynnol o oblygiadau'r Rhaglen Diwygio Addysg o ran rôl Estyn yn y dyfodol - Galwad am Dystiolaeth

Comisiynwyd y galwad am dystiolaeth i gasglu barn rhanddeiliaid ar rôl Estyn yn cefnogi diwygiad addysg. Dyddiad cau 17 Rhagfyr 2017.

Canllawiau newydd i gefnogi rôl y person dynodedig ar gyfer plant mewn ysgolion sy'n derbyn gofal

Mae 'Gwneud gwahaniaeth' yn canolbwyntio'n bennaf ar rôl y person dynodedig mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig, ond mae hefyd yn ymdrin â chyfnod pontio plant sy'n derbyn gofal o oed cyn ysgol i addysg orfodol a phellach ac addysg uwch. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2018-19

Rydym am i chi ddweud wrthym sut y byddech chi'n dyrannu'r gyllideb a pha wasanaethau sydd bwysicaf i chi. Sut fysai chi'n gwario £15.3biliwn?  Rhowch gais ar yr efelychyd Cyllid!

Diweddariadau Ôl -16

Troi Eich Llaw

Diben y fenter Troi Eich Llaw yw annog plant ysgol i gymryd mwy o ran mewn addysg alwedigaethol. Caiff disgyblion gyfle i ddysgu am lwybrau gyrfa galwedigaethol a phrentisiaethau drwy ddefnyddio’r offer diweddaraf gan gynnwys pecyn roboteg, efelychydd trafnidiaeth, set addysgu technoleg werdd a phecyn animeiddio. 

adnoddau

Canllaw i athrawon ar ddiogelu dysgwyr ar-lein

Mae plant a phobl ifanc yn aml yn treulio amser ar-lein yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol, a gall hyn arwain at fwy o risgiau. Mae'r canllaw hwn yn cynnig saith awgrym da ynghylch sut y gallwch helpu i ddiogelu dysgwyr ar-lein. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddolenni ategol at gynnwys ychwanegol.

Cydwybod a dewis 

Y mae’r pecyn hwn yn cefnogi dysgwyr CA3-4 wrth edrych yn feirniadol ar y penderfyniadau anodd yr oedd rhaid i bobl, gan gynnwys gwrthwynebwyr cydwybodol eu gwneud yn ystod y Rhyfel Mawr.  

Beth yw Heddwch? 

Gweithdy yw hwn sydd yn cefnogi ddysgwyr CA3-4 wrth ystyried beth a olygir gan heddwch, beth yw nodweddion arwr, a beth gall pobl ifanc ei wneud i greu byd mwy heddychlon.

Nofelau cyntaf sydd mewn trioleg ar gyfer yr arddegau

Bydd nofelau 2 a 3 pob cyfres yn cael eu cyhoeddi yn 2018 a 2019.

newyddion arall

Rhannu rhagoriaeth ledled Cymru

Yn 2016-2017, barnodd Estyn fod 34 o ddarparwyr yn 'Rhagorol'. Dysgwch am strategaethau eu llwyddiant trwy wylio ein ffilm a darllen eu hastudiaethau achos.

Blog CGA – 'Sôn'

Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?

Newyddion Rhaglen Dysgu Byd-Eang – Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. 

Atgoffa ysgolion uwchradd sydd wedi cofrestru ar gyfer yr arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae gennych dair wythnos i osgoi’r siom o golli allan ar ddata gwerthfawr ar gyfer yr hunanasesiad o les yn eich ysgol. Cysylltwch â’r tîm i gofrestru ar shrn@caerdydd.ac.uk

Mae #TaithySgriblwyr yn ôl. Digwyddiadau rhad-ac-am-ddim ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru ym mis Ionawr

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews