eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 23 Tachwedd 2017 (Rhifyn 510)

23 Tachwedd 2017 • Rhifyn 510

 
 
 
 
 
 

prif newyddion

testadministration

System archebu Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn cau yfory

Gall ysgolion archebu papurau’r profion trwy glicio ar y linc yma. Bydd y system archebu profion ar agor tan ddydd Gwener, 24 Tachwedd.

Darganfod pryd mae’r profion 2018 yn cael eu cynnal yn ogystal â dyddiadau pwysig eraill

offerynauiblant9090

Rhowch gartref newydd i’r offerynnau llychlyd hynny sydd ddim yn cael eu defnyddio

Mae hi'n Wythnos Amnest Offerynnau Cerdd (20-24 Tachwedd 2017). Byddem wrth ein bodd petaech chi’n cyfrannu’r offerynnau hynny oedd unwaith yn annwyl, ond ni chwaraeir rhagor. #OfferynnauiBlant

blog9090

Post blog newydd Cwricwlwm i Gymru?

A Fydd Cymwysterau’n Newid yn Sgil y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru?

Canllawiau newydd ar gael – Secstio: Ymateb i achosion sy’n codi a diogelu dysgwyr 

Mae Gweithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd wedi llunio canllawiau mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru i helpu ysgolion a cholegau yng Nghymru i ddelio ag achosion o secstio.  

Cymrwch ran yn ein Arolwg Asesu Anghenion Hyfforddi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

Rydym yn annog holl staff yr ysgol sy'n gyfrifol am addysg rhyw ac pherthnasoedd (ARhPh), addysg bersonol a chymdeithasol a diogelu i gymryd rhan yn ein harolwg saes anghenion hyfforddi ARhPh. 

Cronfa werth £2.3 biliwn ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau

Ar 10 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £2.3 biliwn ychwanegol i foderneiddio'r seilwaith addysg.

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - gosod y Memorandwm Esboniadol diwygiedig a chyhoeddi'r Asesiadau Effaith diweddaraf!

Cynhaliwyd gweithdrefn Cam 3 yn Cyfarfod Llawn,  21 Tachwedd 2017. 

Cliciwch i gael gwybod mwy am 11 nod craidd y Bil a gweld yr Asesiadau Effaith diweddaraf.

Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern Dyfodol Byd-Eang

Mae Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd ac sy’n cael ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru, wedi ennill Cwpan Threlford gan Sefydliad Siartredig Ieithyddion yn gydnabyddiaeth am eu gwaith yn hyrwyddo dysgu ieithoedd ymhlith myfyrwyr ysgol.  I gymryd rhan yn y prosiect cysylltwch â’ch consortia rhanbarthol. 

Cyfnewid Pobl Cymru

Edrych i recriwtio? Hysbysebwch eich swydd ar borthol recriwtio sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Cyfnewid Pobl Cymru.

Mae Cyfnewid Pobl Cymru bellach yn cael ei ymestyn i'r sector Addysg Bellach yn dilyn ei lansiad yn ddiweddar i ysgolion. Darganfyddwch fwy ac e-bostiwch 

Diweddariadau Ôl -16

Bydd myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i’r brifysgol yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn nesaf yn cael pecyn newydd o gymorth ariannol

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy

Cynhadledd 'Ewch yn Bellach' Rhwydwaith Seren - 7 Rhagfyr yn Y Drenewydd

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr academaidd, darlithoedd gwadd a thrafodaethau panel. Bydd sesiynau datblygu proffesiynol yn cael ei ddarparu ar gyfer athrawon.

adnoddau

Adnoddau Gwrth-fwlio

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a pha adnoddau gwrth-fwlio sydd ar gael, ewch i’n gwefan wrth-fwlio yma.

Bwlio Ar-lein

Mae pum rhestr chwarae newydd am fwlio ar-lein ar gael nawr i blant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr a llywodraethwyr.

Deunyddiau Addysg Ariannol

Gallwch ddefnyddio deunyddiau sydd ar wefan Dysgu Cymru i adnabod ac amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau ariannol dysgwyr ar gyfer wythnos Gallu Ariannol.  

Byddwch yn rhan o’r drafodaeth #siaradariancymru 

Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru 

Adnoddau sydd yn defnyddio mapiau a deunyddiau eraill i ddysgu'r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru yng Nghyfnod Allweddol 2,3 a 4.

newyddion arall

Cyfnewid: gofal ac addysg: Pecyn Cymorth Ymadawyr Gofal

Wedi'i cynnal ar gyfer darparwyr ar draws y sector dysgu a sgiliau. Wedi’i ddatblygu gan yr Athrofa Dysgu a Gwaith, mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar ddarpariaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd yn, neu sy’n gadael gofal.

Blog Cyfnewid: Gofal ac Addysg

Hoffai Estyn gael eich barn ar wasanaethau addysg Castell-nedd Port Talbot

Mae Estyn wedi lansio arolwg ar ba mor dda mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynorthwyo ei ysgolion a’i wasanaethau ieuenctid. 

Defnyddiwch ffilm I gefnogi’r FfCD : Hyfforddiant Llythrennedd Ffilm a Gwneud Ffilm Rhad ac am Ddim - Drenewydd

Archebwch eich lle nawr 

Cymhwyster Digidol yng Ngogledd Iwerddon- Ceisiadau Nawr ar Agor!

Bydd y daith yma, sydd ar gyfer ysgolion sydd angen cymorth bellach i weithredu’r Fframwaith Cymhwyster Digidol, yn rhoi’r cyfle i athrawon Cymraeg i arsylwi arfer gorau yn nefnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer dysgu trawsgwricwlaidd. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Bob blwyddyn mae Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gystadlu ar brosiectau treftadaeth Cymru gyfan. I ddarganfod mwy, ewch i @whsiawards.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews