eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 27§ Hydref 2017 (Rhifyn 509)

27 Hydref 2017 • Rhifyn 509

 
 
 
 
 
 

prif newyddion

CivicMission9090

Rhaid i'r cysylltiad rhwng prifysgolion ac ysgolion fynd y tu hwnt i hyfforddi athrawon – Kirsty Williams

Rhaid i'r cysylltiad rhwng prifysgolion ac ysgolion fynd y tu hwnt i hyfforddi athrawon; dyma oedd neges yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn ei haraith heddiw (dydd Mercher, 25 Hydref).

exam 2 130x130

Newidiadau i reolau cofrestru’n gynnar ar gyfer arholiadau yn cael eu cyhoeddi – Kirsty Williams

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi rheolau newydd er mwyn lleihau nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer arholiadau (Dydd Llun 16 Hyd). 

blog9090

Post blog newydd Cwricwlwm i Gymru?

‘Beth sy’n bwysig’ wrth greu Cwricwlwm newydd i Gymru?

Cyhoeddi prosiect gwerth £2.7m ar gyfer athrawon cyflenwi

Heddiw (dydd Mawrth, 24 Hydref), mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £2.7m i wella'r ffordd mae athrawon cyflenwi yn cefnogi ysgolion.

Cymhelliannau newydd i addysgu yng Nghymru – Kirsty Williams

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi cymhelliannau newydd i addysgu ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern.

Dyddiad i'w nodi: System archebu profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Gall ysgolion archebu papurau’r profion pan fydd y system archebu’n lansio ar ddydd Llun, 30 Hydref 2017 hyd at 24 Tachwedd 2017.

Darganfod pryd mae’r profion 2018 yn cael eu cynnal yn ogystal â dyddiadau pwysig eraill.

Cyhoeddi deunyddiau enghreifftiol Gwyddoniaeth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2-3

Bwriad y deunyddiau hyn yw i roi cymorth wrth asesu gwyddoniaeth ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3.  Bydd deunyddiau enghreifftiol mewn Cymraeg Iaith Gyntaf, Cymraeg Ail Iaith, Saesneg a Mathemateg yn dilyn yn y dyfodol agos.

Canllawiau ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys mewn ysgolion yng Nghymru

Prif nod y ddogfen ganllaw hon yw darparu cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ar newidiadau i reoliadau’r DU sy’n caniatáu i ysgolion gael chwistrellwyr adrenalin awtomatig, heb bresgripsiwn, i’w defnyddio mewn argyfwng.

Buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol er mwyn creu Cymru Uchelgeisiol sy'n Dysgu - Hwb o £50m o gyllid cyfalaf i Addysg Bellach ac Addysg Uwch a £260m i brentisiaethau

Heddiw [dydd Mawrth, 24 Hydref], mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu pecyn cyllid gwerth £310m i wella sgiliau ledled Cymru.

Yr Arolwg o Gyrchfannau ar gyfer 2017 a diweddaru'r Prosbectws Ardal Gyffredin ar gyfer 2017-18

Hoffem hysbysu am drefniadau coladu data’r Arolwg o Gyrchfannau myfyrwyr ar gyfer 2017 a gynhelir gan Gyrfa Cymru. Hoffem hefyd eich annog i barhau i gefnogi'r gwaith o baratoi Prosbectws Ardal Gyffredin cynhwysfawr o safon fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Digwyddiadau ymgysylltu: cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Cymwysterau yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer cyflogwyr, sefydliadau allweddol, arbenigwyr pwnc, ymarferwyr, athrawon a darlithwyr i drafod y cymwysterau newydd sy’n cael eu datblygu ar gyfer y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Eisiau: arbenigwyr pwnc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Cymwysterau Cymru’n awyddus i benodi arbenigwyr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant dan gontract i helpu gyda’r broses gymeradwyo ar gyfer deunyddiau cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Darlithoedd ysbrydoledig a gweithdai ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd i fynd i'r afael â'r Cwricwlwm gwyddoniaeth a technoleg newydd 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017

Am ragor o wybodaeth, ebostiwch.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews