eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 20 Hydref 2017 (Rhifyn 179)

20 Hydref 2017 • Rhifyn 179

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

logo assembly

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Cam 2 wedi’i gyflawni!

Yr wythnos diwethaf, cymerodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gam arall tuag at Gydsyniad Brenhinol yn sgil cwblhau’n llwyddiannus ail gyfnod y broses ddeddfwriaethol.

 

Gallwch hefyd wylio sesiynau’r Pwyllgor ar dudalen teledu’r Senedd ar wefan y Cynulliad.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Asesiadau ar lein 

Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl ysgolion sydd wedi bod yn rhan o gam cyntaf y broses dreialu o’r asesiadau personol ar-lein. Rydym yn chwilio am ragor o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i gymryd rhan yn y broses dreialu. Felly, os hoffai eich ysgol chi gymryd rhan, cysylltwch â trials@nationaltests.cymru

Nodyn Atgoffa - Ydy'ch ysgol wedi derbyn gwahoddiad gan ebost i gymryd rhan yn Astudiaeth Genedlaethol - Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu?

Os felly, rydym am glywed eich barn.  Peidiwch â cholli cyfle gwerthfawr i baratoi eich ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Y dyddiad cau yw 27 Hydref, 2017.

Cynhadledd EOTAS 2017

1 Rhagfyr - Gwesty'r Metropole, Llandrindod

‘Rydym wedi cynyddu nifer lleodd ar gyfer gweithdai’r digwyddiad, felly archebwch eich lle heddiw!

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cynnal cystadleuaeth poster golchi dwylo ar gyfer dysgwyr rhwng-5-11 oed yng Nghymru! 

Dyddiad cau 24 Tachwedd 2017

Mae cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018 yn agored nawr

Mae cystadleuaeth 2018 yn gyfle i bobl ifanc ddweud wrthon ni sut mae’r rhyngrwyd yn gwneud iddyn nhw deimlo drwy eiriau, ffilm, cerddoriaeth neu gelf. 

Cynllun Gweithredu ar Ddiogelwch Ar-lein – rydym angen clywed gan ddisgyblion heddiw

Er mwyn datblygu’r cynllun gweithredu cenedlaethol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, mae arnom angen clywed barn plant a phobl ifanc. 

Hyfforddiant Estyn ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid - ymgeisiwch erbyn 27 Hydref 

Mae Estyn yn chwilio am benaethiaid neu uwch arweinwyr ysgolion cynradd, ysgolion cynradd annibynnol, ysgolion arbennig annibynnol neu ysgolion arbennig a gynhelir, ac unedau cyfeirio disgyblion i hyfforddi fel Arolygwyr Cymheiriaid.

Cynllun peilot bwrsariaethau ymchwil

Mae cynllun bwrsariaeth ymchwil peilot CGA bellach wedi ei lansio gyda hyd at £ 2,000 o gyllid ar gael ar gyfer pob prosiect. Darllenwch fwy! Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews