eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 20 Hydref 2017 (Rhifyn 508)

20 Hydref 2017 • Rhifyn 508

 
 
 
 
 
 

prif newyddion

PTACposter

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ôl i ddathlu goreuon y byd addysg yng Nghymru

Mae 9 categori gwobr eleni, felly enwebwch addysgwyr proffesiynol sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i'ch hysgol neu lleoliad addysgol os gwelwch chi'n dda drwy fynd i: 

llyw.cymru/gwobrauaddysgucymru

Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2017.

Posteri a baneri gwe RHAD AC AM DDIM i hyrwyddo enwebu athro anhygoel #GwobrauAddysguCymru  

KW9090

Uchafswm o £9,000 yn parhau ar gyfer y ffi dysgu yng Nghymru - Kirsty Williams

Heddiw (dydd Mercher 18 Hydref), cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y bydd yr uchafswm o £9,000 ar gyfer ffi dysgu prifysgolion yng Nghymru yn parhau, gan gynnwys £26m o fuddsoddiad gan y llywodraeth i gefnogi myfyrwyr a phrifysgolion dros y ddwy flynedd nesaf.

assemblylogo9090

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Cam 2 wedi’i gyflawni!

Yr wythnos diwethaf, cymerodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gam arall tuag at Gydsyniad Brenhinol yn sgil cwblhau’n llwyddiannus ail gyfnod y broses ddeddfwriaethol.

 

Gallwch hefyd wylio sesiynau’r Pwyllgor ar dudalen teledu’r Senedd ar wefan y Cynulliad.

Asesiadau ar lein 

Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl ysgolion sydd wedi bod yn rhan o gam cyntaf y broses dreialu o’r asesiadau personol ar-lein. Rydym yn chwilio am ragor o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i gymryd rhan yn y broses dreialu. Felly, os hoffai eich ysgol chi gymryd rhan, cysylltwch â trials@nationaltests.cymru

Nodyn Atgoffa - Ydy'ch ysgol wedi derbyn gwahoddiad gan ebost i gymryd rhan yn Astudiaeth Genedlaethol - Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu?

Os felly, rydym am glywed eich barn.  Peidiwch â cholli cyfle gwerthfawr i baratoi eich ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Y dyddiad cau yw 27 Hydref, 2017.

Cynhadledd EOTAS 2017

1 Rhagfyr - Gwesty'r Metropole, Llandrindod

‘Rydym wedi cynyddu nifer lleodd ar gyfer gweithdai’r digwyddiad, felly archebwch eich lle heddiw!

Ymgynghoriad: Helpwch i warchod buddiannau dysgwyr Cymru

Yn cau 23 Hydref 2017.  #dysguôl16cymru

Cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018

Mae cystadleuaeth 2018 yn gyfle i bobl ifanc ddweud wrthon ni sut mae’r rhyngrwyd yn gwneud iddyn nhw deimlo drwy eiriau, ffilm, cerddoriaeth neu gelf. 

Cynllun Gweithredu ar Ddiogelwch Ar-lein – rydym angen clywed gan ddisgyblion heddiw

Er mwyn datblygu’r cynllun gweithredu cenedlaethol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, mae arnom angen clywed barn plant a phobl ifanc. 

CyberFirst Adventurers: cwrs datblygu un diwrnod am ddim - 2018 yng Nghaerdydd

Wedi'i anelu at fyfyrwyr nad ydynt eto wedi gwneud eu dewisiadau TGAU (11 i 14 oed *) a'u rhieni/gwarcheidwaid. Cysylltwch â Smallpeice ar 01926 333200 neu e-bostiwch cyberfirst@smallpeicetrust.org.uk i wybod mwy.

Lansiad adroddiad sy’n amlygu gwerth economaidd colegau AB i Gymru

Mae ColegauCymru wedi rhyddhau adroddiad newydd sy’n dangos yr effaith ariannol enfawr y mae’r sector addysg bellach yn ei chael ar economi Cymru, gydag amcangyfrif ei bod yn werth £4 biliwn yn ychwanegol bob blwyddyn.

Hyfforddiant Estyn ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid - ymgeisiwch erbyn 27 Hydref 2017 

Mae Estyn yn chwilio am benaethiaid neu uwch arweinwyr ysgolion cynradd, ysgolion cynradd annibynnol, ysgolion arbennig annibynnol neu ysgolion arbennig a gynhelir, ac unedau cyfeirio disgyblion i hyfforddi fel Arolygwyr Cymheiriaid.

Cynllun peilot bwrsariaethau ymchwil

Mae cynllun bwrsariaeth ymchwil peilot CGA bellach wedi ei lansio gyda hyd at £ 2,000 o gyllid ar gael ar gyfer pob prosiect. Darllenwch fwy! Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch.

adnoddau

Gwersi ar fenthyca a benthyg yn ddiogel, i rai 11-19 oed

Yn addysgu addysg ariannol i ddisgyblion ysgol uwchradd? 

FMSP Cymru

Athrawon – os oes gennych fyfyriwr a fyddai’n hoffi astudio Mathemateg Bellach, gall y Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru eich helpu. Cysylltwch â sarah.grant@swansea.ac.uk / 01792 602855 am ragor o wybodaeth.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews