eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 4 Hydref 2017 (Rhifyn 177)

4 October 2017 • Rhifyn 177

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog9090

Post blog newydd Cwricwlwm am Oes

Addysg Cymru – Cenhadaeth genedlaethol: 12 peth y mae angen i chi eu gwybod.

OECD9090

Darllenwch erthygl Kirsty Williams ar gyfer yr OECD ar lansiad Addysg Cymru: ein cenhadaeth cenedlaethol (Saesneg yn unig)

#CenhadaethAddysgCymru

categoreiddio9090

Newidiadau i'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, wedi cyhoeddi newidiadau i'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion a fydd yn dod i rym ar unwaith.

Darllenwch y datganiad yma. Danfonir llythyr i bob ysgol gyda rhagor o wybodaeth am y newidiadau.

 

PTAC9090

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ôl i ddathlu goreuon y byd addysg yng Nghymru

I enwebu addysgwr proffesiynol sy’n gwneud gwaith gwych yn eich ardal, ewch i: llyw.cymru/gwobrauaddysgucymru

Ymunwch â’r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru  

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Safonau Proffesiynol newydd ar gael

Mae'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth bellach ar gael. Defnyddiwch yr animeiddiad ar-lein a'r PDF rhyngweithiol i'ch helpu chi i archwilio a manteisio i'r eithaf ar y safonau newydd.  Animeiddiad i'ch helpu i ddarganfod mwy am Safonau Addysgu Proffesiynol.

A oes angen cymorth arnoch i ddarparu addysg ariannol yn eich ysgol? 

Mae'r adnoddau hyn yn adnabod ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr. Rhowch gip arno!

Cod ymarfer: Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi

Mae’r ymrwymiadau yn y cod yn helpu i sicrhau bod y gweithwyr yn ein cadwyni cyflenwi yn cael eu cyflogi’n deg  ac yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ddilyn cyfres o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael ag arferion cyflogi gwael. Mae’r Canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef yn cynnwys adnoddau a chyngor i helpu i weithredu’r ymrwymiadau.

Cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn ymchwil rhyngwladol

Mae’r ‘DQ Institute’ yn gwahodd ysgolion yng Nghymru sydd â dysgwyr 8-12 oed i gymryd rhan mewn rhyngwladol drwy gofrestru, yn rhad ac am ddim, ar gyfer rhaglen dinasyddiaeth ddigidol ar-lein cyn diwedd mis Tachwedd 2017.  

Bwlio Ar-lein - Digwyddiadau Hyfforddi ym mis Hydref

Cofrestrwch nawr ar gyfer digwyddiadau hyfforddi hanner diwrnod mewn 6 lleoliad ledled Cymru.

Bydd y sesiynau'n canolbwyntio ar sut i greu strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â bwlio ar-lein ac ar eich helpu i ddeall beth i'w wneud os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei fwlio ar-lein.

'Microsoft Teams'

Mae 'Microsoft Teams' ar gael nawr drwy denantiaeth Hwb Office 365. Mae Teams yn cynnig amgylchedd diogel a hwylus i athrawon a dysgwyr yn seiliedig ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Fframwaith cymhwysedd digidol: Adnoddau Dinasyddiaeth

Chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu cymhwysedd digidol eleni? Edrych ar adnoddau hyn a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer elfen data a meddwl cyfrifiadurol Fframwaith sy'n cwmpasu pynciau fel ymddygiad ar-lein a hawlfraint 

Cyfle i gynllunio gerdyn Nadolig swyddogol y Prif Weinidog eleni

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn gwahodd disgyblion  Blwyddyn 3 a 4 mewn ysgolion cynradd i gynllunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.

Caiff yr enillydd gyfle i gwrdd â’r Prif Weinidog a bydd hefyd yn derbyn copi o’r cynllun buddugol wedi ei arwyddo a’i fframio.

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw dydd Gwener 10 Tachwedd 2017.

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Diwrnod Shwmae Sumae - 15 Hydref 2017 pythefnos i fynd!

Cyfle penigamp i’ch ysgol chi cael hwyl a rhannu syniadau yn Gymraeg.

Sut felly, gall eich ysgol gymryd rhan?  Gallech rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech ychydig o ysbrydoliaeth cyn y 15fed, cliciwch yma.  #shwmaesumae

Mae Estyn bellach ar Facebook

Bydd tudalen newydd Estyn ar Facebook, Estyn AEM, yn rhannu’r canfyddiadau a’r argymhellion diweddaraf i bawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant.

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru - Medi 2017

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews