eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 12 Medi 2017 (Rhifyn 176)

11 Medi 2017 • Rhifyn 176

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

CfWTimbrell9090

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol – yn flwydd oed ac yn blodeuo

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi bod ar gael am bron i flwyddyn gyfan gron. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd rhagor o adnoddau cymorth eu datblygu ac mae gwaith arbennig wedi’i wneud wrth i ysgolion ymgyfarwyddo â’r Fframwaith. Mae rhai o ddatganiadau’r Fframwaith wedi cael eu diwygio erbyn hyn mewn ymateb i adborth gan ymarferwyr. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn a’r adnoddau.

blog9090

Symud Ymlaen â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae’r Arloeswr Digidol, Ian Timbrell yn egluro’r diwygiadau i’r Fframwaith yn gryno yn ein blog.

KWNEC9090

Nodyn i'r dyddiadur:

Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd: 

  • 16 Tachwedd, SSE SWALEC, Caerdydd (Consortia EAS a Canolbarth y De)
  • 23 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno (GwE) 
  • 14 Rhagfyr, Parc y Scarlets (ERW)

Gwahoddir penaethiaid a rhanddeiliaid addysg allweddol.  Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol.  Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn fuan.

PEC9090

Rhaglen Cyfnewid Pobl Cymru

Mae porthol recriwtio am ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus Rhaglen Cyfnewid Pobl Cymru wedi cael ei ehangu i gynnwys ysgolion a’r sector addysg. Mae mynediad ar gael am ddim i gyflogwyr a gweithwyr sy’n dymuno hysbysebu swyddi gwag neu chwilio am gyfleoedd newydd ledled Cymru. E-bostiwch i gofrestru er mwyn hysbysebu eich swyddi gwag.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ydych chi’n adnabod enillydd nesaf y wobr Person Ifanc?

Dyddiad cau 18 Hydref

Ydych chi’n adnabod person ifanc sy’n ysbrydoli neu grŵp o bobl ifanc talentog dan 19? Enwebwch entrepreneuriaid, gwirfoddolwyr neu rai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol mewn unrhyw faes yng Nghymru ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2018, gwobrau genedlaethol Cymru.

Diwygiadau i Broffil y Cyfnod Sylfaen ar gyfer asesiadau sylfaenol

Mae Llywodraeth Cymru, yn dilyn dadansoddiad o adborth a gasglwyd trwy arolwg o ymarferwyr, wedi gwneud newidiadau i eiriad pedair  ffrâm sgil o fewn fersiwn Proffil Compact o'r Cyfnod Sylfaen er mwyn eu gwneud yn gliriach. Rydym yn annog y rhai sy'n cynnal asesiadau sylfaenol o blant ar ddechrau'r Flwyddyn Derbyn i ddefnyddio'r fersiynau diwygiedig gan mai bwriad y rhain yw egluro'r gwahaniaeth rhwng gwahanol lefelau datblygiad plant.

Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dyddiad cau yr ymgynghoriad - 30 Medi 2017

Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Gwnaed y diwydiadau i adlewyrchu'r adborth a'r dysgu yn dilyn 3 blynedd o'i weithredu.  Mae hefyd yn cynig i gryfhau'r Cod i barchu’r rhagdybiaeth yn y cod yn erbyn cau ysgolion gwledig

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

Dyma ymateb i adroddiad Estyn ar Wyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2. Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan.

Arweinyddion Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu recriwtiaid pum Arweinwr Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer ac i reoli'r pontio i'r system ADY newydd.

Canllawiau ar Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan ar gyfer Lleoliadau Addysg

Dylai ysgolion fod yn ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau addysgol. Mae hyn yn disodli'r canllawiau 'Dysgu Gwers i Ermau’ (2006). Gellir darllen y canllaw byr yma a'r canllawiau llawn yma.

Hybu Cydraddoldeb a Mynd i'r afael â Hiliaeth yn eich Ysgol – Taflenni gwybodaeth newydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cynhyrchu pedwar canllaw byr i derminoleg briodol, dyletswyddau cydraddoldeb, ac adnabod ac adrodd am ddigwyddiad hiliol.

Cyhoeddi ymgyrch i wella mathemateg

Mae rhwydwaith newydd wedi ei lansio i wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau. Parth Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg.

hwb /Adnoddau hwb

Profiad gwell wrth ddefnyddio Hwb

Edrychwch sut mae Hwb wedi newid eleni mewn ymateb i’ch adborth. Mae’r gwelliannau i Hwb yn cynnwys y canlynol:

  • Diwyg a gwedd newydd
  • Nifer o nodweddion newydd
  • Haws cyrraedd yr hyn sy'n bwysig i chi ar Hwb.

Diwrnod Roald Dahl – 13 Medi 2017

Dathlu Diwrnod Roald Dahl gan ddefnyddio yr adnodd Byd Wondercrump Roald Dahl ar Hwb. Mae yna 4 cynlluniau gwersi sy'n canolbwyntio ar brosesau ysgrifennu Roald Dahl a sut iddo gael ei ysbrydoli gan y byd o'i gwmpas. 

Fframwaith cymhwysedd digidol: Adnoddau Dinasyddiaeth

Chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu cymhwysedd digidol eleni? Edrych ar adnoddau hyn a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer elfen Dinasyddiaeth Fframwaith sy'n cwmpasu pynciau fel ymddygiad ar-lein a hawlfraint. 

Hwb - Tuag at ddyfodol digidol

Mae'r platfform dysgu digidol arloesol ar gael erbyn hyn i bob athro cyflenwi yng Nghymru.  Fel athro cyflenwi, ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y posibiliadau y gall technolegau digidol eu cynnig i ddysgwyr? Os ydych, cliciwch yma i wneud cais am fynediad llawn at blatfform dysgu digidol Hwb. 

adnoddau

Adnoddau Pori Drwy Stori ar gyfer holl ddisgyblion y Derbyn

Dosberthir rhaglen Pori Drwy Stori am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru er mwyn cefnogi llythrennedd, rhifedd a denu teuluoedd yn y Cyfnod Sylfaen. Adnoddau tymor yr hydref yw’r Sialens Rhigwm a’r Calendr Dyna Dywydd.

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Mae arolygiadau Estyn wedi newid

Bydd ysgolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn cael eu barnu ar sail pum maes allweddol bellach. 

Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru

Gall pob ysgol gynradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i hybu hawliau plant yng Nghymru trwy’r cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd difyr i ddysgu am hawliau plant a rhoi gwybod i’r Comisiynydd beth yw eu barn.

Exchange: Gofal ac Addysg

Mae Exchange: Gofal ac Addysg yn adnodd 'Cymuned Ymarfer' ar-lein sy’n ceisio darparu adnoddau a allai helpu gwella profiadau addysgol a chanlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n derbyn neu gadael gofal.

Dysgwch y Gymraeg ym Mhatagonia:

Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil? Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai Plant (meithrin, cynradd neu arddegau) neu Oedolion (pob safon). Am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais, cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org

Ymweliad yr ILC i Ganada - 'Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu' (ILC) 

Dyddiad cau'r cais yw dydd Gwener 6 Hydref 2017

Nod ymweliad IPLC 2018 i Ganada, mewn cydweithrediad â Chyngor Prydain Canada, yw archwilio arloeson addysgol a strategaethau ILC i ddatblygu siarad, gwrando, darlllen, ysgrifennu a cyfathrebu. Mae’r ymweliad yn digwydd ym mis Chwefror 2018 am hyd at 6 o arweinwyr ysgol neu Ymarferwyr ILC.  Am ragor o wybodaeth a ffurflen chais, cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ail-lansio Ymgyrch Ysgol Gynradd ‘Shoctober’

Yn dilyn llwyddiant llynedd, bydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymweld ag ysgolion cynradd ledled Cymru yn ystod mis Hydref i hyrwyddo ‘Shoctober’. 

Nodwch oherwydd lleoedd cyfyngedig, nid ydym bellach yn derbyn unrhyw geisiadau ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Gogledd Cymru)

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews