|
|
Mae’r Fframwaith
Cymhwysedd Digidol wedi bod ar gael am bron i flwyddyn gyfan gron. Yn ystod y
cyfnod hwn, cafodd rhagor o adnoddau cymorth eu datblygu ac mae gwaith arbennig
wedi’i wneud wrth i ysgolion ymgyfarwyddo â’r Fframwaith. Mae rhai o
ddatganiadau’r Fframwaith wedi cael eu diwygio erbyn hyn mewn ymateb i adborth
gan ymarferwyr.
|
|
|
Mae’r Arloeswr Digidol, Ian Timbrell yn egluro’r diwygiadau i’r Fframwaith yn gryno yn ein blog
|
|
|
Nodyn i'r dyddiadur:
Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd:
-
16 Tachwedd, SSE SWALEC, Caerdydd (Consortia EAS a Canolbarth y De)
-
23 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno (GwE)
-
14 Rhagfyr, Parc y Scarlets (ERW)
Gwahoddir penaethiaid a rhanddeiliaid addysg allweddol. Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn fuan.
|
|
|
Mae porthol recriwtio am
ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus Rhaglen Cyfnewid Pobl Cymru wedi cael ei ehangu i
gynnwys ysgolion a’r sector addysg. Mae mynediad ar gael am ddim i gyflogwyr a
gweithwyr sy’n dymuno hysbysebu swyddi gwag neu chwilio am gyfleoedd newydd
ledled Cymru. E-bostiwch i gofrestru er mwyn
hysbysebu eich swyddi gwag.
|
Dyddiad cau 18 Hydref
Ydych chi’n adnabod person ifanc sy’n ysbrydoli neu grŵp o bobl ifanc talentog dan 19? Enwebwch entrepreneuriaid, gwirfoddolwyr neu rai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol mewn unrhyw faes yng Nghymru ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2018, gwobrau genedlaethol Cymru.
Dyddiad cau yr ymgynghoriad - 30 Medi 2017
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Gwnaed y diwydiadau i adlewyrchu'r adborth a'r dysgu yn dilyn 3 blynedd o'i weithredu. Mae hefyd yn cynig i gryfhau'r Cod i barchu’r rhagdybiaeth yn y cod yn erbyn cau ysgolion gwledig
Mae
Llywodraeth Cymru'n ariannu recriwtiaid pum Arweinwr Trawsnewid Anghenion
Dysgu Ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd
cynnar, sefydliadau addysg bellach a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer ac
i reoli'r pontio i'r system ADY newydd.
Rydym yn anelu at
gryfhau'r capasiti am Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) seiliedig ar dystiolaeth
ac ymchwil ar sail gwybodaeth. Mae’r
adnodd gwella ansawdd, a gynlluniwyd gan Brifysgol Sheffield Hallam (Sefydliad
Addysg), yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol:
- yr angen i gynyddu gallu ymchwil mewn addysgwyr
athrawon ym maes Addysg Uwch
- yr angen i integreiddio theori ac ymarfer o fewn
rhaglenni AGA.
Diwygio PCET: Digwyddiadau Llais y Dysgwr
- 4 Hydref 2017 – Y Gwesty Quay a Spa, Deganwy
-
12 Hydref 2017 – Arena Motorpoint Caerdydd
Cyfleoedd
gwych i ddysgwyr gael siarad yn uniongyrchol â'r rheini sy'n gwneud
penderfyniadau a chael dweud eu dweud am eu profiad. Rydym am i ddysgwyr gael lleisio eu barn fel rhan o’r
ymgynhoriad PCET. Dim ond ychydig leodd sydd ar gael felly i gadw un neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch ni ar DiwygioPCET@llyw.cymru
Dylai
ysgolion fod yn ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau
newydd ar atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau addysgol. Mae hyn yn disodli'r
canllawiau 'Dysgu Gwers i Ermau’ (2006). Gellir darllen y canllaw byr yma a'r canllawiau llawn yma.
Mae Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn
Coch i Hiliaeth wedi cynhyrchu pedwar canllaw byr i derminoleg briodol,
dyletswyddau cydraddoldeb, ac adnabod ac adrodd am ddigwyddiad hiliol.
Mae
rhwydwaith newydd wedi ei lansio i wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu
mewn ysgolion a gwella safonau. Parth
Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg.
Edrychwch
sut mae Hwb wedi newid eleni mewn ymateb i’ch adborth. Mae’r gwelliannau i Hwb
yn cynnwys y canlynol:
- Diwyg a gwedd newydd
-
Nifer o nodweddion newydd
- Haws cyrraedd yr hyn sy'n bwysig i chi ar Hwb.
Dathlu Diwrnod Roald Dahl gan ddefnyddio yr adnodd Byd
Wondercrump Roald Dahl ar Hwb. Mae yna 4 cynlluniau gwersi sy'n canolbwyntio ar
brosesau ysgrifennu Roald Dahl a sut iddo gael ei ysbrydoli gan y byd o'i
gwmpas. (CA2-3)
Chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu cymhwysedd digidol
eleni? Edrych ar adnoddau hyn a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer elfen
Dinasyddiaeth Fframwaith sy'n cwmpasu pynciau fel ymddygiad ar-lein a
hawlfraint
Mae'r platfform dysgu digidol arloesol
ar gael erbyn hyn i BOB athro cyflenwi yng Nghymru. Fel athro cyflenwi, ydych chi wedi
cael eich ysbrydoli gan y posibiliadau y gall technolegau digidol eu cynnig i
ddysgwyr? Os ydych, cliciwch yma i wneud cais am fynediad llawn at blatfform dysgu digidol Hwb.
Bydd ysgolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn cael eu barnu
ar sail pum maes allweddol bellach.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ad-drefniad mawr o
gymwysterau i bobl sydd am ddilyn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a
gofal plant. Bydd cyfres o hyd at 20 cymhwyster newydd yn disodli mwy na 240
o'r rhai presennol yn y newidiadau mwyaf i gymwysterau erioed yn y sector yng
Nghymru.
Fideos ar gyfer myfyrwyr lefel A yw rhain, sy’n cynnig atebion byr i’r
cwestiynau mwyaf pwysig gan siaradwyr ysbrydoledig Gŵyl y Gelli.
Gall pob ysgol uwchradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i
hybu hawliau pobl ifanc yng Nghymru trwy’r cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr
di-dâl. Bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd deniadol i ddysgu am eu hawliau a
rhoi gwybod i’r Comisiynydd beth yw eu barn.
Mae Exchange: Gofal ac Addysg yn adnodd 'Cymuned Ymarfer' ar-lein sy’n
ceisio darparu adnoddau a allai helpu gwella profiadau addysgol a chanlyniadau
i blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n derbyn neu gadael gofal.
Dysgwch Gymraeg ym Mhatagonia:
Ydych chi’n
chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil? Rydym yn chwilio am athrawon
neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai Plant (meithrin, cynradd
neu arddegau) neu Oedolion (pob safon). Am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais,
cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org
Ymweliad yr ILC i Ganada - 'Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu' (ILC)
Dyddiad cau'r cais yw dydd Gwener 6 Hydref 2017
Nod ymweliad IPLC 2018 i Ganada, mewn cydweithrediad â Chyngor Prydain Canada,
yw archwilio arloeson addysgol a strategaethau ILC i ddatblygu siarad, gwrando,
darlllen, ysgrifennu a cyfathrebu. Mae’r
ymweliad yn digwydd ym mis Chwefror 2018 am hyd at 6 o arweinwyr ysgol neu
Ymarferwyr ILC. Am ragor o
wybodaeth a ffurflen chais, cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org
|