eGylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 24 Awst 2017 (Rhifyn Arbennig)

24 Awst 2017 • Rhifyn Arbennig

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

wherenow

Canlyniadau arholiadau 2017 – “Ble Nesaf?”

Helpwch pobl ifanc i gymryd y cam nesaf ar ôl canlyniadau arholiadau TGAU . Mae’r cyfnod sy’n dilyn canlyniadau arholiadau  yn gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc. Mae’n bwysig cynnal trafodaethau gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr i’w helpu i wneud y dewis cywir, beth bynnag fo’r canlyniadau. Am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael, rannwch ddolenni i wefannau 'Ble Nesaf'.

Meic130x130

Meic yn gallu rhoi cymorth i ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau arholiad

Gall ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau TGAU ddod o hyd i gymorth emosiynol drwy ffonio Meic.

quals17

Trosolwg Cymwysterau Cymru

Mae gan Cymwysterau Cymru adroddiad trosolwg am ganlyniadau TGAU yng Nghymru. Gallwch ddarllen hwn ynghyd â throsolwg Safon Uwch a Safon UG yma.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Y Gweinidog yn tynnu sylw at opsiynau amgen o ran gyrfa wrth i filoedd gasglu eu canlyniadau TGAU

A diwrnod canlyniadau TGAU wedi cyrraedd, a llawer o bobl ifanc ledled Cymru yn dal i benderfynu pa yrfa sydd orau iddyn nhw, mae Julie James y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn awyddus i dynnu sylw at amrywiol fanteision prentisiaethau.

Erthyglau Ffocus Cymwysterau Cymru- Haf 2017

Mae Cymwysterau Cymru wedi cynhyrchu cyfres o erthyglau sy'n canolbwyntio ar yr arholiadau TGAU newydd ar gyfer Saesneg, Cymraeg a Mathemateg.

Mae hefyd erthyglau sy'n canolbwyntio ar:

  • Lefel A
  • Fagloriaeth Cymru
  • Camsyniadau Cyffredin
  • Canlyniadau Cymaradwy
  • Pennu Ffiniau Graddau, a
  • Marcio

Mae'r holl erthyglau u'w gweld ar y wefan Cymwysterau Cymru, yma.

Canlyniadau arholiadau 2017: Prentisiaethau

Bydd miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru’n agor yr amlenni hollbwysig hynny'r wythnos hon a fydd yn cynnwys eu canlyniadau. Bydd llawer yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf. Gall llwybrau galwedigaethol, fel prentisiaethau, agor drysau i yrfaoedd cyffrous a fydd yn rhoi cryn foddhad.

Skills Cymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.

Ewch i’r wefan i weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.

Y Sioe Sgiliau 2017

Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow17. 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym