eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 17 Awst 2017 Rhifyn Arbennig

17 Awst 2017 • Rhifyn Arbennig

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

WhereNow2? 130130

Canlyniadau arholiadau 2017 – “Ble Nesaf?”

Helpwch pobl ifanc i gymryd y cam nesaf ar ôl canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch. Mae’r cyfnod sy’n dilyn canlyniadau arholiadau  yn gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc. Mae’n bwysig cynnal trafodaethau gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr i’w helpu i wneud y dewis cywir, beth bynnag fo’r canlyniadau. Am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael, rannwch ddolenni i wefannau 'Ble Nesaf'.

Meic130x130

Meic yn gallu rhoi cymorth i ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau arholiad

Gall ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau Safon A, TGAU ac arholiadau eraill gallu ddod o hyd i gymorth emosiynol drwy ffonio Meic.

QualsLogo130130

Erthyglau Ffocus Cymwysterau Cymru- Haf 2017

Mae Cymwysterau Cymru wedi cynhyrchu cyfres o erthyglau sy'n canolbwyntio ar yr arholiadau TGAU newydd ar gyfer Saesneg, Cymraeg a Mathemateg.

Mae hefyd erthyglau sy'n canolbwyntio ar:

  • Lefel A
  • Fagloriaeth Cymru
  • Camsyniadau Cyffredin
  • Canlyniadau Cymaradwy
  • Pennu Ffiniau Graddau, a
  • Marcio

Mae'r holl erthyglau u'w gweld ar y wefan Cymwysterau Cymru, yma.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cyngor doeth am Gyllid Myfyrwyr Cymru

Ystyried pa fenthyciadau a grantiau y gallech eu cael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? Rydym wedi creu fideo i roi esboniad cyflym a rhwydd i chi. Ewch i'n tudalen You Tube

Clirio

Os yw'ch myfyrwyr eisioes wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, ond eu dewis o gwrs, prifysgol neu choleg wedi newid, bydd angen iddynt roi wybod i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw i drwy fewngofnodi u'w cyfrif www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Canlyniadau arholiadau 2017: Prentisiaethau

Bydd miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru’n agor yr amlenni hollbwysig hynny'r wythnos hon a fydd yn cynnwys eu canlyniadau. Bydd llawer yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf. Gall llwybrau galwedigaethol, fel prentisiaethau, agor drysau i yrfaoedd cyffrous a fydd yn rhoi cryn foddhad.

Skills Cymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.

Ewch i’r wefan i weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.

Y Sioe Sgiliau 2017

Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow17.