|
|
Nodyn i'r dyddiadur:
Ym mis Tachwedd bydd yr Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd:
-
16 Tachwedd, SSE SWALEC,
Caerdydd
-
23 Tachwedd, Venue Cymru,
Llandudno
Gwahoddir penaethiaid a rhanddeiliaid
addysg allweddol. Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â
Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol. Rhowch y
dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ym mis Medi.
|
|
|
Gwyliau haf DYSG
Caiff Dysg ychydig o seibiant dros yr
haf, felly hoffem ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch i chi am ddarllen. Gobeithio
bod ein diweddariadau o ddefnydd ac o fodd i chi. Yn y cyfamser, dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Hoffem ni ddymuno'r haf gorau i chi a bydd y cylchlythyr yn dychwelyd ym mis Medi.
|
Ym
mis Medi a mis Hydref 2017, byddwn yn cynnal y treial cyntaf ar gyfer y
cwestiynau prawf ar sgrin newydd ar gyfer rhifedd gweithdrefnol. Diben y treial
hwn yw profi’r cwestiynau yn yr amgylchedd ar-lein a gweld pa anawsterau sydd
yna gydag unrhyw gwestiynau.
Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd
Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu
lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn
ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda
rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio
canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau
Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar
wefan Dysgu Cymru.
Rydyn
ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i
esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r
ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib
hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
Profion Cenedlaethol
2018
Mae
dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:
-
Ysgolion
Uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
-
Ysgolion
Cynradd: 2 – 9 Mai 2018
-
Ysgolion
Canol: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
Dyma
gweledigaeth Llywodraeth Cymru am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050.
Mae
Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cynhyrchu pedwar
canllaw byr i derminoleg briodol, dyletswyddau cydraddoldeb, ac adnabod ac
adrodd am ddigwyddiad hiliol.
Yn gynharach y mis hwn, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cabinet at bob ysgol i godi ymwybyddiaeth o’r arfer o anffurfio organau rhywiol merched (FGM) ac i atgoffa ysgolion i fod yn wyliadwrus am arwyddion o enwaedu benywod. Mae ymgyrch Llais nid Tawelwch yn brwydro dros newid y diwylliant hwn yng Nghymru, gan roi llais i bobl ifanc a chlywed eu barn am enwaedu benywod fel rhan o sgyrsiau rhwng cenedlaethau mewn gwahanol gymunedau a chyd-destunau. A wnewch chi argraffu, arddangos a rhannu’r posteri hyn a’r fideo yn eich ysgol, gwefannau, hysbysfyrddau ac ati.
Gallwch
weld y safonau newydd yma.
Mae rhwydwaith newydd wedi ei lansio i
wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau. Parth Rhwydwaith
Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg
Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr – nawr ar-lein
Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r
canllawiau electroneg ar eich gwefannau yn barod ar gyfer y
tymor nesaf os gwelwch chi'n dda. #SutRoeddyrYsgol
Edrychwch
sut mae Hwb wedi newid eleni mewn ymateb i’ch adborth. Mae’r gwelliannau i Hwb
yn cynnwys y canlynol:
- Diwyg a gwedd newydd
- Nifer o nodweddion newydd
- Haws cyrraedd yr hyn sy'n
bwysig i chi ar Hwb
Darllenwch yr erthygl Gwella Hwb i gael
y stori’n llawn
Digwyddiad Dysgu
Digidol Cenedlaethol 2017
Edrych
am syniadau i roi Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith y flwyddyn nesaf?
Edrychwch ar dudalen y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol i wylio fideos am
y prosiectau wnaeth ennill Gwobrau Dysgu Digidol 2017 a chymerwch olwg ar yr
adran ar ’Adnoddau’r farchnad DDDG ar Hwb.
Yn
dilyn llwyddiant llynedd, bydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
yn ymweld ag ysgolion cynradd ledled Cymru yn ystod mis Hydref i hyrwyddo
‘Shoctober’. Ymgyrch sy’n anelu at addysgu plant ysgol iau sgiliau achub bywyd.
Bydd disgyblion yn dysgu am CPR, ystum adferol, diffibrilwyr a sut i ddelio â
rhywun sy’n tagu. Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Beth am
ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd yn adfywio dulliau addysgu ac archebu lle ar
gwrs dysgu proffesiynol Connecting Classroom yn yr hydref sy’n rhad-ac-am-ddim.
Archwiliwch fannau ar-lein y Cyngor Prydeinig i sefydlu partneriaeth
gydag athro/athrawes sy'n cymryd rhan yn y rhaglen dramor. Gallwch fynd â'ch
cydweithio ymhellach drwy weithio ar brosiect neu wneud cais am grant o £3,000
i weithio gyda'ch gilydd wyneb yn wyneb.
|