eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 20 Gorffennaf 2017 (Rhifyn 503)

20 Gorffennaf 2017 • Rhifyn 503

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

infographhic9090

Datblygu Cwricwlwm newydd yng Nghymru – mae’r camau i’w gweld yn ein hinffograffeg #diwygiocwricwlwm

badges9090

Nodyn i'r dyddiadur:

Ym mis Tachwedd bydd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd: 

  • 16 Tachwedd, SSE SWALEC, Caerdydd 
  • 23 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno 

Gwahoddir penaethiaid a rhanddeiliaid addysg allweddol.  Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol.  Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ym mis Medi.

DYSG9090

Gwyliau haf DYSG

Caiff Dysg ychydig o seibiant dros yr haf, felly hoffem ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch i chi am ddarllen. Gobeithio bod ein diweddariadau o ddefnydd ac o fodd i chi. Yn y cyfamser, dilynwch ni ar Facebook a Twitter.

Hoffem ni ddymuno'r haf gorau i chi a bydd y cylchlythyr yn dychwelyd ym mis Medi.

profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Asesiadau rhifedd personol – cofrestrwch i fod yn rhan o dreial!

Ym mis Medi a mis Hydref 2017, byddwn yn cynnal y treial cyntaf ar gyfer y cwestiynau prawf ar sgrin newydd ar gyfer rhifedd gweithdrefnol. Diben y treial hwn yw profi’r cwestiynau yn yr amgylchedd ar-lein a gweld pa anawsterau sydd yna gydag unrhyw gwestiynau.

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol 2017

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.

Dehongli canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol. 

Profion Cenedlaethol 2018

Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • Ysgolion Uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
  • Ysgolion Cynradd: 2 – 9 Mai 2018
  • Ysgolion Canol: 25 Ebrill – 9 Mai 2018 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

Dyma gweledigaeth Llywodraeth Cymru am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Hybu Cydraddoldeb a Mynd i'r afael â Hiliaeth yn eich Ysgol – Taflenni gwybodaeth newydd ar gael ar Ddysgu Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cynhyrchu pedwar canllaw byr i derminoleg briodol, dyletswyddau cydraddoldeb, ac adnabod ac adrodd am ddigwyddiad hiliol.

Llais nid Tawelwch: Yr Ifanc Yn Erbyn FGM

Yn gynharach y mis hwn, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cabinet at bob ysgol i godi ymwybyddiaeth o’r arfer o anffurfio organau rhywiol merched (FGM) ac i atgoffa ysgolion i fod yn wyliadwrus am arwyddion o enwaedu benywod. Mae ymgyrch Llais nid Tawelwch yn brwydro dros newid y diwylliant hwn yng Nghymru, gan roi llais i bobl ifanc a chlywed eu barn am enwaedu benywod fel rhan o sgyrsiau rhwng cenedlaethau mewn gwahanol gymunedau a chyd-destunau. A wnewch chi argraffu, arddangos a rhannu’r posteri hyn a’r fideo yn eich ysgol, gwefannau, hysbysfyrddau ac ati. 

Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ar gael yn awr.  

Gallwch weld y safonau newydd yma.

Cyhoeddi ymgyrch i wella mathemateg

Mae rhwydwaith newydd wedi ei lansio i wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau. Parth Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg.

Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr – nawr ar-lein

Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg ar eich gwefan ysgol

Sut ‘roedd yr ysgol heddiw? Uwchradd 11-14 

diweddariadau ôl-16

Traean o fyfyrwyr yn gymwys i gael y lefel uchaf o grant o dan y system gymorth newydd

Ar ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf, cadarnhaodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol tra byddant yn astudio.

SkillsCymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.

Ewch i’r wefan i weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.

hwb

Profiad gwell wrth ddefnyddio Hwb

Edrychwch sut mae Hwb wedi newid eleni mewn ymateb i’ch adborth. Mae’r gwelliannau i Hwb yn cynnwys y canlynol:

  • Diwyg a gwedd newydd
  • Nifer o nodweddion newydd
  • Haws cyrraedd yr hyn sy'n bwysig i chi ar Hwb

Darllenwch yr erthygl Gwella Hwb i gael y stori’n llawn

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Edrych am syniadau i roi Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith y flwyddyn nesaf? Edrychwch ar dudalen y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol i wylio fideos am y prosiectau wnaeth ennill Gwobrau Dysgu Digidol 2017 a chymerwch olwg ar yr adran ar ’Adnoddau’r farchnad DDDG ar Hwb.

newyddion arall am addysg

Cynhadledd Athrawon Ffiseg Cymru - 4 Hydref Aberhonddu

Cyfle gwych ar gyfer athrawon a thechnegwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau DPP ffiseg. Mae’r diwrnod o weithdai am ddim hwn yn agored i athrawon, technegwyr, athrawon newydd gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant. 

Cysylltu ag ysgol bartner dramor  

Beth am ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd yn adfywio dulliau addysgu ac archebu lle ar gwrs dysgu proffesiynol Connecting Classroom yn yr hydref sy’n rhad-ac-am-ddim. Archwiliwch fannau ar-lein y Cyngor Prydeinig i sefydlu partneriaeth gydag athro/athrawes sy'n cymryd rhan yn y rhaglen dramor. Gallwch fynd â'ch cydweithio ymhellach drwy weithio ar brosiect neu wneud cais am grant o £3,000 i weithio gyda'ch gilydd wyneb yn wyneb.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews