|
|
Nodyn i'r dyddiadur:
Ym mis Tachwedd bydd yr Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd - 16 Tachwedd, Stadiwm SSE,
Caerdydd a 22 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno, ar gyfer penaethiaid a
rhanddeiliaid addysg allweddol. Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i
ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol.
Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ym mis Medi.
|
|
|
Gallwch weld y safonau newydd yma.
|
|
|
Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty
Williams wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM). Darllenwch y llythyr yma.
|
Cwricwlwm newydd i
Gymru – gwyliwch y sesiynau allweddol yn y gynhadledd waith yr wythnos yma
Ymunodd
200 o athrawon y Consortia, Estyn a Chymwysterau Cymru yn Llandudno yr wythnos
yma i rannu’r hyn a wnaed hyd yma, cysylltu’r prif themâu â’i gilydd a
chynllunio’r cam nesaf wrth ddatblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Ymhlith y
sesiynau allweddol oedd adolygu’r cynnydd a wnaed hyd yma, trafod i ba
gyfeiriad y bydd diwygio cymwysterau yn mynd yn y dyfodol, ysgolion fel
sefydliadau sy’n dysgu, dysgu proffesiynol, datblygu adnoddau dwyieithog a
chamau nesaf datblygu’r cwricwlwm. Cafodd y sesiynau eu ffrydio’n fyw ar y pryd
ond gallwch eu gwylio yma hefyd: https://www.pscp.tv/WG_Education
Darllenwch
flog Bethan a’i barn hi am y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill wrth iddi
astudio o dan yr hen drefn.
Bydd
chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn ganolog i’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cryn
dipyn o waith cynllunio ar lefel uchel eisoes wedi’i wneud ac mae crynodebau yn
amlinellu’r meddwl y tu ôl i’r gwaith cynllunio i’w gweld isod. Papurau crynodeb
Ym
mis Medi a mis Hydref 2017, byddwn yn cynnal y treial cyntaf ar gyfer y
cwestiynau prawf ar sgrin newydd ar gyfer rhifedd gweithdrefnol. Diben y treial
hwn yw profi’r cwestiynau yn yr amgylchedd ar-lein a gweld pa anawsterau sydd
yna gydag unrhyw gwestiynau.
Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd
Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu
lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn
ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda
rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio
canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau
Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar
wefan Dysgu Cymru.
Rydyn
ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i
esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r
ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib
hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
Cyhoeddwyd
heddiw (dydd Gwener, 14 Gorffennaf) bod rhwydwaith newydd wedi ei lansio i
wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau. Parth Rhwydwaith
Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg
Mae
canllaw diwygiedig ar gyfer ANGau sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar 1 Medi
2017 neu ar ôl hynny, ar gael yma.
Dylai
ysgolion fod yn ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau
newydd ar atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau addysgol. Mae hyn yn disodli'r
canllawiau 'Dysgu Gwers i Ermau’ (2006). Gellir darllen y canllaw byr yma a'r canllawiau llawn yma
Dŵr yfed mewn ysgolion
O
dan Adran 5 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, mae’n ofynnol i
awdurdodau lleol sicrhau bod dŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ar safle
unrhyw ysgol a gynhelir.
Cafodd Bwyta’n Iach mewn Ysgolion a Gynhelir eu
llunio er mwyn ategu’r Mesur a gyflwynwyd. Maent yn cynnwys gwybodaeth
ymarferol ar gyfer sicrhau bod dysgwyr mewn ysgolion yn bwyta’n iach.
Barod i Ddysgu
Dylech bod wedi derbyn eich pecynnau ‘Barod i Ddysgu’ ar gyfer plant sy'n dechrau Ysgol Gynradd.
Mae'r pecyn yn cynnwys taflen i rieni a siart gweithgaredd y gall rhieni a gofalwyr ei defnyddio gyda'u plentyn. Os hoffech chi fwy o becynnau e-bostiwch. Cynhyrchwyd y pecynnau fel rhan o
Rhannwch yr animeiddiad byr a dolen ar eich sianelau cyfryngau cymdeithasol. #barodiddysgu
Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr – nawr ar-lein
Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r
canllawiau electroneg ar eich gwefannau yn barod ar gyfer y
tymor nesaf os gwelwch chi'n dda. #SutRoeddyrYsgol
Dyma
fideos, cyflwyniadau ac adnoddau gan y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol
fis diwethaf. Roedd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams a hefyd cafwyd y brif sgwrs gan John
Jackson o London Grid for Learning yn ogystal â’r Gwobrau Dysgu Digidol
Cenedlaethol, gweithdai a marchnad ddigidol.
Mewn
partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd SWGfL yn cynnig y digwyddiad hyfforddi
hanner diwrnod newydd hwn i uwch bersonau dynodedig ar gyfer amddiffyn plant
mewn chwe lleoliad yng Nghymru. Bydd y sesiynau
hyn, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Medi a mis Hydref eleni, yn canolbwyntio ar
reoli materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein yn briodol yn eich ysgol chi.
Modiwlau newydd Cadw
dysgwyr yn ddiogel: Diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr a llywodraethwyr
Mae
dau fodiwl hyfforddiant newydd ar gael erbyn hyn yn yr adran e-ddysgu Cadw Dysgwyr
yn Ddiogel. Mae'r modiwlau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar sut mae cadw
dysgwyr yn ddiogel ar-lein.
Mae'r
rhestrau chwarae ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb neu drwy glicio'r dolenni
isod.
Nod
adnodd newydd – ‘Ymddiried ynof fi Cymru’ – yw helpu athrawon cynradd yn rhan
uchaf CA2 ac athrawon uwchradd i addysgu plant a phobl ifanc i werthuso
gwybodaeth ar-lein anghywir yn feirniadol, gan gynnwys unrhyw gynnwys sy’n
ceisio dylanwadu ar eu barn yn fwriadol.
4 gweithgaredd yn edrych ar waith Aelodau'r Cynulliad.
Codwch ymwybyddiaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a helpu disgyblion i weld
y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a materion sy’n effeithio ar eu bywydau nhw.
Darganfyddwch sut gall eich cyngor ysgol
gofrestru ar gyfer cynllun Llysgenhadon Cyngor Ysgol y Cynulliad. I ddysgu am
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i ysgrifennu blog ar gyfer gwefan Dy Gynulliad
Mae yna tua 21,500 o
lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr
ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr! Cofrestrwch ar
gyfer Rhestr Bostio Llywodraethwyr Cymru
Mae’r adroddiad hwn yn arfarnu ansawdd a
darpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y safonau, y
ddarpariaeth ac arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng
nghyfnod allweddol 2. Mae’n cynnwys astudiaethau achos arfer orau a fydd yn
fuddiol i ysgolion cynradd
Y mae angen i bob ysgol yng Nghymru datblygu “ymateb ysgol
gyfan” i ddeddfwriaeth 2015 am Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a
Thrais Rhywiol. Y mae Tîm Sbectrwm yn gweithio ar draws Cymru yn darparu
sesiynau am ddim i ddisgyblion am Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a
Thrais Rhywiol a Pherthnasau Iach. Nawr maent yn gobeithio darparu adnoddau
digidol am ddim ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Rhowch wybod iddynt ba adnoddau
sydd angen arnoch chi trwy gwblhau’r ymgynghoriad.
|