eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 14 Gorffennaf 2017 (Rhifyn 502)

14 Gorffennaf 2017 • Rhifyn 502

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

image of conference 130px

Nodyn i'r dyddiadur:

Ym mis Tachwedd bydd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd - 16 Tachwedd, Stadiwm SSE, Caerdydd a 22 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno, ar gyfer penaethiaid a rhanddeiliaid addysg allweddol.  Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol.  Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ym mis Medi.

 

ProfStandards9090

Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ar gael yn awr.  

Gallwch weld y safonau newydd yma.

FGM9090

Codi ymwybyddiaeth o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ar gyfer ysgolion

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM). Darllenwch y llythyr yma.

cwricwlwm i gymru

Cwricwlwm newydd i Gymru – gwyliwch y sesiynau allweddol yn y gynhadledd waith yr wythnos yma

Ymunodd 200 o athrawon y Consortia, Estyn a Chymwysterau Cymru yn Llandudno yr wythnos yma i rannu’r hyn a wnaed hyd yma, cysylltu’r prif themâu â’i gilydd a chynllunio’r cam nesaf wrth ddatblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Ymhlith y sesiynau allweddol oedd adolygu’r cynnydd a wnaed hyd yma, trafod i ba gyfeiriad y bydd diwygio cymwysterau yn mynd yn y dyfodol, ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, dysgu proffesiynol, datblygu adnoddau dwyieithog a chamau nesaf datblygu’r cwricwlwm. Cafodd y sesiynau eu ffrydio’n fyw ar y pryd ond gallwch eu gwylio yma hefyd: https://www.pscp.tv/WG_Education

Sut y bydd y cwricwlwm newydd yn wahanol i ddisgyblion fel fi?

Darllenwch flog Bethan a’i barn hi am y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill wrth iddi astudio o dan yr hen drefn.

Cwricwlwm newydd i Gymru – Y datblygiadau diweddaraf 

Bydd chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn ganolog i’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cryn dipyn o waith cynllunio ar lefel uchel eisoes wedi’i wneud ac mae crynodebau yn amlinellu’r meddwl y tu ôl i’r gwaith cynllunio i’w gweld isod.  Papurau crynodeb

profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Asesiadau rhifedd personol – cofrestrwch i fod yn rhan o dreial!

Ym mis Medi a mis Hydref 2017, byddwn yn cynnal y treial cyntaf ar gyfer y cwestiynau prawf ar sgrin newydd ar gyfer rhifedd gweithdrefnol. Diben y treial hwn yw profi’r cwestiynau yn yr amgylchedd ar-lein a gweld pa anawsterau sydd yna gydag unrhyw gwestiynau.

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol 2017

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol. 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cyhoeddi ymgyrch i wella mathemateg

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener, 14 Gorffennaf) bod rhwydwaith newydd wedi ei lansio i wella sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion a gwella safonau. Parth Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg

Traean o fyfyrwyr yn gymwys i gael y lefel uchaf o grant o dan y system gymorth newydd

Ar ddyddMawrth 11 Gorffennaf, cadarnhaodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol tra byddant yn astudio.

Ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau

Mae canllaw diwygiedig ar gyfer ANGau sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny, ar gael yma.

Canllawiau ar Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan ar gyfer Lleoliadau Addysg

Dylai ysgolion fod yn ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau addysgol. Mae hyn yn disodli'r canllawiau 'Dysgu Gwers i Ermau’ (2006). Gellir darllen y canllaw byr yma a'r canllawiau llawn yma 

Dŵr yfed mewn ysgolion

O dan Adran 5 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod dŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ar safle unrhyw ysgol a gynhelir.

Cafodd Bwyta’n Iach mewn Ysgolion a Gynhelir eu llunio er mwyn ategu’r Mesur a gyflwynwyd. Maent yn cynnwys gwybodaeth ymarferol ar gyfer sicrhau bod dysgwyr mewn ysgolion yn bwyta’n iach.

Mesurau cyson ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.

Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr – nawr ar-lein

Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg ar eich gwefan ysgol

Sut ‘roedd yr ysgol heddiw? Uwchradd 11-14 

Rhaglen Cyfnewid Pobl Cymru

Mae cynllun peilot porthol recriwtio sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru sydd ar gael am ddim sef Cyfnewid Pobl Cymru yn cael ei ehangu i bob ysgol uwchradd. Bydd hyn yn eu galluogi i hysbysebu’n gyflym eu swyddi gwag ledled Cymru o ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Gallwch gael pecynnau cofrestru a manylion mewngofnodi drwy gysylltu â peopleexchangecymru@wales.gsi.gov.uk

hwb

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Dyma fideos, cyflwyniadau ac adnoddau gan y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol fis diwethaf. Roedd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams a hefyd cafwyd y brif sgwrs gan John Jackson o London Grid for Learning yn ogystal â’r Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol, gweithdai a marchnad ddigidol.

Archebwch nawr : Digwyddiadau hyfforddiant diogelwch ar-lein ar gyfer uwch bersonau dynodedig ar gyfer amddiffyn plant

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd SWGfL yn cynnig y digwyddiad hyfforddi hanner diwrnod newydd hwn i uwch bersonau dynodedig ar gyfer amddiffyn plant mewn chwe lleoliad yng Nghymru. Bydd y sesiynau hyn, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Medi a mis Hydref eleni, yn canolbwyntio ar reoli materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein yn briodol yn eich ysgol chi.

Modiwlau newydd Cadw dysgwyr yn ddiogel: Diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr a llywodraethwyr

Mae dau fodiwl hyfforddiant newydd ar gael erbyn hyn yn yr adran e-ddysgu Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Mae'r modiwlau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar sut mae cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.

Mae'r rhestrau chwarae ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb neu drwy glicio'r dolenni isod.

Ymddiried ynof fi Cymru

Nod adnodd newydd – ‘Ymddiried ynof fi Cymru’ – yw helpu athrawon cynradd yn rhan uchaf CA2 ac athrawon uwchradd i addysgu plant a phobl ifanc i werthuso gwybodaeth ar-lein anghywir yn feirniadol, gan gynnwys unrhyw gynnwys sy’n ceisio dylanwadu ar eu barn yn fwriadol. 

adnoddau

CA3 Creu cyfreithiau newydd i Gymru

Dysgwch am bwerau deddfu’r Cynulliad. 5 gweithgaredd i helpu’r dysgwyr i ddewis cyfraith ac i greu cyfraith 

CA4 Bac yn y Bae

Adnoddau i drafod rheoli gwastraff yng Nghymru. Disgyblion I ddatblygu barn personol ac argymhellion ar fater.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynllun Llysgenhadon Cyngor Ysgol

Darganfyddwch sut gall eich cyngor ysgol gofrestru ar gyfer cynllun Llysgenhadon Cyngor Ysgol y Cynulliad. I ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i ysgrifennu blog ar gyfer gwefan Dy Gynulliad.

newyddion arall am addysg

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y safonau, y ddarpariaeth ac arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2. Mae’n cynnwys astudiaethau achos arfer orau a fydd yn fuddiol i ysgolion cynradd

Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn arfarnu ansawdd a darpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion.

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru – Mehefin 2017

Mae yna tua 21,500 o lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr. Cofrestrwch nawr  

Cymorth ar gyfer Ysgolion ac Athrawon gyda’r “Ymateb Ysgol Gyfan” i Gam-drin Domestig

Y mae angen i bob ysgol yng Nghymru datblygu “ymateb ysgol gyfan” i ddeddfwriaeth 2015 am Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Y mae Tîm Sbectrwm yn gweithio ar draws Cymru yn darparu sesiynau am ddim i ddisgyblion am Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Pherthnasau Iach. Nawr maent yn gobeithio darparu adnoddau digidol am ddim ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Rhowch wybod iddynt ba adnoddau sydd angen arnoch chi trwy gwblhau’r ymgynghoriad.

Nodyn atgoffa cyflym i’r 207 o ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd wedi ymuno â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion...

Cofrestrwch erbyn dydd Gwener, 21 Gorffennaf, ar gyfer yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a gynhelir rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2017. Bydd y canlyniadau’n bwydo i mewn i’ch Adroddiadau Iechyd a Lles Myfyrwyr amhrisiadwy. Unrhyw ymholiadau? Cysylltwch â’r tîm ar shrn@caerdydd.ac.uk

Mae 70 o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dal heb hawlio'u pecyn hyfforddi CPR gan British Heart Foundation Cymru AM DDIM.

Ydi'ch ysgol chi’n gymwys i dderbyn yr adnodd gwerthfawr hwn sy’n cynnwys hyd at 35 manicin ac adnoddau cysylltiedig ac sy’n werth dros £1,300?  Cysylltwch â Rachel ar piggottr@bhf.org.uk nawr.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews