eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 7 Gorffennaf 2017 (Rhifyn 173)

7 Gorffennaf 2017 • Rhifyn 173

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

image of conference 130px

Gwyliwch yn fyw! Cynhadledd y Cwricwlum Newydd

Yn ystod cynhadledd yn Llandudno ar ddydd Llun 10 a Mawrth 11 Gorffennaf , rhennir gwybodaeth ar gynnydd gan bartneriaid ac Ysgolion Arloesol . Gellir gwylio cyflwyniadau gan Cymwysterau Cymru a’r Arloeswyr Dysgu Proffesiynol. 

mewn sesiynau byw ar Periscope drwy’r cyfrif Twitter @LlC_Addysg

donaldson2 9090

Blog bost newydd gan Graham Donaldson - Cymru’n arwain y ffordd o ran diwygio

Mae diwygio addysg ar frig agendâu llywodraethau ledled y byd. 

NRNTExplainer

Barod i Ddysgu

Mae pecynnau wedi cael ei dosbarthu i ysgolion cynradd a meithrinfeydd 

Cynhyrchwyd y pecynnau fel rhan o ymgyrch sy’n targedi rieni a gofalwyr, maent yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol a syniadau ymarferol y gellir ei gwneud yn y cartref i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol a chynorthwyo setlo yn yr ysgol.  Mae'r pecyn yn cynnwys taflen i rieni a  siart gweithgaredd y gall rhieni a gofalwyr ei defnyddio gyda'u plentyn.

 

Mae hefyd animeiddiad byr a dolen llyw.cymru/barodiddysgu y gallwch ranu ar ei sianelu cyfryngau cymdeithasol eich ysgol a ranu dolen.  Os hoffech chi fwy o becynnau e-bostiwch

profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol 2017

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol

Profion Cenedlaethol 2018

Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • Ysgolion Uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
  • Ysgolion Cynradd: 2 – 9 Mai 2018
  • Ysgolion Canol: 25 Ebrill – 9 Mai 2018 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Kirsty Williams yn codi’r mater o anffurfio organau cenhedlu benywod gydag ysgolion

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod.

Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr – nawr ar-lein

Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg ar eich gwefannau yn barod ar gyfer y tymor nesaf os gwelwch chi'n dda. #SutRoeddyrYsgol

£4.2m i hybu addysgu’r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £4.2 ychwanegol er mwyn roi hwb i addysgu a dysgu Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymgyrch i wella addysg yw nod adolygiad o rôl Estyn

Mae adolygiad annibynnol o rôl Estyn mewn perthynas â chefnogi'r diwygiadau ym maes addysg wedi'i gyhoeddi heddiw gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd.

hwb /Adnoddau hwb

Modiwlau newydd Cadw dysgwyr yn ddiogel: Diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr a llywodraethwyr

Mae'r modiwlau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar sut mae cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.Cafodd pob rhestr chwarae ei datblygu gyda’r nod o rymuso ymarferwyr addysg a llywodraethwyr gyda chyflwyniad pendant i ddiogelwch ar-lein a sut mae hyn yn effeithio ar ddiogelu dysgwyr. Mae'r rhestrau chwarae ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb neu drwy glicio'r dolenni isod.

Arolwg Llwyfan Dysgu Hwb+ Dysgu yn y Gymru Ddigidol

A wnewch chi os gwelwch yn dda annog eich cydweithwyr i gwblhau’r arolwg hwn a ddylai gymryd dim mwy na 10 munud i'w gwblhau.

adnoddau

Stori Hedd Wyn

Adnoddau newydd yn awr ar gael ar Hwb a gwales.com sy'n adrodd hanes y bardd, Hedd Wyn. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at yr adnoddau hyn!

Mae’r adnoddau wedi’u cynhyrchu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys tasgau ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.

Y Rhyfel Byd Cyntaf a Hedd Wyn

Wedi ei ysgrifennu i nodi canmlwyddiant Brwydr Passchendaele a marwolaeth y bardd enwog Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917, mae’r adnodd hwn ar gyfer CA2/3 o’r Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru  yn gofyn pam mae'r Rhyfel Mawr yn cael ei alw'n Rhyfel Byd Cyntaf ac yn edrych ar ba mor fyd-eang oedd y gwrthdaro.

Ap yr Wythnos

Ap sy'n helpu gyda dysgu'r wyddor ac ymarfer sgiliau llawysgrifen.  #Cymraeg

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Gwyliwch animeiddiad Estyn ynghylch newidiadau i arolygiadau

Mae’r ffilm fer hon yn amlygu sut bydd arolygiadau o ysgolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn newid o fis Medi.

Ydych chi wedi cofrestru eich diffibriliwr?

Os oes diffibriliwr yn eich ysgol a fyddech cystal â’i gofrestru gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd yn helpu ein swyddogion 999 i gyfeirio galwadau i’r diffibriliwr agosaf i’w ddefnyddio tra bo’r ambiwlans ar ei ffordd. ‘Byddwch yn Arwr Diffib’ a chofrestru yma cyn diwedd y tymor.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews