eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 30 Mehefin 2017 (Rhifyn 500)

30 Mehefin 2017 • Rhifyn 500

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

WiFi9090

Gydag ychydig o gymorth i’n ffrindiau: Help gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

NRNTExplainer

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm fer yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol ar gyfer sylw rhieni a gofalwyr. 

Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018  ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Comisiwn newydd â chyfrifoldeb dros addysg uwch a phellach yng Nghymru i gael ei greu

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi cynigion i greu comisiwn newydd i oruchwylio'r sector addysg uwch a phellach yng Nghymru. #diwygioaddysgcymru #dysguôl16cymru.

Datganiad Ysgrifenedig - Dyddiadau Tymhorau Ysgol 2018/19

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu peidio â defnyddio ei phwerau i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch pa ddyddiadau y dylent eu pennu.

Recriwtio ar gyfer Cynllun Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)

Dyddiau cau 10 Gorffennaf.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y cynllun CALU nesaf.

Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru 2017 /18

Y disgyblion sy’n dechrau Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn ysgol 2017/18  sy’n cael cinio ysgol am ddim fydd yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol. Bydd disgyblion mewn ysgolion arbennig, lleoliadau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed neu fwy ar ddechrau blwyddyn ysgol 2017/18 ac yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim hefyd yn gymwys am y grant.

Digwyddiadau ymgynghori Fframwaith Gweithredu EOTAS

Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn fyw. Mae'r cynigion hyn yn cael eu hanelu at wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. I gefnogi'r ymgynghoriad hwn, bydd digwyddiadau ar y 14 Gorffennaf a 20 Gorffennaf 2017. 

Am wybodaeth bellach am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â WELLBEINGshare.

Gallwch archebu lle ar y digwyddiadau yn awr.

DIWEDDARIADAU ôl 16

SkillsCymru

Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.

Ewch i’r wefan i weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.

hwb

Pedwar gweithdy Hwb+ rhanbarthol

Bydd pob sesiwn yn edrych ar y modd y mae platfform dysgu Hwb+ yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Cofrestrwch yma

Nodweddion newydd ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth ar gael ar Hwb

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod pecyn golygu mathemateg wedi’i ychwanegu at Hwb. Gallwch ddefnyddio’r pecyn golygu i deipio symbolau mathemategol a gwyddonol yn haws yn rhan o’r adnoddau a’r rhestr chwarae.

Daearyddiaeth TGAU 

Deunyddiau wedi eu hanelu at ddysgwyr TGAU Daearyddiaeth, Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi/ymchwilio a sgiliau gwaith maes, ynghyd â sgiliau ehangach y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

adnoddau

Adnoddau Addysg Ariannol

Gallwch ganfod adnoddau addysg ariannol ddefnyddiol sydd ar gael yn ddwyieithog ar Dysgu Cymru a Hwb. Gall yr adnoddau eich helpu chi a’ch ysgol i gynllunio a darparu addysg ariannol a hefyd i ddatblygu cynlluniau gwaith a gweithgareddau priodol fel bod eich disgyblion yn datblygu eu sgiliau ariannol.    

CIWB – RHIFYN 17
Cymraeg - Y Gorffennol Pell

Dyma rifyn newydd o Ciwb, (Cylchgrawn Cymraeg Ail Iaith ar gyfer - CA3). Thema’r rhifyn yma yw “Y Gorffennol Pell”. Pwy oedd y person cyntaf i wneud pizza – a pham, beth ddigwyddodd ar Fynydd Kilimanjaro, a pham cafodd Carwyn Claude Crawford siom? Darllenwch a mwynhewch!

Ap yr wythnos

‘Codi Hwyl’ – Gêm i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf o oed 7+. @SiarterIaith #Cymraeg

adroddiadau

Adolygiad o addysg perthnasoedd iach

Mae’r adroddiad hwn yn arfarnu pa mor dda y mae ysgolion yn cefnogi disgyblion i ddatblygu perthnasoedd personol diogel a pharchus.

Adolygiad o waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau yn y sector Cymraeg i Oedolion yn dilyn ad-drefnu cenedlaethol.

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pwysigrwydd canolbwyntio ar y medrau byw yn annibynnol fydd eu hangen ar bobl ifanc sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu ar gyfer eu dyfodol.

Yn Cau'n fuan

Mae gan ysgolion a dysgwyr ddwy wythnos ar ôl i rannu eu barn

Agor tan 5 Gorffennaf

Mae gan ganolfannau, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill ddwy wythnos ar ôl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ganlyniadau rheoleiddiol Cymwysterau Cymru a'r broses o fapio Amodau. Mae'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ei weithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ddysgwyr a'r system gymwysterau yng Nghymru.

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Cenedlaethol

Bwriad yr astudiaeth, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw datblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion i gefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd.  Os gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.  Nodwch, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau tan 21/07/17.

newyddion arall am addysg

Newyddion Rhaglen Dysgu Byd-Eang – Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae Cylchlythyr yr Haf yn cynnwys astudiaethau achos newydd sy’n enghreifftio sut mae disgyblion wedi  dod yn fwy ymwybodol o'u heffaith ar y byd yn ogystal â sut mae dull sydd wedi'i seilio ar hawliau wedi helpu disgyblion i ganolbwyntio ar faterion byd-eang ac i ddangos empathi tuag at eraill.

Mae Cymwysterau Cymru yn ysgrifennu at ganolfannau am gyfres arholiadau’r haf

Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon yn Penodi aelodau

Mae’r Cyngor Gweithlu Addysg yn chwilio am nifer o aelodau pwyllgor talentog a chydwybodol i ymuno â’r ‘Bwrdd’, dan gadeiryddiaeth Yr Athro John Furlong OBE, sydd bellach yn gyfrifol am ganfod derbynioldeb proffesiynol yr holl raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig, yng Nghymru.

Casglu data ar Gydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA)

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cysylltu ag ysgolion a cholegau i gasglu data ar Gydlynwyr CAAA. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (ALNET) arfaethedig a Rhaglen Trawsnewid ADY gysylltiedig. 

Gofynnir i CAAA/penaethiaid ymateb i CGA erbyn 21/7/2017. 

Cyswllt casglu data; ystadegau@cga.cymru 

 

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews