eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 23 Mehefin 2017 (Rhifyn 499)

23 Mehefin 2017 • Rhifyn 499

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

WiFi9090

Nid yw'r WiFi wedi torri- rhaid bod problem ar eich pen chi?

Problemau WiFi? Mae postiad newydd ar blog Cwricwlwm i Gymru yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i'w goresgyn!

crackingthecode9090

Ymgyrch newydd i hybu codio ymhlith disgyblion yng Nghymru

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i hybu codio ymhlith disgyblion yng Nghymru, sy'n cael ei gefnogi â £1.3 miliwn o gyllid newydd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Diwygio addysg - rôl cynradd

Darllenwch anerchiad Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg, yn ystod y gynhadledd i benaethiaid cynradd ar ddydd Mawrth 20 Mehefin

Cyhoeddi penodi i fwrdd achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon newydd

Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg dri phenodiad i fwrdd sy’n rhan hanfodol o’r ffordd y bydd athrawon Cymru yn cael eu hyfforddi.

341 o ysgolion i gael cysylltiad band eang cyflym iawn diolch i £5 miliwn o gyllid

341 o ysgolion i gael cysylltiad band eang cyflym iawn diolch i £5 miliwn o gyllid.

Cynlluniau Peilot cydweithredol ar gyfer Rheolwyr Busnes Ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau erbyn Dydd Mercher 28 Mehefin am arian cyfatebol gan Awdurdodau Lleol sydd am gymryd rhan yn y cynlluniau peilot cydweithredol ar gyfer Rheolwyr Busnes Ysgolion dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y cynlluniau peilot yn helpu Penaethiaid mewn clystyrau o ysgolion cynradd i reoli’n fwy effeithiol eu llwyth gwaith ac i ddatblygu arbenigedd fel y gall Penaethiaid ganolbwyntio’n well ar godi safonau.

Ar lein nawr: Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol - Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol

Mae gan yr Adnodd nodweddion ychwanegol hefyd ac mae ar gael ar Hwb.

Recriwtio ar gyfer Cynllun Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)

Dyddiau cau 10 Gorffennaf.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y cynllun CALU nesaf.

Digwyddiadau ymgynghori Fframwaith Gweithredu EOTAS

Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn fyw. Mae'r cynigion hyn yn cael eu hanelu at wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. I gefnogi'r ymgynghoriad hwn, bydd digwyddiadau ar y 14 Gorffennaf a 20 Gorffennaf 2017. 

Am wybodaeth bellach am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â WELLBEINGshare.

Gallwch archebu lle ar y digwyddiadau yn awr.

Rheoliadau ar rannu gwybodaeth am fyfyrwyr

Rydym am gael eich barn ar Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru)  2017 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.

DIWEDDARIADAU ôl 16

Athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith – Rhowch eich barn!

Dyma gyfle i chi rhoi eich barn gan gymryd rhan yn ein harolwg ymgysylltu ar gyfer safonau proffesiynol newydd i athrawon AB ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.  Datblygwyd y safonau hyn gan grŵp o athrawon/ ymarferwyr o’r ddwy sector.

hwb

Nodweddion newydd ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth ar gael ar Hwb

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod pecyn golygu mathemateg wedi’i ychwanegu at Hwb. Gallwch ddefnyddio’r pecyn golygu i deipio symbolau mathemategol a gwyddonol yn haws yn rhan o’r adnoddau a’r rhestr chwarae.

Daearyddiaeth TGAU 

Deunyddiau wedi eu hanelu at ddysgwyr TGAU Daearyddiaeth, Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi/ymchwilio a sgiliau gwaith maes, ynghyd â sgiliau ehangach y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

adnoddau

Adnoddau newydd ar gyfer athrawon a thiwtoriaid ar GyrfaCymru.com

Mae’r adran Gweithwyr Gyrfaoedd Proffesiynol ar www.gyrfacymru.com yn cefnogi athrawon, tiwtoriaid a’r rheiny sy’n gweithio yn y sector addysg i gyflawni eu darpariaeth gyrfaoedd a byd gwaith. Ewch i http://www.careerswales.com/cy/proffesiynol/ i weld dogfennau allweddol sy’n berthnasol i yrfaoedd, gwybodaeth am Farc Gyrfa Cymru, Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, y Newyddion Diweddaraf a mwy.

Mae hwyl i gael ar y fferm gydag ap Alun yr Arth a'i ffrindiau. #Cymraeg

Yn Cau'n fuan

Rolau Ymarferydd Ymchwilydd y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg (y Rhwydwaith)

Dyddiad cau: 12 o'r gloch (hanner dydd) dydd Lln 26eg Mehefin 2017 

Mae'r Rhwydwaith yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig a myfyriol o bob cyfnod addysg ym maes mathemateg yn ymarferwyr ymchwilwyr  Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu i ddatblygu addysgeg mathemateg, gallwch ddysgu rhagor yma.

Mae gan ysgolion a dysgwyr ddwy wythnos ar ôl i rannu eu barn

Agor tan 5 Gorffennaf

Mae gan ganolfannau, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill ddwy wythnos ar ôl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ganlyniadau rheoleiddiol Cymwysterau Cymru a'r broses o fapio Amodau. Mae'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ei weithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ddysgwyr a'r system gymwysterau yng Nghymru.

newyddion arall am addysg

Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon yn Penodi aelodau

Mae’r Cyngor Gweithlu Addysg yn chwilio am nifer o aelodau pwyllgor talentog a chydwybodol i ymuno â’r ‘Bwrdd’, dan gadeiryddiaeth Yr Athro John Furlong OBE, sydd bellach yn gyfrifol am ganfod derbynioldeb proffesiynol yr holl raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig, yng Nghymru.

Casglu data ar Gydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA)

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cysylltu ag ysgolion a cholegau i gasglu data ar Gydlynwyr CAAA. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (ALNET) arfaethedig a Rhaglen Trawsnewid ADY gysylltiedig. 

Gofynnir i CAAA/penaethiaid ymateb i CGA erbyn 21/7/2017. 

Cyswllt casglu data; ystadegau@cga.cymru 

 

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Herio plant ysgol ledled Cymru i fod yn arwyr ailgylchu

Bydd yr ymgyrch Her Ailgylchu yn y Cartref, sy’n cael ei gynnal drwy’r haf, yn gwahodd ysgolion cynradd o Gymru i annog eu disgyblion i ddod yn arwyr ailgylchu, gyda’r posibilrwydd hefyd o ennill gwobrau!  Cafodd yr her gan ein partneriaid ailgylchu Ailgylchu dros Gymru a Wastebuster ei lansio gan y cyflwynydd teledu Gethin Jones a Maddie Moate. 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews