eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 20 Mehefin 2017 (Rhifyn 171)

20 Mehefin 2017 • Rhifyn 171

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

KW9090

Ffrwd fyw'r Cynhadledd Penaethiaid Ysgolion Cynradd

20 Mehefin 2017, Caerdydd

Bydd penaethiaid ysgolion cynradd o ar draws Cymru'n dod ynghyd yfory ac yn clywed gan brif siaradwyr sy'n cynnwys Kirsty Williams AC, Yr Athro Graham Donaldson a'r Athro Mick Waters.

Os ydy'ch chi'n bennaeth ysgol cynradd a ddim yn Gaerdydd yfory, gallech ddilyn llawr y Gynhadledd drwy'r ffrwd fyw ar Twitter. #diwygioaddysgcymru


Bydd dolenni ar gyfer y cyflwyniadau a'r ffrydiau fyw ar gael yn fuan ar wefan Dysgu Cymru.

teachingtomorrow9090

Canlyniad yr ymgynghoriad Safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi ymatebion i’r ymgynghoriad ar safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a gynhaliwyd rhwng 2 Mawrth a 4 Mai 2017.

HWB

Profiad gwell wrth ddefnyddio Hwb!

Mae'r gwelliannau i'ch profiad o ddefnyddio Hwb bellach ar gael ac yn barod i chi. 

Byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau wrth ichi fewngofnodi, sy'n cynnwys gwedd newydd a nodweddion newydd, sydd wedi'u cynllunio i'ch bodloni chi a'ch anghenion. 

Darllenwch ein erthygl newyddion am restr lawn o welliannau.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Digwyddiad Cyfoethogi a Phrofiadau’r GCA – 26 Mehefin

Gwahoddir penaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu a llywodraethwyr o bob ysgol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thor-faen i fynychu'r digwyddiad RHAD AC AM DDIM ar sut i gyfoethogi dysgu a chyflwyno dysgu drwy brofiad yn eich ysgol.  

Bydd y diwrnod byr yn cynnwys tair elfen: rhannu arferion gorau a syniadau o ysgolion eraill, ac araith gyweirnod gan yr Athro Colin Beard gan ysgol busnes Sheffield.  Archebwch eich lle heddiw

Digwyddiadau ymgynghori Fframwaith Gweithredu EOTAS

Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn fyw. Mae'r cynigion hyn yn cael eu hanelu at wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. I gefnogi'r ymgynghoriad hwn, bydd digwyddiadau ar y 14 Gorffennaf a 20 Gorffennaf 2017

Gallwch archebu lle ar y digwyddiadau yn awr

Am wybodaeth bellach am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â WELLBEINGshare

Cynlluniau Peilot Rheolwyr Busnes Ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau erbyn Dydd Mercher 28 Mehefin am arian cyfatebol gan Awdurdodau Lleol sydd am gymryd rhan yn y cynlluniau peilot ar gyfer Rheolwyr Busnes Ysgolion dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y cynlluniau peilot yn helpu Penaethiaid mewn clystyrau o ysgolion cynradd i reoli’n fwy effeithiol eu llwyth gwaith ac i ddatblygu arbenigedd fel y gall Penaethiaid ganolbwyntio’n well ar godi safonau.

Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau Penblwydd 2018.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad  erbyn 28/07/2017.  Cysylltwch â ni trwy e-bost i dderbyn ffurflenni a gwybodaeth bellach.

Dyddiadau i'r dyddiadur  

Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018  ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.

adnoddau

Adnoddau i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 – 25 Mehefin

Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dechrau ar19 Mehefin. Mae Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru yn cynnig adnoddau i helpu’ch ysgol ddathlu’r cyfraniad y mae ffoaduriaid yn ei wneud i’n gwlad, ac i annog disgyblion i archwilio materion cymhleth megis mewnfudo a chyd-ddibyniaeth

Ditectifs y Deinosoriaid! 

Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex, drwy gyfrwng gemau a phosau.

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Rolau Ymarferydd Ymchwilydd y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg (y Rhwydwaith)

Mae'r Rhwydwaith yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig a myfyriol o bob cyfnod addysg ym maes mathemateg yn ymarferwyr ymchwilwyr  Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu i ddatblygu addysgeg mathemateg, gallwch ddysgu rhagor yma.

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol – Fframwaith Canlyniadau Athrawon

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Mae hyn yn cynnwys Fframwaith Canlyniadau Athrawon, sy’n adnabod y canlyniadau a’r dangosyddion allweddol a fydd yn helpu i wella  sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon i  sicrhau eu bod yn addysgu addysg ariannol effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews